Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 312.] MEDl, Í84L. [Cỳf. XXIV. DARLITH AR ATHRONIAETH NATURIOL. A DRADDODWYD GERBRON CYMDEITHAS ER NODDI GWY- BODAETH GYFFREDINOL, GAN IAGO GLÂN CHSSNIOG. MAE yr Arglwydd wedi rhoddi y fatb amlygiadau o liono ei hun- an yn y greadigaeth, fel y mae pawb wcdi eu cynnysgaelhu à manteision i'w adnabod, acymostwng iddo ; a bod yn barod i gyd-dystiolaethu â'r Psplm- ydd,—" Mor ofnadwy wyt yn dy weith- redoedd ! Deuwch a gwelwch weith- redoedd Duw. Dadgenwch ogonhnt ei enw ; gwnewch ei foliant yn ogon- eddus." Cyn y gall dyn ewyllysio unrhyw weithred yn dêg, mae yn gwbl anghenrheidiol iddo ddeall rhywbeth ynghylch y cyfryw ; oblegid y mae ei gydawniad o unrhyw ymddygiad yn ymddibynu ar ei ewyllys, fel egwyddor îywodraetbol eiysgogiadau ; ac y mae penderfyniad ei ewyllys yn yinddi- bynu ar y briodoliaeth wreiddiol bòno, a elwir canfyddiaeth, (perception,) yr lion liefyd a ddygir i weithrediad dan ddylanwad y gwrthddrychau allanol a fyddo a fỳno â bwynt. Maedyn wedi ei greu ar y fath egwyddorion, fel y niae tueddiadau arbenis> ynddo at sylwi ar betbau y greadigaeth ; oddiw rth yr Iiyn y gellir casglu fod gweddillion o'r ddelw hòno a osododd Duw ar ei fedd- wl yn y tyntaf, etto yn aros i ryw raddnu. Mae yn aros adfeilion o'r wybodaeth ydo'edd fel haul dysclaer yn ffurfafen ei ganfyddiadau, ond ei bod wedi gwanhau gymmaint fel mai prin y mae i'w gweled ; a'i llewyrch mor dywyll niewn byd lle y mae cym- niaint o ail achosion yn ymdỳru ar eu gilydd, fel nas gall ei meddiannydd ond prin gwneutburgwahaniaeth rhwng ygwira'rgau; a thrwy hyny arweinir ef yn aml gan ei goleuni aneglur i wadu hyd y nod y Bod a'i gwnaeth, neu i wrtbwynebu egwyddorion dys- claer Cristionogaeth, ac i ffurfio cyfun- 33 draetbau cyfeiliornns, pa rai a'i goll- ynganti ddystryw yn y diwedd. Ònd y mae mewn dyn alluoedd, a pheiriaunau priodol ar gyfer myfyr- io, ynghyd â thueddiadau arbenig at hyny hefyd ; ac ar gyfer byny, mae yn y greadigaeth eangfawr wrthddrych- au addas i'w sylw, digonol i lenwi ei amgyffredion à mawreddigrwydd, i ean»u ei enaid mewn gwybodaeth, ei godi i sylwi ar ddyfnderoedd gwir ddoethineb,— i rtjfeddu y creadur, ac I ADDOLI DüW. Heblaw hyny, ffurfir ei gymmeriad yn ol ansawdd ei ymddygiadau at bethau o'i amgylch ; oblegid y mae yn yr un gwrthddrych fanteision iddo fagu llygredigaeth yn ei galon, a chwerw- der yn ei ymarweddiad, ar un llaw,— yngbyd àphurdeb yn ei galon, doethin- ebyn ei ddeall, a gwirddiniweidrwydd yn ei fuchedd, ar y llaw arall ; gan hyny, o herwydd fod y manteision ìiyn ì/n bod, mae yn rhaid eu bod ar gyler rbyw Iwriad ac ymarferiad, trwy yr hyn y gwelwn anfeidrol ddaioni a doethineb y Creawdwr, ei fod wedi cynnysgaetliu dyn â galhioedd a thu- eddiadau i fyfyrio ar y petbau o'i am- gylch, a chymharu y n°ill beth â'r llall, fel y gwrthodo y drwg, ac y dew- iso y da. Ar y golygiad yma, cawn y greadigaeth yn desiun myfyrdod, ac yn ystafell myfyrdod i ddyn; ac yn- tau, ar y llaw arall, wedi ei fwriadu yn fyfyriwr arni ac ynddi,—a hyny er ei ddwyn i afael ac adnabyddiaetb o Dduw fel Creawdwr a goru«cb-lyw- odraethwr pob petb, à llenwi ei feddwl â'r parch mwyaf tuag ato, i gyfeirio ei gamrau at ei ogoniant, yn mha am- gylchiadau bynag ei gosodir o ran ei sefyllfa yn y byd. Mae cymmaint