Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN ŴOIEB. Rhif. 227.] AWST. [Cyf. XVII. DAELITH A DRADDODWYD GER GWTDD CYMDEITHAS CTMMREIGTDDIOH CAERLDDD, GAN IEUAN AB GRUFYDD> GAN i ni dderbyn cymmaint o ddy- wenydd, a gwybodaeth addysg- iadawl, oddiwrth y cyfaill hyfedr a draddododd y Ddarlith ddiweddaf ger ein gwydd,* inae yn ofynawl i mi fod yn wyliadwrus heno, tra ar fy mhedion, rhag "tywyllu cynghor ag ymadrodd- ion heb wybodaefh." Canys eí'e a egluràodd, gyda hyawdledd amedrus- rwydd, y moddion, neu y deddfau, a osododd y Creawdydd i fyned â gorch- wylion rhyfeddawl y grëadigaeth yn mlaen; darluniodd sefyllfaoedd yr holl fydoedd adnabyddus yn Nosparth yr Haul, eu maintioli, eu pellderau, eu chwyrn-droadau, &c. Uangosodd lwybrau bwâawg Merchyr, Gwener, y Ddaear, y Lleuad, Mawrth, Iou, Sadwrn, &c. Ardraethodd ar ddos- parthiadau Pythagoras, Aristotle, Ptolomy, Tycho, a Newton, mewn modd medrusawl, er budd ac adeilad- aeth i'r holl wrandawwyr. Wrth adfyfyriaw ar y cyfryw, a thrybylu yr ëangder annirnadadwy, yn mhlith planedau amdröedig sydd yn chwyfiaw yn y gwagle anfesurawl crybwyíledig, * denwyd fy meddwl i ystyried yn ddwysach a manylach ar yr hon y cyfanneddwn ni, sef y Ddaear. Hyderwyf y bydd ychydig loffion myfyrdodawl, a dyfynau, ar y fath destun, (er eu hafluneiddruydd,) yn foddion i'n dysgu i adnabod ein hun- ain, ac i fod yn ostyngedig ac ufydd yn ein fefyllfaoedd ; a'n trybwyllaw i ddirnad am fawredd, galluogrwydd,' a doethineb y Creawdwr ; canys wrth ddyfal ystyried, canfyddwn fod hyd y nod y dognedd dirfawr o sylwedd cynnwysedîg yn y byd^'ssawd, yn profi * Sef Darlith raçorawlar Seryddiaeth, gan Mr. David Thomas, o Abertawy. 90 mewn modd cadarn ac eglur, alln hollalluawg? a gwybodaeth annhraeth- adwy, yr hwn a'i creodd o ddiddym. Trybwl ydym wrth feddwl am y cyfryw, ac anhawdd ydyw lluniaw drychfeddyliau cy wir ar y fath bwnc; canys pan y ceisiwn ddarluniaw tyb- iadau o berthynas iddo, mae y medd- wl yn hollawl ymddyrysu yn ei amgyff- rediadau, ac ar goll yn mhale i ddech- reu neu i ddiweddu ei wibynidaith ymofynawl. Wrth ymdrech i furfiaw rhywbeth tebyg i feddylddrychau darluniedig ar bwnc cyftelyb i'r hwn sydd dan ein sylw, rhaid i-ni ddilyn gosgorddres o ddrychfeddyliau, gan ddechreu gyda'r- maintioli neu'r helaethder hyny, pa un y gall ein meddwl afaelu ynddo yn lled hawdd, a dilyn yn rheolaidd trwy yr holi raddau cyfryngawl o faiutiol- aeth, gan sefydlu ein hystyriaeth ar bob rhan o'r gadwen arweiniawl fod- rwyawg hon, nes cyrhaeddom y gwrtb- ddrych ym^eisiedig, neu y maintioli, o'rliwn y chwennychem arluniaw ein dirnadaeth. Rhaitl i ni yn awr, yn y lle cyntaf, ymegniaw i luniaw drychl'eddwl cywir am sum, a rhefdra y Ddaear, sef y byd y preswyliwn ynddo; yr hwn, er nad yw ond ychydigyn mewn cyra- hariaeth i'r nifer o fydoedd anfethlig, chwyfedig, sylweddawl, amgylchyn- awl iddo, sydd er hyny mewn gwir- ionedd, o faintiolaeth rhyfedd ac ar- uthrawl, y cyfryw nad all ein meddwl ei gyrhaedd, neu afaelu ynddo, heb lawer o ymegniadau gorchestawl a llafurus. Gallwn luniaw rhyw ddrychfedd- yliau cywreinwych trwy ymdrech a dyfal fyfyrdawd, am y mwlod odd- fawg a alwn ni mynyddoedd, neu drumiau cribawg gwlad ein genedig-