Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 300.] MEDI, 1840. [Cyf. XXIII. TRAETHAWD ANWEBTHFÂWROGEWYDD PETHAU DAEABOL PAN YN WYNEBU AR BETHAU A BYD TRAGYWYDDOL.* 1VTID yn aml y gwelir unrhyw gais J. i ymbwytbawl yn y Cymdeithasau Cymreig, ar bynciau neu destunau crefyddol, er y gellid yn hawdd roddi cystadleuaeth, ar dir ysgrythyrawl, allan o'r holl sefydliadau uchod, heb ofui y cymyüd crefydd Mab Duw drwy y fath weithrediad, ac heb ofni hefyd y dygid dynoliaeth yn rhy amrysongar; yr hyn a ochelid drwy ymgadw oddi- wrth destunau dadleuawl a phleidiawl. Y cyfrai sydd wedi ac yn parhau i gythryflu y byd Cristionogawl, a hyny er ymfîrost i'r diafol a chynnydd iddei deyrnas, ac yn alar dwys i ganlynwyr heddyehlawn yr Oen a laddwyd dros bechadur, ac yn rhwystr i ledaniad teyrnas efengylaidd y Messíah bendig- edig yn y byd hwn. Os yw testuuau hanesyddawl, hynaf- iaethawl, barddonawl, ar dir moesol- deb, yn tueddu i ymhelaethu cylch gwybodaefh y Cymro, o barthed peth- au llesawl a rheidiawl, yn y bywyd byr a brau yma, paham na fyddai testunau a gyfarfyddent ag angeu, barn, ac eil- fyd tudraw i'r beddrod llygredig, yn llesawl hefyd i drigolion y byd ? Fe berai y testunau dan sylw ymchwiliad ysgrythyrol, yn y cyfrai y gwelid ym- weliadau grasawl Duw tuag at ddyn, mewn cread, rhagluniaeth, cynnaliad niewn bywyd, arfaeth dragywyddawl, darpariad ei iachawdwriaeth dragyw- yddawl, maddeuant ei bechodau drwy effaith gwaed y groes, a'i wynfyd ar ororau y wynfa bur, tudraw í lygredd pechod, ing, a gwae, &c, yr hyn, o dan fendith Ior, a wnelai y creadur dynyn ei holl ddosparthion yn fwy * Barnwyd y Traethawd hwn vn fuddugol y°' ^ghylchwyl Cymreigyddion Pontyfôn, yn y î*« 1839, am ba ün ý derbyniodd vr Awdwr y Wobr o Gwpan Arian, rhodd Mrs. Llewel- yn, y Vurlong. 33 gwareiddgar a cliyfeillgar, yn ffydd- ionach ac yn anrbydeddusach aelod o'r gymdeithas fawr ddynawl, yn uf- yddach i lywiawdwyr teyrnwialenawl, gan blygu i gyfreitbiau teg a rhesymol y wladwriaeth, a byw mewn parcb tu- ag at ddyn, ac yn ofn Duw, trwy ystod bywyd, a myned i lawr i rydiau afon angeu }rn ei law rasawl, a marw yn ei heddwch, a llygaicl y pechadur yn gweled iacliawdwriaeth Duw bendig- edig Israel. Nid oes y fath beth à chyrhaeddyd mantais ar unrhyw betb, heb fod an- fantais hefyd yn lawlaw efo eu gilydd. Fal yma y mae yr Eisteddfodau Cym- reig, oddiar eu badferiad yn Ngbaer- fyrddin yn y flwyddyn 1819, «edi bod yn foddion i godi degau o feirdd, a feddant " lygaid i weled natur, calon a deimla natur, a glewder a faidd gan- lyn naîur;" ac ugeiniau o ysgrifenwyr gloywddawn ac ystyrbwyll, drwy y Dywysogaeth. Y fath yw cynnydd llenoriaeth Gymreig y blynyddoedd diweddar, fal y mae yn awr rai ìnil- oedd o Fisolion Cymreig yn taenu eu goleu ar Gymru yn gyssonawl, ac y mae gogwydd tueddfryd y wiad wedi myued ar ol y rhai hyny,—un ar ol peroriaeth, arall ar ol barddoniaeîh, arall ar ol dadleuon, ac ereill ar oì dychymmygion, gofyniadau, hanesion, gwleidiadaeth, &c. Y mae mwy nâ deuddeg mil o lyfr- ynau Cymreig, chwe cheiniog yr un, yn awr yn cael eu darllen bob mis yn Nghymru, ac y maent wedi denu serch gwywedig yr hynafgwr a'i gymhar bywyd, y bobl ganol oed a'r tô ienanè, ac fe geir yn eu cynnorthwyo offeiriad- on a phregethwyr, ynghyd à duwiolion da o bob enwad ; a'r fatb yw cynnydd gwj^bodaeth yn mysg y werinos, faí y ceir lluoedd o ddynion, drwy froydd