Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§EBEI ŴOIER, íìhjf. 244.] IONAWR. [Cyf. XIX. Y PARCH. JOSEPH WOLFF. TEITHIAÜ rhyfeddol y boneddig hwn ydyntwedi synu yr holl fyd, ac y mae y peryglon mawrion ag y raae wedi myned trwyddynt yn ar- ddangos yn eglnr law Rhagluniaeth yn ei gynnal 'yn "ddiogel, pan nas gallasai un cynnorthwy dynol' ymddangos yn debyg i ddwyn gwaredigaeth iddo. Aelodan.y Gymdeithas er Taenu Crist- ionogaèth yn mhlith yr Iuddewon, a gynnaliasant gyfarfod yn ddiweddar yn Lhindain, i'w glywed ynadrodd ei amryw hèlyntion, cyn y byddai iddo ymadael tua Thimbuctoo, yn Affrica, lle y bwriada fyned yn ddioed, i bre- gethu i'w frodÿr gwasgaredig yn y parth hwnw o'r byd, er mor beryglus yr ymddangosa yr anturiaeth. Yr ysgrifenydd parchedig a eglur- odd ddybenion y cyfarfod, ac a ach- wynodd nad oedd yr Iuddewon wedi cael digon o sylw y Cristionogion, y rhai a ymddangosent yn fwy tueddol i'w gorthrymu a'u condemnio, nag i wella eucyflwr a'u diwygio. Yr oedd Gweinidog o Eglwys Loegr wedi dy- wedyd na lwyddodd y Gymdeithas hon i ddychwelyd cymmaint ag un Iuddew. Camsyniad mawr' oedd hwn, yr hyn a ellid yn hawdd brofi trwy lwyddiant y 39 cenadwr ag oedd yn awr yn llafurio dros y Gymdeithas. Gwir ddychweledigion a ellid yn awr ddangos yn y bril-ddinas ; ac yr oedd lOOoIuddewondychweledigyn ngwlad Pwyl, 700yn Berlin,a 1000yn Rwssia. Mr. Wolffoedd yn íuddew dychwel- edig, ac yn un o'r dynion rhyfeddaf yn yr oes hon. Wedi bod ar ddwy genadwriaeth at weddillion gwasgar- edig tý Israel, a theithio yn agos dros yr holl fyd, yr oedd yn awr yn myned tua Thimhuctoo,—dinas ag oedd wedi cymmeryd sylw penaf teithwyr o bob cenedl, ac wrth geisio edrych pa un y collodd Mungo Park ei fy wyd; yn wir, ni ddychwelodd un Ewropiad o honi erioed mewn diogelwch. Yr oedd Mr. Wolff wedi penderfynu myned yno,ac yna yn mlaen trwy ganolbarth Affrica, i Benryn Gobaith Da, acoddi- yno adref. Nis gallai pawb a werth- fawrogent ei ymdrechiadau dros ei frodyr Iuddewig, lai nâ dymun^llwy- ddiant iddo. Er pan briododfl â'r foneddiges ardderchog, ai wraig, *&■• Foneddiges Georgiana Walpole,) nid oedd wedi cyffwrdd à ffyrling o'i medd- iannau hi, rhag y bydnid yn camddar- lunio ei ddybenion ; cenadwr anymddi- bynol ydoedd efe, a'r unig gynnorth- wy arianola gafodd yn ei genadwriaeth ddiweddaf, a ddaeth, er cywilydd i Gristionogion, oddiwrth ddau frenin paganaidd. Y Parch. J. Wolff, wrth gyflwyno ei hun i'r cyfarfod, a derbyniwyd gyda banllefau uchel o gymmeradwyaeth gwresog oddiwrth ei gyfeillion ; ond y rhai nad oeddynt wedi ei weled o'r blaen, a ddangosasant gymmaint o aw- ydd i gael cip olwg ar ei berson, fel yr aclioswyd ychydig p derfysg yn y lle. Ymddengys Mr. Wolff tuaóü mlẁydd oed, o wneuthuriad cryf, a'i wyneb- pryd yn dra meddylgar a synwyrgraff. Wedi yn gyntaf hysbysu ei foddhad wrth ganfod ei hun yn cael ei amgylch- ynu gan gynnifer o gyfeillion Cristion- ogol, a thystio mai ei unig ddyben oedd dwyn oddiamgylch dröedigaeth ei frodyr Iuddewig, efe a roddodd hanes darluniadol o'i genadwriaeth ddiweddaf, yr hwn nis gall lai nâ rhoddi y dywenydd mwyaf i'n darllen- yddion. Ei genadwriaeth gyntaf a ddechreuodd yn y flwyddyn 1818, pryd, wedi myfyrio yr ieithoedd dwy- reiniol dan y Parch. C. Simeou a'r Athraw Lee, yn Nghaergrawnt, yr yr aeth efe i Rufain, o ba le yr alltud- iwyd efgan y Pab. Yna efe a aeth yn olynol i bregethu i'r Iuddewon yn Gibraltar, Malta, yr Aifft, Mynydd Horeb, Mynydd Sinai, Joppa, Antio- chia, Aleppo, Bassorah, Ispahan, ac