Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I£BEIV CtOMSR. Rhif. 22L.] CHWEFROR. [Cyf. XVII. DARLITH AR BANES CYNFEODORION ITNYS FRYDAIW, EU TRAFNID, MOESAU, &c. A DRADDODWYD GER GWYDD CYMMREIGYDDION CAERLUDD, GAN IEUAN AB GRUFFYDD. MR. LLYWYDD, A BoNEDDIGlON, PWNC lled angnawd yw yr hwn y bwriadwyf sylwi arno yn bresen- nawl, canys ychydig o ddynion sydd yn ymhyfrydu mewn Hanesyddiaeth, yn enwedig hên hanesyddiaeth y cyn- oesoedd, er ei bod yn ddyledswydd arbenigawl ar bob dyn gyrhaedd gwy- bodaeth o ddeilliant tarddiannawl ei Genedl ei hun o'r lleiaf. Ymdrechiadau diflin a chlodadwy enwogion Groeg a Rhufain yn hyn, a sefydlodd eu bythawl fry, a'u henwog- rwydd diarebawl. Hyn a bereiddiodd eu caniadau, a awchlymodd eu traeth- odau, a oreurodd eu coff'adwriaethau, ac a wnaetb eu henwau yn gyfoesawl â'r blaned ddaearawl; gan hyny, diau fod y pwnc yn deilwng o sylw gwedd- illion Cenedl y Cymmry; canys nyni a ganfyddwn, ond chwiliaw, fod ein cyndadau yn gydradd mewn gogoniant ac anrhydedd, yn ogyfuwch mewn gwybodaethau celfawl, gwyddorawl, a chyffredinawl, ac fe allai yn rhagori mewn dewrder ac eofndra, ar yr holl enwogion cyfoesawl iddynt. Mae yn rhaid i ni addef, gyda galar, fod y rhan fwyaf o ystoreg c)rndrigol- ion yr ynys hon, wedi ei lyncu gan fôr anghof erystalm. Difawyd llawer o'n llyfrau gan amser, a üosgwyd, a darnwyd ereill, gan ryw Scolanod dialeddgar, gan eu chwalu gyda'r pedwar gwynt, a cheisiaw difa ein Cenedl a'i holl hanes oddiar y ddaear. Ond methasant yn eu mympwyau, hyd y nod yn ein hanesion; er llosgi ein llyfrau, ni allasant afreoleiddiaw côj eu perchenogion ; o ganlyniad, y mae genym etto swm o hanes ein cyndadau yn gadwedig hyd y dvddiau presen- nawl, a hyderwyf fod pob cyfaill yn yr ystafell hon yn gwerthfawrogi ac yn mawrygu y cyfryw. Yr hyn a achlysurodd i mi amcanu dywedyd ychydig ar y pwnc hwn, ydoedd amrywiol bethau a welais mewn amryíal fànau yn ddiwreddar, yn profi fod rhyw farn gûl a ŷiaidd ofaadwy gan ein cyfoeswyr am eu Henafiaid; yn enwedig llythyr a dderbyuiais yn ddiweddar oddiwrth Foneddig yn y Dywysogaeth, mewn modd o gydnabyddiaeth derbyniad eilun o'n Deiseb ddiweddaf at y Gwer- rithawd, yr hon a feiai efe i'r eithaf, o achos dull yr iaith oedd ynddi, gan ddywedyd,—" Mae ynddi rai geiriau nas gwyddom ni o ba le y deilüasant, nac i ba beth y deiliiasaiit, namyn i wrthunu a thrwsgleiddio eiu hiaith lathreiddfwyn."—" Nid wyf yn deall pa íês a ddic'.ion ddyfod oddiwrth ddyfeisio y fath eiriau uewyddion. a choleddu cymmaint arhen eiriau gwr- thuna thrwsgl, a arferid gan ein cyu- dadau yn yr oesoedd tywryllion a aethant ymaith," &c. &c. Yn awr, yr wyf fi yn credu yn ddilys, nad oedd y cynoesoedd (tywyll, yn ol barnau llawer) cynddrwg ag y meddylir yn gyffrediu ; ac na ddef- nyddid geiriau gan ein henafiaid, namyn y cyfrywr y byddai yn aurhy- dedd i ni, mal Cymry, eu defnyddiaw y dyddiau presennawl, yn hytrach nâ llawer sydd genym. (Mae rhelyw o'u hanes a brawf hyn.) Pwy bynag a chwennycho wybod pa faíh eiriau a ddefnyddid gan ein cyndadau yn nghylch deuddeg cant neu chwaneg o flynyddoedd yn ol, (mae tystiolaeth