Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREI OOMER. Rhif. 225.] MEHEFIN. [Cyf. XVII. MARWOLAETH. "the longest life is a lingering DEATH."—MASON. MARWOLAETH! Beth yw mar- wolaeth, trwy deimlad, ni fedraf ddirnad nac adrodd, er nad oes ond megys cam rhyngof a'r porth ; ond etto, y mae tystiolaeth yr'ysgrythyr, ynghyd â gweinidogaeth feunyddiol angeu, yn eglur ddangos beth ydyw marw ynddo ei hun,—sef cyflawniad o'r bygythiad a gyhoeddodd Duw yn erbyn dyn yn Eden, yn ngwyneb trosedd ar y gorch- ymyn pendant; ac nid unrhyw ellyil o wag ysbryd, &c. yn tramwy trwy y byd i ladd dynion, ydyw angeu.— Digon o angeu i ddyn yw gwrthdyn- iad llaw gynnaliol Duw oddiwrtho, fel mewn canlyniad y gellir defnyddio geiriau Selyf ddoeth ;— " Y na y dych- wel y pridd i'r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef." Un o'r pethau mwyaf hynod a ddydorol (interestiny) y gallwn fyfyrio arno yw angeu. Gorphwys ar y meddwl yn ei gyssylltiad â sylweddau y byd anweledig, cyîígodau Tophet, a mwynderau paradwys. Y mae yn amgylchiad ar ba urt y mae Duw, ang- ylion, a chythreuliaid, yn sylwi. Marwolaeth ei anwyliaid sydd am- gylchiad yn mha un y mae y Duwdod gogoneddus yn ymhyfrydu. " Gwerth- fawr yn ngolwg yr Arglwydd yw mar- wolaeth ei saint ef." Angylion hefyd ynt yn sylwiv Lazarus y cardotyn a fu farw, ac a ddygwyd gan y gweinid- ogion gwỳnion i fynwes Abraham. " Ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gant etifeddu iachaw- dwriaeth." Gwedi tywys y pererin- ion trwy ddyffryn galar, mynant eu gweled yn ddiogel yn nhŷ eu Tad.— Ysbrydion y cyfiawnion a ddygir dan nodded (guardiaiiship) engyl at.byrth y Jerusalem newydd, lle y tybiwyf y cyferchir hẃynt gan ereill gyda gorfloeddion rhyfeddol o lawenydd; 21 cyhoeddir eu dyfodfa i'r terfynau (frontiers) gwynfydedig, ac y groes- awir hwynt fel cymdeithion bythol yn myd yr anfarwoldeb. Y bodau dyn- garol hyny ynt yn awyddus am i'r nef gael ei llatiw. Alltudiad Beelzebub a'i ymlynwr o'r. goleuni fry i'r tywyllwch oithaf, a achosodd i'w heisteddleoedd gael eu gwaghau ; ond yn angeu, y saint a'u llanwant i fynu. Cythreuliaid hef'yd ynt yn sylwi ar farwolaeth y drygionus. Dystrywio eneidiau dynion yweu gwasanaeth a'u hunig hyfrydwch. Satan sydd fel llew rhuadwy yn rhodio oddiarogylch gan geisio y neb a a<lo ei lyncu, ac angeu yw y pryd yr ymeifl yn ei ysglyfaeth. Awr ymddattodiad yr anwir a'i cynnysgaetha â phrawf ad- newyddol o lwyddiant y cynllwynion hyny, y rhai gynt a ddefnyddiodd er dinystrio ein rhieni cyntaf, a rhodda iddo achos ychwanegol i orlòni mewn concwest. Yr adyn llwm a noeth, gwedi mwynhau pleserau pechod, y pr\d hyn a deimla ofid digymmysg ag un fynvd o esmwythder; ei bleserau nid oeddynt ond amserol, ond ei boen a barha yn oes oesoedd, yn y lle dychrynadwy y sonia Milton enẁog ain dano:— A dungeon horrible on all sides round As one great furnace flamed, yet from thoie flames No light, but rather darlcness visible Served ouly to discover sights of woe, Regions of sorrow, doleful shades,where peace And rest can never dwell, hope never comes That comes to all, but torture without end Still urges, and a fiery deluge fed With ever burning sulphur unconsumed; Such place eternal justice has prepared For those * rebellious. (* devih.) Ond gall y credadyn, yn y rhagolwg ar ymddattodiad, fabwysiadu iaìth fuddugol Paul,—"O angeu, pa le