Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 301.] HYDREF, 1840. [Cyf. XXIII. TRAETHAWD AMWEETHFAWROCRWYDD PETHÂU DÂEABOL PAN YN WYNEBU AR BETHAU A BYD TRAGYWYDDOL. -------f------- [parhad o'r rhifyn oiweddaf, tudal. 260.] YR ail ystyriaeth o dan y dosparth yma fydd, pethau daearawl, o ran eu mwyniant, yn yr arferiad a wneir o honynt yn y byd. Yn yr ystyriaeth yma y mae dau fath o fwyniant yn cyfodi i'n sylw; y cyntaf yw y mwyniant teilwng a gym- merir o bethau daearawl, y cyfrai ynt yn llesawl i ddyn, ac yn foddus gan- ddo, ac ar yr un pryd yn unawl ag ewyllys Duw yn nghyfraniad bendith- ion ei ragluniaeth ; y llall yw y mwyn- iant annheilwng a gymmerir o bethau y byd, sef camddefnyddio rhadau Rliagluniaeth hollddoeth. Er arbed meithder olrheiniadawl yma, gellir dywedyd yn y cyfanswm am drigolion yr hen fyd, iddynt hwy gymmeryd cymmaint o fwyniant an- nheilwng yn mhethau y ddaear, fal y darfu iddeu camweddau godi cyfuwch â gorsedd Ior ; yr hwn, er arbed llif- eiriant trais, trythyllwch, anghyfiawn- der, a phob rhyw bechod arall, a fodd- odd yr hen fyd, ac a drefnodd lwybr trwy yr arch er achub pâr o bob rhyw- ogaeth, er ail-boblogi y droellen ddae- arawl, &c. Pe buasai pethau daearawl o ryw lesiant erbyn eilfyd, neu o ryw bwysau yn nghlorianau Ior, er meddu gwynfyd y nef, gallasai y cynddiluw- iaid fod wedi cynnyg Uawer o'r cyfrai am arbediad y diluw, estyniant eu bywyd, ac am y Wynfa tudraw i'r Iorddonen ysbrydawl; ond y Duw pur, dihalog, glàn, a santaidd, sy can bured ei olygon fal nas gall edrych ar anwir- edd, ac " Er aur o rif yr eira, Derbyu wyneb neb ni wna." Pal yna, oddiar orsedd ei ogoniant, yn eiddigeddus dros gyfiawnder yn nghyf- lawniad ei eirchion, a chadwedigaeth ei ddeddfau, fegynhyrfwyd ei lidiog- rwydd tuag at wrthryfelwyr y ddaear; yna, yn ei benderfyniad i amddiífyn ei ogoniant, fe berodd i'r eigion obry ferwi i'r lan yn yrachwyddawl a ffrocb- wyllt—agorodd ffenestri y nefoedd, a thywalltasant hwythau eu dyfroedd yn genllusgoedd i'r llawr—ymgyíarfu dyfroedd y nefoedd ac eiddo yr eigion mawr yn nghyd ar chwareufwrdd y ddaear—berwodd y naill ohry, ymar- llwysodd y Uall o fry, hyd nes ym- chwyddasant yn un ceínfor môr-gym- mlawddaidd a dygyforawl, a'i dònau ewynog yn treiglo oddiar ganolbarth y ddaear draw hyd y pegwyni pell, yr hyn oedd diluw Ior, yn golchi ymaith annuwiolion budreddog y cynfyd, ac yn glanhau y ddaear oddiwrth bechod ac aflendid ; yna fe osododd yn y nef arwyddion o'i farnedigaetliau yn y ddaear, er rhybjdd iddei elynion, a chalonoctid i'r rhaì a ufyddhant iddei eirchion.yn eu gorymdaith trwy anial« wcb anhygyrch y fuclìedd hon. Dyna un prawí'cadarn nad yw pethau daear- awl o un lles yn angeu, &c. Etto, pethau daearawl yw cyfoeth byd. Y mae llawer yn ymdrechu ddydd a nos am aur a tlirysorau, pa rai a ddarfyddant yn mhen enyd fech- an ; ymglymant wrth gyfoeth, ymeg- niant yn ddibaid a diorphwys hyd eu marwolacth i gasglu ynghyd gyfoeth lawer, a'r rhan fwyaf a ant i'r bedd heb deimlo na mwynhaugwir les rhad- au Duw yn oi ragluniaeth dyner a go- falus, er cymmaint eu trachwant yn casglu y cyfryw ynghyd. Mwyniant pechadurus ac annheilwng etto o bethau daearawl, yw yr hyn a feddiennir gau y meddwon, y Uadron, cybyddion, puteinwyr, cribddeihvyr,