Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JiEREW &OMER. Rhif. 226.] GORPHENAF. [Cyf. XVII. GLANIAD MORDEITHWYR RHWYMEDIG FR NEF. PREGETH, &,c. ACT. XXVII. 44 " Ac felly y dygwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddiangol." * OS cymharwn fordaith hywyd dynol i hono o eiddo yr Apostol ar ei daith i Rufain, y cyfatebolrwydd a brawf yn íuddioí ac addysgiadol: geill peryglon a gwaredigaethau y naill, yn naturiol ein hadgoíFàu ni o demta- siynau,profiadau, achanlyniad y lla.ll. Oddiwrth yr holl bennod hon, ni a allwn gasglu y gwersi mwyaf buddiol; yn neillduol o berthynas i ragluniaeth Duw, ei ofal arbenig am ei was Paul, a'r caredigrwydd a estynwyd, er niwyn Paul, a'r rhai a gyd-fordwyent ag ef. Yr oedd yr Apostol wedi ymrwymo yn nghyflawniad dyledswyddau ei weinidogaeth, abwriadDuw, ynghylch appelio at Caesar, pan wynebodd efe i'rdymhestl; rhaid i'r Cristion beidio a dysgwyl bod yn rhydd oddiwrth drallodion bywyd, hyd y nod, er iddo fod wedi ei aiddgar ( zealoushj) feddiannu yn ngorchwyl ei alwedig- aeth uchel, ar y ffordd ag sydd yu arwain i ogoniant, a'r nefoedd yn llawn mewn golwg. Geiriau y tcstun a ddadganynt ganlyniad yr amgylch- iadau peryglushyn, ac a'n harweiniant i fyfyrio ar ddiogelwch y credinwyr yn y diwedd, pan wedi glànio yn y nefoedd, y maent yu dragywyddol * Bydd yn dda gan lawer Cymro weled y Bregeth hon, am mai Cymro a i pregethodd, (sef y Parch. Eliezer Jones, Rodborough, mab i'r Parch. Arthur Jones, Bangor,) am byny y cymmerais yrhyfrydwch o'i chyfieithu o r Saesonaeg i'r Gymraeg. Yr ydẃyf yn barod i gydnabod nad hawdd yw dangos y Bregeth yn ei hardderchogrwydd rhagorol mewn iaith arall, wahanol i'r hon y pregeth- wyd hi ynddi ar y cyntaf; ond ar yr un pryd, yr ydwyf wed¥ gwheytl^fy hgoreu rhaggẃrien- thur cam ag un rhan o noni. Yr eiddoch, &c. Landdeiniolen. G. Hughei. 25 ryddäol oddiwrth beryglon ac ofnau o bob rhyw. Nid yw hanesion y Bihl fel ffugiad- au barddoniaeth, hudiadau ffûg-hanes- iaeth ; ond, ynt syml a diaddurnedig. Ond y maent yn fynych egluräol o'r egwyddorion goruchelaf, ac nid an- fynych yn gysylltiedigag athrawiaeth- au,"yn y fyfyrdod ar y rhai'n, y hydd meddyliau engylaidd wedi eu dwfn blygu mewn gorddwysder meddwl, brydaniaeth rhyfeddod, a dyfnder gostyngeiddrwydd. Dan effaith y fath farn yr ydym yn dyfod i'r ystyr- iaeth o'r rhan o'r Ysgrythyr ag y sydd o'n blaen :—" Ac felly y dyg- wyddodd," &c. I. Eu diangfa oedd effaith pender- fyniad rhagwybodol Duw.—"Safodd yn fy ymyl y nôs hon angel Duw, yr hwn a'm píau, a'r hwn yr ydwyf yn ei addoli, gan ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gerbron Caesar: ac wele rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyda thi. Am hyny, ha wyr, cymmerwch gysur: canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd. yn ol y modd y dywedwyd i mi." Gosodir yr athrawiaeth hon yn yr Ysgrythyrau Santaidd yn y medd egluraf. " Ond y mae efe yn un, a phwy a'i try ef î a'r hyn y mae ei enaid ef yn ei" chwennychu, efe a'i gwna. Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi; ac y inae ganddo lawer o'r fath beth- au." " Myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall; Duw ydwyf, ac heb fy math; yn mynegi y diwedd o'r dechreuad, ac er cyntý pethau ni wnaed etto; yn dy wedyd,Fy nghynghor a saif, a'm holl