Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 313.] HYDREF, Í841. [Cyf. XXIV SYLWADAU AR RHÜFEINIAID IX. ^YMUNOL fyddai i bawb ystyr- ied fod Paul yn byw mewn am- ser hlin iawi), a llawer o anhawsderau yn cyfodi yn ei erbyn o bob tu, ond o du y nefoedd. Ni fynai yr Iuddewon yn gyff'redin wrando arno, am ei fod yn pregethu Crist yn Iachawdwr i'r Cenedloedd ; ac ni fynai y Groegiaid ei gredu, am ei fod yn cyhoeddi bywyd i becliaduriaid trwy farwolaeth Crist. Haerai yr Iuddewon nad oedd Duw yn gwneuthur yn gyfiawn à hwy, o herwydd fod y Cenedloedd yn cael eu galw trwy yr Efengyl i dderbyn y ben- dithion ag oeddynt hwy yn feddwl nad oeddynt yn perthyn i neb ond iddynt liwy eu hunain, tran mai iddynt hwy fel cenedl y rhoddwyd addewidion ac oraclau Duw ; ac nad oeddi'r Cenedl- oeild un fraint na bendith, ond bod yn wrthddryclniu digofaint Duw! Yr Apostol, gan hyny, yn y bennod gyn- taf o'r llythyr, a ddengys iddynt yr aclios paham y gadawodd Duw i'r Cen- edloedd fod cyhyd dan y barnedigaeth- au trymion, sef am nas gogoneddasaut ef iiugys Duw, ac am iddynt newid gogoniant yr anllygredig Dduw, a new- id gwirionedd Duw yn gelwydd, ac am nad oedd gymmeraduy gauddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, &c. Arn liyny y rhoddes Duw hwynt i fyny ; ac nid dim mewn arfaeth nac etholedig- aeth oedd yr achos. Wedi dangos nad oedd Duw dderbyniwr wyneb, nac yn rhoddi neb i fyny i galon-gal- edwch, nes y byddent, o achos eu pech- odau gwaeddf'awr, wedi addfedu eu hunain i farn, yn nechreuyr ail bennod, dyweda y hydd pawb, Iwdiiewon a Chenedloedd, yn ddiesgus yn y farn, os yn ol y byddant, am eu bod yn di- ysiyru golud ei ddaioni ef, a'i ddy- oddefgarwch, a'i yniaros, heb iawn ys- 'yried mai dyben Duw, trwy ei ddai- 0!>i, oedd eu tywys i edifeirwcb, ac mai trwy harhau yn gwneuthur daioni y "yddai iddynt etifeddu bywyd tragy- wyddol; ond os i'r gwrthwyneb yr yinddygent, sef gwrthod ei gynnygion grasol, y byddent yn trysori iddynt eu huuain ddigofaint erbyn dydd y digof- aint, a dadguddiad eyfiawn farn Duw, yr hwn a dâl i bob un fel y byudo ei waith. Yna efe a eglura uniondeb a chyfiawnder Duw tuag at.bawb, y rhai diddeddf ysgriienedig, yr un modd â'r rhai oedd à deddf ganddynt; ac na ofynai Duw gan neb ond yn ol yr hyn a gyfranodd efe iddynt. ac y celai pawb uniondeb pan y byddai Duw yn barnu dirgeloedd dynion yn y farn a ddaw. Yn mhellaeh, dengys fod Duw yn dda i bawb, er fod Ilawer yn yr oes hono, fel yn yr oes hon, yn barnu am Dduw ei fod yn Dduw pleidiol. Efe a rydd y gofyniadau canlynawi:—" Ai i'r Iuddewon y mae efe yn Dduw yn un- ig? Onid yw i'r Cenedloedd hefyd?" Yna yr etyb yn gadarnhaol, *' Yn wir, y mae efe i'r Cenedloedd hefyd." Ac fel na byddai i neb wangalmi, wrth feddwl am y golled a gafwyd trwy drosedd Adda, efe a ddengys mai mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw trwy IesuGrist; ac os mai trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondein- niad, fod ar gyfer hyuy y dawn wedi dyfod ar bob dyu igyfiawnhad bywyd; a lle yr amlhaodd pechod, y rhagor amlhaodd gras ; ac wedi eglur ddangos fod Crist wedi marwdros y gwerniaid, dros yr annuwiol, dros ei elynion, a thros beclìaduriaid, ac fod Iesu Grist yn iawn, yn gymmod dros bechodau, a hyny wedi tarddu oddiar anfeidrol gar- iad Duw at bechaduriaid tlodion, efe a ddywed, " Pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth ?" Yn nechreu y bennod hon, Paul a ddengys ei dosturi, mewn modd difrif- ol, dros ac yn achos ei frodyr, sef yr Iuddewon. Efe a ddengys duedd ei ysbryd wrth wynebu ar ei orchwyl. " Y gwirionedd yr wyf fi yn ei ddy- wedyd yn Nghrist." Nid rhyw fym- pwy gnawdol ; ond y gwir, a dim ond y gwir ; a'i gydwybod yn cyd-dystiol-