Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SËBEM GOIEB. Rhif. 231.] RHAGFYR. [Cyf. XVII. ^m^m^m^wu) DDYBENION CYMDEITHAS GYMMROAIDD. Un o Destunau Cymmrodorion Merthyr Tudfyl, erbyn eu Cylchwyl Flynyddol, Gorphenafláeg, 1834. FOD dyn yn greadur cymdeith- asgar, ei fod yn cael ei leshau trwy gymdeithas â'i gydryw, a bod cymdeithas yn ffordd mwy effeithiol nag unigolrwydd}< at gyrhaeddiad dy- benion neillduol, sydd wirionedd nad ammheüir. Er yr addefiad hwn am Gymdeithas yn gyffredin, pan gry- bwyller am fathau neillduol o Gym- deithasau, haerir yn aml, un ai eu bod yn aneífeithiol at gyrhaeddiad eu dy- benion, neu fod y dyben a arrìdelwir yn anghymmeradwy. Tebygol nad òes yr un gangen o Gymdeithas ddyn- ol ag yr anghytunir mwy yn ei chylch nâ Chymdeithas Gymmroaidd ; gan hyny priodol iawn ydyw rhoddiad tes- tun o'r fath i sylw y Gymdeithas. Cymdeithas Gymmroaidd, yn y tes- tun, a gynnwys yr holl sefydliadau hyny a gynnelir yn awr yn Nghym- mru, (a chynnelir rhai yn Lloegr, a rhanau ereill,-) a berthynant i Iaith, Cenedl, a Dysgeidiaeth y Cymmru, ereu gelwir, er mwyn gwahaniaeth- ad, yo Gymdeithasau Cymmreigyddol, Cymmreig, &c. Diau, y dysgwylir yn y Traethawd hwn, nid yn unig grybwyíliad noeth o Ddybenion Cymdeitnas Gymmroaidd; bnd hefyd, ddangosiad fod y dybenion byn yn cael eu cyrhaedd, yn nghyd â r buddioldeb a'r rheidrwydd o'u cyrhaeddiad. Yn gyntaf,—Un o Ddybenion Cym- deithas Gymmroaidd ydyV, gwareidd- iaw a moesoli ieuençtyd= Cymmreig. Gwirionedd anwadadwy ydyw, fod Hawer o ieuenctyd Cymmru yn rhed- eg i ddrygioni gyda champau ac ar- ferion niweidiawl; ond Cymdeithas Gymmroaidd a ddynoetha warth y cyf- ryw arferion, trwy ymarweddiad da ei 45 haelodau,—trwy syìwi ar destunau yn cynnwys rhinweddau a drygau cy- ferbyniol, megys gostýngeiddrwydd a balchder, grwgnachrwydd a bodd- lonrwydd, meddwdod a chymmedrol- deb, diogi a diwydrwydd, &c.; a thrwy ddangos gwerth gwybodaeth, a chreu awydd am dani, hyd oni ddi- ddyfner y meddwl oddiwrth y pethau niweidiol a ddilyni<i gynt. Er prawf o hyu, gellir crybwyll, nawelwyd neb yn feddw, nac yn ymddwyn yn an- addas, yn ystod wyth ueu naw mlyn- edd ei sefydliad. Yn ail,—Dyben arall ydyw meith- rin cyduabyddiaeth a chyfeillgarwch rhwng dynion o'r un tueddiadau. Diareb GynunreJg a ddywed, " Adar o'r unlliw a dynant i'r unlle;"— dynion a hofî'ant yr un pethau, a gyrcbant i'r manau hyny lle yr ym- drinir à'u hoff bethau. Trwy fod y naill jn mynegi ei feddwl i'r llall, bÿdd yr hyn a ẁyr un yn dyfod yn wybodus i lawer, a'rbyn a ŵyr llawer yn dyfod yn wybodus i bob un yn uh- igol. Y canlyniad o'r cyd-darawiad hwnyn eu harchwaeth, a'ucyfraniad y naill i'r lla.ll, ydyw ffurfiad cyfeill- garwch annattodol. Y cyfeillgarwch a ft'urfiwyd rhwng dynion o wahanol raddau mewn Cymdeithas, a barhaodd dros eu hoes, ac a fu o'r hyfrydwch a'r lles mwyaf iddynt. Yn drydydd,—Creu awydd am wy- bodaeth Gymmreig, a rhoddi cyfleus- drai ieuenctyd ac ereill csod eu don- iau mewn gweitbrediad. Y mae gwarthrudcloSaeson a Saesneg, agwa- rafun ymofyn am wybodaeth ar faes- ydd ieithoedd ereill, wedi diflauu o'r Cymdeithasau y dyddiau hyn; ond haera pob Cymmro diledryw etto, mai