Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 297.] MEHEFIN, 1840. [Cyf. XXIII. TRAETBAW9 AR Y FENDITH ANNHRAETHOL I'R BYD YN GYFFRED- INOL O ADFERIAD YR IÜDDEWON. (PARHAD O'R RHIFYN DIWEDDAF.) YFENDITH a ddeillia i'r byd yn gyff'redinol oddiwrth adferiad yr Iuddewon. Gwelir yn awr fod anghenrheidrwydd ara y sylwadau blaenorol, i'r dyben i egluro y bendithion dyfodol, ac mai nid afraid oeddynt i gyd. Wrth sylwi o'n hamgylch ar druenusrwydd y byd yn gyffredinol, gwelir fod rhyw achos- ion o'r drwg ag sydd ynddo i gael eu symud cyn y gallo ddyfod yn dded- wydd. Nid anghrediniaeth yr Indd- ewon ydyw yr achos ; ond y trosedd boreuol, pan fràsgamai ein rhieni yn Mharadwys dros lân ddeddfau eu Cre- awdydd mawr. Y canlyniad o hyn yw, fod ein llygaid yn canfod nid yn unig y dolydd gwyrddleision, y caeau meill- ionog, a chnydiau toreithiog y maes- ydd ; eithr drain hefyd a mieri, ysgall, a chwỳn niweidiol ereill! Nid ffrwyth- lonrwydd y ddaear a welir yn unig, eithr ei diffrwythder hefyd. Èr llaw- enychu o'r galon wrth fanwl sylwi ar y deadelloedd defaid a gyforant ystlysau y bryniau, y gwartheg blithion a frith- ant y dyffrynoedd, a'r ychain cyrnig a gynnyddant yn barhaus ; etto, yn ngha- nol gorfoledd, meddiennir hi â dych- ryn wrth ganfod difrodiadau y blaidd, y llew, a'r arth ; a byddaut ddynolion eu hunain yn griddfan dan effeithiau brathiadau gwenwynig y ci neu'r wib- er ! Wele afiechyd yn ymosod ar y teulu dynol yn ei hoìl a'mrywiaethau brawychus, ac mewn ychydig ddydd- iau yn yspeilio y wyryf hardd bryd- weddol o'r rhosynau a brydferthent ei gwedd; yn rhoddi dyrnod i'r llanciau heinif a Uon, fel nas gallant ymunioni hebattegion ; ac wedi estyn einioes dros ychydig flynyddau, dan y ddedfryd foreuol, gwelir rhaffau bywyd yn ym- ddattod, a'r adeilad yn myned i'w ysgarthion dan bwys effeithiau trosedd esgorfa y diafol ei hun. O! y llèni caddugawl y bu oesau y byd yn ym- dreiglo rhyngddynt!! Oud y mae gwawr y Nef wedi rhwygo y llèni yma, gan egluro i ni trwy Efengyl gyssegr-lân ein Harglwydd Iesu Grist, y bydd i'r bydyssawd a'i breswylwyr gael eu hadferu i'w sefyllfa gyssefin. Y mae addewidion ar addewidion wedi eu rhoddi i ni am y dedwyddwch yma, y rhai oll a gwblhêir pan adferir yr Iuddewon i'w bro ei hun. Un o'r prif fendithion oddiwrth ad- feriad yr Iuddewon, fydd symudiad y ywreiddiol achos o holl ddrygau dynol- ry w, gyda golwg ar ei brofedigaethau, ei hudoliaeth, ei dwyll, ei arglwydd- iaeth, a'i alanastra. Y gelyn dinystr- iol hwn yw yr hwn *• oedd û, nerth marwolaeth ganddo. hyny yw, diaíol."* Ymddangosodd Tywysog hedd yn myd y trallod blin i'r dyben ■ i ddattod gweithredoedd hwn. Pa mor niferog ydynt ei weithredoedd ef! Y mae ftyrdd marwolaeth yn aralrywiog—y raae afiechyd a chlefydau o bob rhyw yn genadon angeu. Nid ysgafn yw dyoddefiadau y rhywogaeth ddynol diin arteithiau yr wrwst, neu'r poen dirdynol, gwasgfeuou poeth y dwym- yn, yr haint frawychus, y newyn dû, y clwyf tumewnol, y rhefrwst, y prudd- glwyf pendrist, y gynddaredd loerig, y ddarfodedigaeth, y dyfrgluyf, y fog- fa, a'r gymmalwst iasboeth. Onid y gelyn, yr hwn oedd â gallu marwol- * Heb. 2, 14; 1 Ioau 3, 8 ; Job 1 a'r 2; lago 4,7; Marc9, 16-29; Ioan 14,12; Luc 10, 19; Marc 16, 17, 18; Luc 10, 18; a'r 4; Math. 4 ; 1 Sam. 16, 14.