Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 307.] EBRILL, 1841. [Cyf. XXIV. BYWGRAFFIAP PLWYF LLANYCRWYS, SWYDD GAERFYRDDIN. MAE yn arferiad cyíFredin yn ein gwlad i ysgrifenu Bywgraffiad- au Gweinidogion parchus ; ac os bydd ereill â rliyw befh yn eu buchedd a'u bywyd yn teilyngu efelychiad, a sylw yr oesoedd dyfodol, arferiad y Cymry yw cadw eu rhinweddau mewn coffad- wriaeth. Mae hanes dynion da, os na fyddant Weinidogion, yn peri llawer o hyfrydwch i'r meddwl diwair a duw- iol; ac yn creu ynddo awydd am ym- debygu iddynt mewn pob rhinwed a daioni. Mae hanes dynion a hynod- ant eu hunain gyda gorchestion y bywyd hwn, yn cael ei gadw mewn coffadwriaeth, yn cyffrôi llawer a'i darlleno i ymdebygu iddo ; ac os yw ymdrech gyda phethau a dderfydd yn deilwng o'i gofio, sicr yw y dylem gofio pob ymdrech a welwn gyda phethau na ddarfyddant byth. Mae coffadwriaeth y cyfiawn yn fendiged- ig, pan fyddo enw y drygionus yn pydru. Ganwyd Dafydd Thomas yn agos i bentref Llandyssil, ar y 15fed o Awst, 17ö6. Yr oedd ei rieni yn cael eu hystyried yn ddynion duwiol. Yr oedd ei dad, sef y Parch. Zecharias Thomas,* yn dra adnabyddus yn ei oes, a pherchid ef yn fawr, gan bawb a'i hadwaenent, fel dyn duwiol a rhin. weddol; ac ystyrid ei gyfeillach ef yn addysg ac yn fendith. Yr oedd ei deimladrwydd, ei dosturi, a'i ysbryd haelionus, yn sirioli llawer wyneb ang- henus; ac y mae yr un dymher dru- * Bu y Parch. Z. Thomas yn pregethu Crist 59 o flynyddau, ac yn Weinidog parchus fyw hyd ei farwolaêth, a D. Thomas ei fab hyd ei farwolaeth yntau. 13 garog yn parhau i fyw yn ei blant a'i ŵyrion ar ei ol, hyd heddyw. Yr oedd D. Thomas yn un o naw o blant, tri o ba rai a fuant farw yn eu mabandod ; a'r rhai a dyfasant i oedran a maint, ydynt oll wedi marw, ond un, sef Mrs. Martha Evans, gweddw y Parch. Mor- gan Evans,f gynt o Bantycelyn ; ac y mae genym hyder cryfi ddweyd mewn barn cariad am danynt, eu bod oll " yn ofni Duw, ac yn cilio oddivvrth ddrygioni." Am fod eu rhieni wedi eu gwneyd yn deimladwy o'r drwg sydd mewnpechod, cawsant yn eu hieuenc- tyd eu hyfforddi yn mhen eu ffordd ; ac y maent yn gadael tystiolaeth ar eu hol, nad ymadawsant à hi yn eu hen ddyddiau. Addysgwyd hwy yn foreu i ymarfer yn ddiwyd â phob daioni, trwy osod o"u blaenau hysbysiad pri- odol am naturac effeithiau y ddau fyd, sef y byd hwn a'r byd dyfodol,—y cys- sylhiad sydd rhwng y naill a'r llall,— fod dwy sefyllfa yn yr un dyfodol,—a bod y byd hwn yn arllwys plant Adda oll i un o'r ddwy hyny, yn ol fel y gweithredont yma. Tra thebygol i'r addysgiadau boreuol a gawsant, blanu eu meddyliau mewn ymarferiad cyf- addas i natur y ddau fyd, trwy fod ýn ddiwyd a llafurus gyda'r pethaua ber- thynant i bob un o'r ddau ; trwy ddar- paiti yn ddoeth a phriodol i gwrdd am- gylch'iadau y naill fel y lla.ll. Cafodd gwrthddrych ein Cofiant addysg helaethach nâ'r cyffYedin yn ei ieuenctyd- Bu am ryw dymmor gyda'i ewythr, y Parch. J. Thomas, yn Llanllieni, (Leominster,) gyinmaint à'i f Bu y Parch. Morgan Evans yn pregethu Crist6-t'o flynyddau; ac yn We'inidog der- byniol a chvmmeradwy, ani lawer o flyuydd- au, yn y Bontnewydd â Phantrcelyu.