Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

§ËRI1I OOMËB. Rhif. 222.] MAWRTH. [Cyf. XVII. DARLITH AR HÂNES CYNFR3DOEIOU Tî-îlTS F H. T? 35 £. I XJ, EU TIIAFNID, MOESAU, &c. Parhad o,r lìhifyn diwedduf. YR oedd yn rhaid bod ganddynt wybodaeth neillduawl am yr am- ryfal Gelfyddydau, a geiriau addas i eglurhau eu nieddyliau y naill idd y llall, ar y cyfryw gywrein-weithoedd. Rhaid eu bod wedi prwyaw Ofydd- iaeth, Gallofyddiaeth, Trafnidiaeth, Pwyllyddiaeth, Cyfwledwch, Natur- iaethau sylweddol gogyrfol a nwyol, Nwyon, Gwyon, Cyfanau, &c, cyn y gallent ddesebiaethu adwynau, a gwneuthur y nwyddau crybwylledig. Ac nid dyna y cwbl, nid gwybodaeth- au Celfyddydawl yn unig oedd gan- ddynt, ond gwyddent bethau Duwin- yddawl yn dda hefyd ;—yr oedd gan- ddynteu Hoffeiriadau, sef y Derwydd- on; a'u Dysgawdwyr, sef y Beirdd a'r Ofyddion; y cyfrywr a ganmolir gymmaint gan Diodorus Siculus, Stra- bo, Pomponius, Mela, Tacitus, Pliny, Plutarch, Diogenes, Marcellinus, &c Y mae yn wir fod Suetonius, Caasar, a rhai ereill, wedi cyhuddaw y Der- wyddon, yn enwedig Derwyddon y Gelli, ( France,) o amrywiol beíliau annynawl o'r bron, megys offrymu eu cydgreaduriaid, &c; ond Diodorus Siculus a brofodd i'r gwrthwyneb, ac a ddangosodd mai anaml iawn y cym- merai y fath beth le, sef ar ryw achos neillduawl 't'u hwnt i gyffredin ; ac ar y cyfry w achosion, dryg-weithredwyr yn fwyaf cyffredin a offrymid ; ac er hyny, yn ol yr hanes, ni offrymid cymmaint mewn nifer o'r cyfryw, ynydyddiau (ty wyll, meddai rhai) hyny, ag a wneir yn y dyddiau dedwydd, heddychawl, a chyd-ymdeimladadol presennol. Dy- wedir i Augustus a Thiberius ddi- ddymu yr arferiad o offrymu unrhyw ddyn yn y Gelli,a Chlaudiusyn Mhryd- ain. Dy wedent fod yr arferiadyn resynus ac ofnadwy, (a dywedent y gwir i radd- au ;) ond ar yr un amser, yn aclilysur eu hunain i offrymu cannoedd o'u cyd- greaduriaid yn flynyddawl. (Ni wel- enty gresynusrwydd yn hyny.) Ond am y Derwyddon, hwy yn fynych a ruthrent rhwng y Byddinoedd ymos- odawl, a thrwy eu hymbiliau, a fydd- ent ofierynawí i heddychu a chym- modi y pleidiau ; i roddi y picellau yn y wátn, i attal tywallt gwaed, ac achub bywydau canuoedd. Dywedir gan yr haneswyr crybwyll- edig, e:i bod yn eu hysgolion yn dysgu yr holl Gelfyddydau ; eu bod yn my- fyriaw ar, ac yn dysgu pethau o ber- thynas i'r gr'éedigaeth, yn enwedig y Ddaear ; a'u bod yn myfyriaw llawer ar ryfeddodau dirgeledigaethawl Not- ur; ar Seryddiaeth, Rhifyddiaeth, a Daearyddiaeth.—Dywedwyd gan Di- odorus Siculus, y gallynt, yn yr Ynys Hyperborean, (yr hon a feddylir gan y dysgedigion oedd Prydain,) wreled y Lloer megys pe buasent agaws ati, a bod mynyddoedd, a bryniau, &c. megys y ddaear, ar ei gwyneb. Yr oedd yn rhaid bod y Derwyddon yn ddynion dysgedig neillduawl, (dywred- ir a fynir yn wrthwynebawl,) canys danfoniad Ieuenctyd oddiar y Cyfan- dir i gael eu dysgeidiaeth yn yr Ynys hon, ac nid oedd Derwyddon y Gelli yn cael eu cyfrif yn berffaith, nes y deuent i orphen eu dysgeidiaeth i Ys- golion Prydain. Rhoddai rhai ugain mlynedd o'u hamser yn yr ysgolion hyn ; gan hyny, nid oedd modd eu bod yn annysgedig neillduawl, nac y'n drwsgl ac afreolaidd iawn yn eu hiaith. Na, y mae hyd y nod y rhai a ysgrif- enasant yn êu herbyn, sef Cicero, Cae- sar, &c, yn rhoddi iddynt y parch o