Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

serew c.innn. Rhif. 224.] MAI. [Cyf. XVII. BYR-GOFIANT Gweinidog yr Efengyl yn Bethesda, Basaleg, swydd Fynwy. T^RTH gymmeryd ysgrifell i gyf- tt lwyno i'r cyffredin Fywgrafiìad neu Gofiant am ein Brodyr sydd wedi gorphwys oddiwrth eu llaí'ur, mae perygl rhag i ui, trwy rym ein teim- ladau, roddi achlysur i'n darllenwyr ein tybied yn ddibris am wirionedd ac onestrwydd. Anturiaf yn bresennol roddi ychydig o hanes cymmeriad ac ymarweddiad un ag oedd yn anwyl a hoff genyf fi, a chan bawb a'i had- waenai. sef fy hen gyfaill, a'm cyd- ymmaith mewn llaí'ur dros lawer o flynyddau, y Parch. John Hieb, Gweinidog yr Efengyl yn Bethesda, Basaleg swydd Fynwy, dros 46 o flynyddau. Teimlaf anhawsdra i osod ger eich bron ddesgrifiad cywir o hono ef, oedd yn un o'r rhai hyny ag oedd yn rhaid wrth adnabyddiaeth bersonoL â hwynt, er ein dwyn i adnabod*eu cymmeriad, ac i'w brisio yn ol ei ragoriaethau; ac hefyd, wrth eu hadnabod byddant yn llewyrchu fwy fwy. Ganwyd y Parch. J. Hier yn swydd Benfro, yn agos i Langloffan, Ue hefyd y bedyddiwyd ef yn I6eg oed. Yn fuan ymddangosodd ynddo ddawn gweinidogaethol; teimlodd awydd, ac annogwyd ef gan ei gyfeillion, i fyned i'r Athrofa yn Nghaerodor, y pryd hyny dan olygiaeth y Parch. Caleb Evans, D. D. Cymmerodd hyn le yn y flwyddyn 1785, a bu yn mwynhau manteision addysgiaddl ýn yr Athrofa hono yn agos i ddwy flynedd. Wrth ymdeithio tua Chaerodor, pregethai yn achlysurol yn Bethesda,—sylwodd yr Eglwys arno,—ennillodd serch a chariad y Brodyr oedd yno yr amser hwnw,—ac yu benaf un yr oedd ei hen Weinidog, y Parch. Evan David, J'n ei hoflì yn fawr. Penderfynasant yn unfrydoí-ddymuno ainogynimèryd,1 17 ^ eu gofal, a rhoddasant alwad iddo sefydlu a llafurio yn eu plith. Gwedi dwys ystyriaeth, a gweddi ar Dduw, cydsyniodd â'u deisyfiad ; ymadawodd â'r Athrofa, a daeth i fyw yn nghanoi maes ei lafur yn y flwyddyn 1787, lle y parhaodd hefyd i lafurio hyd diw- edd ei yrfa. Wrth sylwi ar wrthddrych ein Cofiant fe' dyn, yr oedd carueiddiwch ei berson a'i ymddygiad yn ennillgar ac yn gryf; cymhellai gariad ac ym- ddiried y neb a'i hadwaenai; a phar- haodd hefyd i feddu hyn, yn ei gys- sylltiadau mwryaf neillduol, ac yn ei gylch mwy cyhoeddus, tra y gadaw- odd Duw ef yn mhlith ei frodyr ar y ddaear. Yn fuan gwredi sefydlu yn swydd Fynwy, priododd â Miss Ann Jenkins, merch i'r diweddar John Jenkins, Yswain, o'r Bonthir, yn agos i Gaerlleon ar Wysg; a chafodd ddeg o blant, wyth o ba rai sydd etto yn fy w i alaru gyda'u mam ar ol eu tad. Geílir yn rhwydd, ac heb betruso, ddywedyd am dano, yn ei berthynasau naturiol, ei fod yn briod ac yn dad gofalus, caredig, a ffyddlawn. Meddai ar alluoedd amgýffrediadol bywiog, ac yr oedd ei gyfansoddiad yn tueddu at fod yn ddifyr a llawen ; ond gwedi cael ei addysgu, nid oedd bywiog- rwydd ei olygiadau yn cael ei arwain i droseddu ar reolau gweddeidd-dra. Pan arferai ychydig ddifyrwch yn mhlith ei gyfeillion, gwnelai hyny heb lygru eu cyfeillach à geiriau isel ac anniwair. Yr oedd ei ymadrodd wedi ei halltu â halen, ac yn peri i'r gwran- dawwyr ofni Duw. Wrth sylwi ar ein cyfaiìl fel Cris- tion, cafodd y fraint o gofio ei Greaw- dwr er yn fachgen. Dywedai ei fod yn ddeiliad argyhoeddiadau er pan oedd yu 14eg oed. Gorphwysodd ei