Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IEMEI &OMER. Rhif. 245.] CHWEFROR. [Cyf. XIX DYBEN Y GELFYDDYD FEMWAWL. RHODDIR yr enw Meddwl i'r rhan hono sydd ynom, a wna i fyny "wrthddrych parhaol," ag sydd â'i ymddangosiadau a'i briodolderau yn wahanol iawn i'r rhiai a berthyn i Ddefnydd. Defuydd yw'r peth hyny ag sydd estynedig, rhanedig, &c. ; Meddwl yw'r peth hyny a gofia, a synia, a gymhara, a farna, &c. Fe ddywedwyd yn flaenorol nad ydym yn aüuog i ddarlunio En y Meddwl na En ý Defnydd, ac mai holl ddyben" neu amcanyrysgrifenydd yw daríuur^ a chwilio allan ymddangosiadau, neu briodolderau, neu gynneddfau y Me- ddwl. Y Meddwl a olygir yn sylwedd, â phriodolderau ganddo, yn hydderbyn- iawl* (susceptible) neu'n llafan i am- ry wiol serchiadau a dulliadau, pa rai a wna i fyny holl ymddangosiadau (phe- nomena) meddwl a syniad. Trwy ba lwybr y cawn allan beth yw priodol- iaethau, galluoedd, a llafanau y medd- wl? Nid oes modd, tebyg, a gaf i roddi gwell ateb nag yn ngeiriau yr enwog Dr. Brown, " Rhaid chwilio priodolderau y sylwedd Meddwl yn yrun dull ag y chwiliwn briodoliaeth- au Delnydd. Dywedir am yr aur, ei fod o bwys neillduol, yn felyn ei liw, yn hyblyg, yn doddadwy, ac yn gym- inysgedig, am fod yr holì briodoliaeth- au hyn wedi bod o dan ein sylw ni ein hunain neu ereill; felly y dywedwn am y Meddwl, mai y peth hyny yw a ddirnad, a gofia, a gymhara, acyn hy- dderbyniawl, neu yn llafan i amrywiol gyffroadau neu deimladau, am ein bod ein hunain yn wybyddawl o'r holl bethau hyn, neu ynte a'u gwelsom mewn ereill. Nid oes hawl genym i ddywedyd fod un aniad (quality) yn briodoliaeth i'r aur na welsom ein hun- ain, neu a allwn dderbyn oddiwrth • Hydderbyniawl, oddiwrth hy, aptitude ; a derbyn, to receiae. SusceptibU. ereiil, yn sylwadau pa rai y gallwn ymddiried yn hollol; felly, hefyd, nid oes hawl genym i ddywedyd fod un gynneddf neu lafanad gyífredinol yn perthyn i feddwl dyn, os nad ydym yn wybyddawl o hono ein hunain, neu fod genyni awdurdod un arall, gwybydd- jaeth yr hwn sydd ddiammheuol.'.' He- fyd, " bydded i gofio, na ellir canfod galluoedd na gweithredoedd y meddwl ond trwy sylwad manwl ar y meddwl *ei hun, ac y bjddai mor gymhwys i ni chwilio allan trwy arbwyileg, (logic,) heb gynnorthwy sylw a phrawf, y gwa- hanol liwiau a wna i fyny belydr haul, ag i gael ailao trwy resymeg gyfrwys a priori y gwahanol syniadau ag sydd mewn un meddwl neunwydau." '. Y drefniad uchod yw'r un a elwir Baconaidd, etto y mae yn anghenrheid^- iol i gofio, na rodda-c^mhwyliwriaetn (induction) un goleu i ni am uniondeb ein neillduol serchiadau na'n hym- ddygiad. Dywed wrthym pa fodd yr ydym yn alluog, trwy gyngosodiad y meddwl, i deimlo a gweithredu, ond nid pa un a ydynt yn uniawn ai peidio. Ar un olwg, y mae y wybodaeth o BETH sydd, yn unrhyw â'r wybodaeth am beth A ddylasai fod mewn dyn ; y mae rhan naturiol (neu'r cyngosodiad anianawl) y meddwl, fel ag y dylai fod, am mai Duw a'i gwnaeth; am hyny, pau y cawn allan, trwy gym- hwyllwriaeth, Iafanau naturiol yr en- aid dynol, a'i amrywiol alluoedd syn- iadawl, ni a wyddom beth a ddylasai dyu fod yn y pwynt hyny; etto y mae yn rhaid gwahaniaethu rhwngllafanau neu alluoedd i syniaw, &c. a pha un a ydynt yn gweithredu yn uniawn ai peidio. Y bôd ag sydd yn Uafanawl i gyflroadau digllawn, os nad yw yn weithredwr moesol perífaith, a all fod mewn digter anghymhwys; am byny, medd y Dr. Brown, " pan y gwyddom fod gan ddyn ryw serchiadau a nwyd- au, (passions,) y mae, er hyny, yn aros