Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

152 HANESION. gwyl gael oedd prawf amgylchiadol rhesym- ol, ag oedd yn ddigoa o 'foddlonrwydd i'w meddyliau; ond na ddyleut ddwyn y ear- charor yn euog, os ystyrient v prawf a gaws- ent yn wau ac annigo'nol. Yna efe a rodd- odd yr achos yn nwylaw y rheithwyr. Bu y rheit'hwyr'allau o'r llys yn ystyried eu rheíthfarn, am awr a phymtheg myuyd; ac yn y cyfamser ni ddygwyd uu achos arall yn mlaen. Ar eu dychweliad, Ysgrifenydd y Brawdlys a ofynodd am eu rheithfarri, a'u blaenor, dan d'eimlad dwys o bwysfawrog- rwydd yr amgylchiad adfydus, a ddywedodd, "ËUOG." ' Mor fuan ag y cyhoeddwyd y rheithfarn, ymaflodd arswyd yn yr holl lys; a'r carchar- or a soddodd ÿn ol vn y lle, mewn goíid me- ddwl annirnadwy. Yn mhen ychydig amser, y Barnwr a'i hanerchodd, ac a ddywedodd wrtho ei fod yn cylunoyn hollol â'rrheithwyr am ei euogrwydd", ac erfyuiodd arno droi ei feddwl at Achubwr pechaduriaid, gan nad oedd un gobaith iddo am faddeuant yn y byd hwn. Yna efe a'i dedfrydodd i'w grogi, a'i gladdu o fewn muriau y carchar; eithr ni phenodwyd yr amser. Yr oedd y carcharor, druan, wedi syrthio i lewyg wrth glywed y ddedfryd yn cael ci chyhoeddi; a chyu gyn'- ted ag yr adfywiodd ychydig, cariwyd ef yn ol i'r carchar mewn" cyflwr o annheimlad- rwydd hollol. Nid oedd yma oud dwy hawl gyfreithiol, y rhai a orpheuasant y Brawdlys. BRYCHEINIOG. Brawdi.ys y swydd hon a agorwyd yn Aberhonddu, gerbron yr Ynad Maule, ar ddydd Mawrth, y 'ilain o Fawrth diweddaf, a phrofwvd y carcharorion canlynol:—Thomas Williarns á William Green, amledrad yn nhŷ Samuel Watkins, o blwyf Llanigon.—dwy flynedd o galedwaith. M'ary Evans, am led- rata cloron oddiar William Davies, Llysdi- nam,—wythnos o galedwaith. Daniel Saun- ders, am gynnyg twyllo un Anne Price o ddau swllt,—wyth mis o galedwaith. Eras- mus Jones a James Evans a addefasant eu bod yn euog o wneyd ymosodiad sarhaus ar ddau heddgeidwad,—wythnos o galedwaith. Ni chafwyd ysgrif gywir yn erbyn Ilenry Habacuclc, a gyhuddid o derfysg; nac yn erbyn Thomas Price, a gyhuddid o drose'dd annaturiol. Evan Evans, am ledrata pladur oddiar James Price, Brynone, plwyf Llanaf- an-fawr, deunaw mis o galedwaith. John Jones, am uno á chynnulliad bradwr- us, a myned yn arfog, gydag ereill, i dy Rees Philips, o blwyf Llanelli, ac annelu dryll ato, a gwneyd iddo uno â hwynt trwy ofn; ac hefyd cymmeryd oddiyno yn lledradaidd un dryll, eiddo Roger Philips,—deng mlynedd o alltudiaeth. David Lewis, (>/ Brenin Crispin,) am gadw cymdeithas o Siartiaid yn ei úŷ ei hun, yn Llanelli, a rhoddi iddynt lwon anghvfreit'h- lawn, a'u hannog i arfogi eu hunain, a thori yr heddwch,—saith mlynedd o alltudiacth. Ishmael Evans, am yr un trosedd,—saith mlynedd o alltudiaeth. Walter Meredith, William Price, Wilh'am Williams, Thomas Kidley, James Godwin, a David Evans, am uno â chydfradwriaeth ang- hyfreithlawn, a pheri i ereill uno â hwynt o'u hanfodd, ar nos y 3ydd o Dachwedd diwedd- af,—dwy flynedd o galedwaith, ac ymrwymo mewn £51) am eu hymddygiad da rhagllaw. John Thomas, a gyhuddid o'r un troscdd, aryddhawyd; ac ni chafwyd ysgrif gywir yn erbyn Thomas Powell, trwy fod dau o'r tyst- ion yn ei erbyn wedi encilio. John Price a Heroert Price, am gynnyg ysgrif ffugiol ar- iandy mewn taliad am ddêg "punt, yn mhlwyf Llanfairmuallt,—tri mis o galedwaith. John Ashley, am ledrata dillad, a phethau ereill, oddiar James Hill, plwyf Llangroyney,— deng mlynedd o alítudiaeth. Isaac Coates, am ledrata dillad oddiar Joiin Evans, o blwyf Llangadog,—pedwar mis o galedwaith. Wil- liam Voss, Thomas Pritchard, James Price, a Jonas Williams, a gyhuddid ofynedi mewn trwy orthrech i dý Wm. Williams o'rBwlch, a gafwyd yn ddieuog. Nid oedd yma ond dwy hawl gyfreithiol, a'r rhai hyny yn hollol ddibwys. MAESYFED. Brawdlys y swydd hon a agorwýd yn Llan-Andreas, gerbron yr un Barnwr, ar ddydd Sadwrn, yr 28ain o Fawrth diweddaf, pryd y cafodd y carcharorion canlynol eu profi:—Willíam Meredith, am ledrata adar dofion,—chwe mis o galedwaith. William Cheshire, a gyhuddid oledrata dafad, arydd- hawyd. James Whiteman a fforfl'cdiodd ei ymrwymiadau, trwy beidio ymddangos i /Ider- oyn ei brawf. Richard Lloyd, a gyhuddid o ledrata dafad, a ryddhawyd. Harriet Mere- dith, am ledrata crys oddiarun Wm. Palfrey, —6 mis ogaledwaith. Yr oedd ymabum hawí gyfreithiol; ond o ddiffyg lle, 'nis gallwn eu crybwyll bob yn un ac un, pe buasent o bwys i rywrai heblaw y plcidiau a'u dygent yn mlaen. MYNWY. Yn Mrawdlys olaf y swydd hon, a agorwyd yn Nhre-Fynwy, ar ddydd Iau, y '26ain o Fawrth diweddaf, gerbron yr Ynadon Pat- teson a Gurney, y carchar'orion canlynol a brofwyd:—John Jones a William Brown, am ledrad yn mhlwyf Casnewydd, chwe mis o galedwaith. Wílliam Powell a John Lewis, a gyhuddid o ledrata arian, a gafwyd yn ddi- euog. Henry Iledges ac Elizabeth Bulloclc a gafwyd yn euog o ledrad yn uhŷ Michael Keenan. o blwyf Trefethin, dau tìs o galcd- waith. Charlotte Drcw, am lcdrata cig moch, mis o garchar. William Closc, am yr un trosedd, tri mis o galedwaith. Thos. Davies a F. Burley, am ledrata cwrw,—Burley 4 mis o garchar, a Daviesddau fis. Abel Rees, am ledrata glo, mis o galedwaith. George Killy a Thomas James, am ledrata llodrau, dau fis o galedwaith. Daniel Rose, am led- rata dillad, pedwar mis o galedwaith. Arthur Jones, am dddynladdiad Ëvan Rees, o Bcd- wellty, dau íis o garchar. Joseph Kingel ac Eli Jenlcins, a gyhuddid o ledrata glo,—caf- wyd Kingel yn euog, a dcdfrydwyd cf i saith mlynedd o alltudiaeth, a chafwyd Jenkins yn ddieuog. Elcanor Cunvin, a gyhuddid o led- rata dillad gwely o Weithdy y Tlodion yn y Fenni, a gafwyd yn ddieuog. Emanuel Edwards, am ledrata gwair, dau fis o galed- waith. John Carroll, am ledrata arian oddiar John Bennet, o Gasgwent, chwe mis o galed- waith. John Murrey, Thomas Lahay, Dayid