Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 311.] AWST, Ì841. [Cyf. XXIV. COFNODIAD AM HERBERT JONES, LLANDYSSIL, CEREDIGION. GWRTHDDRYCH y Cofnodiad canlynol, yr hwn a aned Chwef- ror yr 20fed, 1821, oedd Herbërt Jones, mab i Evan Jones, dilledydd yn Llandyssil, a Jane ei wraig, y rhai ydynt yn aelodau o eglwys y Bedydd- wyryn Mhenybont, yn y lle hwnw. Yr oedd y dyn ieuanc hwn o gyfan- soddiadac iechyd eiddilach a gwaelach nâ llawer o'i gyfoedion yn y pentref; etto, yr oedd o dymheraa ac yshryd gwirionach a mwyach nâ nemawr o honynt. Yr oedd fel pawh o hil Adda, yn llygredig wrth natur, ac yr oedd nefyd yn wahanol yn ei farn i'r teulu a'i gyd-chwareyddion am amryw beth- au; ond byddai raid i'r gwahaniaeth fod o gryn bwys cyn y c}rmmerai ef yn wrthddrych atnryson yn ei gylch. Os clywid llais a bloeddiadau direswm ereill, odid y gellid dweyd, " Mae Ií. yn y chwareu, gwn wrth y llais." Yr oedd, yn fwyaf cyfl'redin, ar hyd yr wythnos, cyn iddo ddechreu dysgu ei gelfyddyd gyda'i dad, yn fugaiì; eitlir ar y Sul, ar amser cwrdd ac ysgol, yn Mhenybont, yn wrandawwr ac ysgol- haig. Gan ei fod yn hoffi pregethu, ac yn wrandawwr craffus, tra wrth ei gynnil wylio dranoeth ar y maes bu- geilia, cafodd rhai eì glywed yn ym- gais ail bregethu y pethau a glywsai y dydd o'r blaen, gyda llawer o dde- heurwydd, ac ystyried ei oed. (Cy- wilyddied y crefyddwyr hyny nad ynt Dyth yn ail feddwl y pregethau a gly- want.) Yr oedd y trengedig yn bar- haus o'r anian yna tra fu byw ; ond nidmor gyhoeddus. Bwriadai ymuno â phobl Dduw er yn foreu iawn ; a daeth i mewn i'r winìlan yu ei dair olwydd ar ddeg oed. Yr oedd yn fywiog a goslyngedig ; ac yn deilwng 0 gael ei efelychu gan bawb mewn dau beth yn neillduol:—1. Yn ei brydlon- rwydd yn dyfod i'r cwrdd ac i'r ysgol. Os dygwyddai weithiau i rai o'r teulu ei gadael yn hir cvn gwisgo, a raethu 29 myned i'r ysgol at yr amser, nid Her- bert fyddai y cyfryw; ni fyddai eg- rnwyth nes cael ei hun yn harod, ac ai allan, gan ddweyd, wrtli edryeh ar yr awrlais, '* Y mae yn bryd hefyd." 2. Yn ei ffyddlondeb o'u plaid. Yroedd nior ffyddlawn, fel nad oedd ei bres- eunoldeb na'i oreu byth yn ddiffygiol, oddieithr fod y ddarfoderiigaeth yn ei gadwyno. Ei ymdrech diweddaf fu o blaid yr ysgol, yn yr hon, er gwroled ei ysbryd, diffyg anadl a gwendid a wnaethant iddo droi yn ol, a gadael y gwaith i ereill, er rnor hoff ydoedd ganddo, a'r hyfrydwch gwastadol a gelai ynddo. Gwedi y tro hwn, yr oedd ei iecliyd a'i gorff yn gwaelu yn hynod fuan, fel nad allodd ddyfod oud ychydig weithiau rawyaçh i'r cwrdd uac i'r ysgol ; etto, ni waethygai ei synwyr, ac ni wanychodd ei serch at yr ysgol ua'r achos ; canys Sabboth neu ddau wedi iddo fethu myned o'r tý, bu daer iawn wrth ei frawd, ain iddo fyned i'r ysgol ac at grefydd. " Cerdd i'r ysgol heddyw, da ditìiau, (medd eí'e,) a chadw fy lle i; yr wyf fi yn gwaethygu bob dydd, ac ar fyr byddaf wedi myned i fyd arall. Os nad aiff fy mrawd i gadw fy lle, pwy aiff? O, na chawn dy weled yn gwneyd dy oreu i gadwr y fyddin i fyny yn ddi- fwlch ! Yr Alhrawon ani y flwyddyn hon, trwy ba rai y tynais y pwyth di- weddafam byth, ydynt yna; yr wyf yn eu rhoddi i ti,—cymmer a darllain hwy, a derbyn y rhai a ddel etto. O, Lewis ! a addewi di wrthyf fì yn awr, a pheidio cyflawni etto." Yn mhen wythnos etto, yr oedd yn waelach fyth. Ei wedd a anharddai, ei edrychiad oedd yu hyll, ei Jygaid siriol oeddynt yn fwy trwm a chlafaidd, gau gilio o'r golwg, a'ianadl yu íyrach a gwanach, a gobaith gwella yn rhy fach i'w ganfod. " Byddaf farw yîi fuan," eb efe, mewn tawelwch mawr, gan annog ei berthynasau i beidio wylo