Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 299.] AWST, 1840. [Cyf. XXIII. TRAETHODION GAN D. AP MYS STEPHEN. SHIPYM VI. GWAITH YR YSBRYD GLAN. Tlie connexiou that subsists betwecn the forgiveness of sin, and the cure uf'the moral malady ofmir nature, is of vast moment in the system of redemption. It is this two-fold provision which constitutes the perfect adaptation of Christianity to the state of the parties it is designed to relieve; and which, while it furnishes a free pardon for their transgressions, prevents the abuse of that pardon, and secures the ultimate dcsign for which it is bestowed. William Orme, Discourses, 8fc. p. 217. YMAE o bwys mawr i ni wybod y gwir, nid yn unig am ein cyf- lwr gerbron, ac yn nghyfrif, Duw, eithr hef'yd, cyflwr ein meddwl tuag ato ef; y mae gwahaniaeth gwirionedd- ol rhwng y ddau betli hyn, er nad yd- ynt yn bod ar wahan. Nid digon y blaenaf heb yr olaf; nid yw ein cyf- iawnhad gerbron Duw yH ddigon heb i ni gael egwyddorion a thueddiadau uniawn a santaidd, fel y byddom, yn ein nodweddiad allanol, ac. yn ein han- iaeth fewnol, yn cyfateb i ddarluniad- au y Gair cyssegredig. Y mae yr Efengyl wedi darparu ar gyfer yr amgylchiad hwn, ac y mae Iesu Grist, md yn unig yn " Brynedigaeth," ond Itefyd yn " Santeiddrwydd " i ni. Ächos effeithiol Santeiddiad y pech- adur yw gwaith yr Ysbryd Glan. I brofi hyn, digon yw cyfeirio at rai o fynegiadau eglury Gair Ysbrydoledig. Dywedir ein bod yn cael ein hachub, nid o weithredoedd cyfiawnder, &c. eithr trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân. Y mae Cristionogion yn caeí eu geni o'r Ys- bryd. Eíe sydd yn argyhoeddi o bechod, o gyfiawnder, ac o farn. Efe sydd yn peri, yn rhoddi bodoliaeth i hob daioni moesol, ac ysbrydol, ynom. Cynnwysir gwir grefydd, brofiadol ac yraarferol, mewn rhodìe yn ol yr Ys- bryd; ac y mae yr holl ragorion a addurnant nodwcddiad y credadyn, yn ffrwythau yr Ysbryd. Nid yw yr Ysbryd bendigedig yn gweithredu yn uniongyrchol, heb fod'd- ion, ar y galon ; eitíir drwy, a chyda 29 moddion. Y Gair Santaidd yw yr ofleryn a ddefnyddir; efe yw yr arf â'r hwn y clwyfir y galon ddrygionus, —y cleddyf sydd yn cael ei gym • hwyso i drywanu yr ysbr}d haîoged- ig ; ac efe, wedi hyny, sydd yn cael ei gyrahwysoatyr)enaid,i iachâu, cysuro, goleuo, arwain, a gwarchadw. "Sant- eiddia hwynt yn y gwirionedd," oedd weddi ein Harglwydd ar ran ei ddys- cyblion. Un o orchwylion y Dyddan- ydd yw cymmeryd o eiddo Crist, sef y gwirioneddau ara dano, a'u my- negi iddei bobl, ac efelly arweinir hwynt i'r holl wirionedd. Trwy hwnw y maent hefyd yn cael cryfhad iddeu lì'ydd, eu gobaith, a'u cariad ; a thyst- iolaethau Duw a'u cysurant mewu trallod a cliystuddiau, ac a'u llonant yn ymyl angeu, ac yn angeu a'n cyn- naliant, ac a'u cadwant rhag suddo i wendid ac anobaith. Nid oes unrhyw ran o'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb yn eglurach, ya y Gair glàn, nà'r un uchod,—sef fod y pechadur a gredo yn yrlesu, yn cael ei sauteiddio; drwy air a chan Ysbryd Duw,— y blaenaf yw yr ofteryn, yr olaf yw yr achos efleithiol; y mae yn y blaenafaddasrwydd cynuwynol i argy- hoeddi, drwy osod allan ddrwg pcchod, a darlunio, yn y tnodd bywiocaf, ei ganlyniadau ofnadwy ;—addasrwydd i beri edifeirwch, drwy fynegi cym- hwysder y weithred o edtíarbau ýnddi ei bun, a dwyn gerbron barodrwydd y Duwdud i dderbyn yr edifeiriol, a ma- ddeu iddo;—addasrwydd i iachâu y galon glwyfedig, drwy y gwaed gwerth-