Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 308.] MAI, 1841. [Cyf. XXIV. TRAETHAWD AR ELUSENGARWCH* " Ys Crist, yn drist, dan boen drom, Fu o'i râd'râs farw drosom ; Gwael na ro'em, o galon rydd, Ein golud dros ein gilydd."—Dewi Wyn. Tri Haelion ynys Prydain, Mordaf. Nûdd, a Rhydderch."—Trioedd y Beirdd. '■ Dyngarwyr, douiau gorhael; Cofier hwyut, ac Ifor Hael." CYFLAWNDER y Gyfraith,dyben yr Efengyl, a swm boll dcíyled dyn, yw Cariad. Dau brif fath o gariad sydd, sef cariad o byfrydwch, a chariad o ewyllys da. Cariad o hy- írydwch, yn anwrthwynebol a ddir- gymbellir gan hawddgarwch a theilyng- dod y gwrthddrych a gerir ; a'r gwrth- ddrych a gerir, yn y mwynhad o hono, a dâl yn ol i'r liwn a gara. Felly, yr olaf, sef y cariad o ewyllys da, yw y mwyaf haelfrydig, am nad yw yr hwn a gara felly, yn golygu ad-daliad yn ol yn y mwynhad o'r gwrthddrych a gerir. Ond gall un brofl'esu ei fod yn feddian- nol ar y c&riad rhagorol-ryw hwn, ar air ac ar dafud, pan heb ei feddu yn ei galon ; ond am bob un sydd yn meddu y rinwedd fawreddog hon, ag sydd wedi ei nodi allan yn destun y Traelhawd yma, sef Elusengarwch, y mae y cyfryw yn ei brofi ei hun yn sylrt-eddol feddiannydd ar y cariad tra rhagorol a goflä\\yd,a hyny nid ar air ac ar dafod yn unig, ond hefyd mewn gweithred a gwirionedd. Ond mewn trefn i sylwi ar y rinwedd dderchafedig yma, 1. Cawnystyried beth sydd i'w ddeall wrth Elusengartcch.—Wrth Elusen- garwch y mae i ni ddeall y gorhoft'edd rhinweddol hwnw .ig sydd yn yr hael- ionus i gyfranu elusenau, neu roddion, tuag at ddiwallu y tlawd a'r anghenus, i'w hesmwythâu a'u gwneyd yn gys- urus. * Barnwyd hwn yn Fuddugawl ar y testuD, Cylchwyl Llanharan, Nadolig, 1839. 17 Nid yw pob rhoddion, (sef cyfran- iadau bebgydwerth am danynt,) megys cariad-roddion i rai mewn llawndid, &c. i'w hystyried yn elusenau, na'r rhoddion a ddirgymhellir ac a orfodir gan ddedfau gwladol, i'w hystyried yn briodol felly,—na rhoddion yn cael eu rhwymo gan berthynas naturiol chwaith, megys rhoddion rhìaint i'w plant, &c. ; ond y rhoddion hyny a gyfrenir oddiar rydd a gwirfoddol ewyllys da i ddiwallu tlodi ac anghen, a'r gorhoffedd a deimla yr hael yn yr arferiad o gyfranu felly, sydd i ni i'w ddeall yn briodol wrth Elusengarwch. Gall un fynychu rhoddi elusen, ac etlo heb fod dan ddylanwad Elusengarwch, megys pan fyddo un yn rhoddi elusen am lòd ei rhoddi yn arferiad dan y fath amgylchiad, neu ei fod yn gyw- ilyddus ganddo beidio; neu pan fyddo un yn rhuddi er mwyn cael yn ol fwy, rnewn ffordd o ad-daliant, &c. rhodda, eithr nid o hofl'der yn y gwaith ; ond lle y byddo Elusengarwch yn dylenwi y fynwes. y mae ynoymhyfrydu yn y gwaith. "Rhoddion, i'wglod, rodda'D glau A siriawl, o'i drysorau." 2. Egwyddorion cynhyrjíol Elusen- garwch.—Y mae y rha'i hyn yn am- rywiol; weithiau cyfarfyddant i gyd- weithredu yn yr un dynsawd, pan mewn ereill bydd rhai yn gryfach a rhai yn wanacb. Prif egwyddor gyn- hyrfiol rhai i roddi elusen,yw yraw\-dd i feddu yr enw da a gyrhaeddir trwy hyny. Nis gallwn wadu nad yw yr egwyddor hon yn rinwedd. Y mae y