Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ËR£I ŴOIEB. Hhif. 228.] MEDI. [Cyf. XVII. MYFYRDODAU AR WEDDI. Anwyl Gyfejllion, ^IWEITHRED o garedigrwydd VX pur yw dymuno i ereill íbd yn ddedwydd yn gystal à ni ein hunain. Peth priodol yw hyn mewn crefydd, ac oddiyma -y niae ei harwydd-air, " Gogoniant yn y Goruchaf i Dduw, ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da." O dan yr argraffyma, yr wyf yn cyrnmeryd yr hyfder o wahodd eich sylw at ychydig o fyfyr- dodau a fu o f'udd nid bychan i mi fy hun, ac a fydd, yr wyf yn hyderu, os ystyriwcli hwynt yn ddifrifoì, o gym- maint budd i chwithau. Er na ddarfu i chwi, fe allai, hyd yn hyn, eu golygu yn y goleu ag y gofyn eu mawr gan- Jyniadau ; etto, trwy wybod eich hyn- awsedd, fe'm cefnogir i gredu, pan eu gosodir yn iawn ger eich bronau, na fydd fy llafur yn ofer ac am ddim. Fy amcan wrth ysgrifenu'r ychydig fyfyrdodau hyn, y tro presennol, ydyw auncg fy nghydwladwyr yn gyffredinol, ond yn fwyaf enwedigol plant yr Ysgolion Sabbothol, i arfer gweddi daer yn y dirgel. Gellir pen- derfynu nad yw pregethu ddim yn ateb y dyben, oni bydd eich calon- nau yn cael eu cyffrôi i weddio Duw yn y dirgel. Os na bydd pregethau, tan fendith Duw, yn eich rhwymo i blygu'ch gliniau yn fynych o flaen gorsedd gras—yn eich darostwng i'r ìlwch—ac yn eich tywys i daer erfyn am fendithion ysbrydol, ofer yw holl lafur Gweinidogion, a dilcs yw'ch holl wrando chwithau. Beth dâl gosod allan eich dwfn drueni wrth uatur, a'ch mawr berygl fel pechaduriaid cwbl-goüedig, onichewcheich gwasgu i lefain ar Dduw am faddeuanta thru- garedd? Beth dâl pregethu Cristcroes- hoeliedig i'ch clustiau, oni bydd eich calonau yn cael eu dwyn i erfyn iachawdwriaeth trwyddo? Pa les yw cyheeddi fod Duw yn barod i roddi ei Ysbryd Glân i bawb a ofyno ganddo, 08 esgeuluswch ei geisio trwy weddio Duw yn y dirgel ? Pe dwys fyfyriech 3i ar y cynghorion pwysfawr y'ch yn fynych glywed o'r areithfa, gan frysio tuag adref heb siarad am y byd, ac heb gyfarch eich gilydd, yn y modd ynfyd, cellweirus, ag y gwelir llawer- oedd cyn ymadael â phorth y deml; ped erfyniech dniciiefn yn y dirgel am i Dduw gymhwyso yr hyn a glywsoch at eich cyflwr, a'i fendithio er líes i'ch enaid, trwy haeddiant ei auwyl Fab, pwy allai draethu'ch llwyddiant cre- íÿddol ? pwy fynegai'r filfed ran o'ch cysuron ysbrydol? Os gofynwch, Beth yw Gweddi? At- tebaf, 1. Llais yr anghenus gerbrou Duw holl-ddigonol i gynnorthwyo, ydyw. 2. Llef pechadur euogarno Ef, yr hwn yn unig addichon faddeu. Nid tì'raethinebtafod, ond taernicalon; níd geiriau têg, ac ymadroddion llithrig; ond dwfn deimlad o'ch euogruydd yn eich gyru at Grist i erfyn maddeuant, cymhorth, ac iachawdwriaeth trwy "Jefain cryf a dagrau," ac fe allai trwy ocheneidiauanuhraethadwy. Gof- ynaf, A glywsoch chwi ddyn ar newynu yn erfyn bara i'w gadw'n fyw? Dyna Weddi. A welsoch chwi ddyn wedi ei farnu i'w golli yn erfyn am estyniad einioes? Dyna Weddi. A welsoch chwi ddyn ar soddi i'r dyfuder yn edrych yu awchlyrn tua'r làn, gan ymbil am gymhorth a gwaredigaeth ? Dyna Weddi. Ond beth yw'r holl sefyllfaoedd hyn, wrth eu cymharu â sefyllfa enaid anfarwol ar ben ceuian pwü anobaith. Dyma gyflwr pob enaid wrth natur, a phwy yn gweled ei hun mewn lle nior beryglus all esgeuluso Gweddi. l'ch annog a'ch cymhorth i weddio, cofiwch Weddi'r Publican, pan Jefodd o ddyfnder calon, " Duw, bydd dru- garog wrthyf fi bechadur." Cofiwch Weddi Pedr, pan waeddodd, " Ar- glwydd, cadw fi, neu derfydd am danaf yn y dyfnfor." Cofiwch Weddi Bar- timeus ddall, pan grech-lefodd er gwaethaf pawb, "Iesu, Fab Dafydd,