Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

\w HANESION. yn gwenwyno yr awyr dros gannoedd o latheidiau o'i amgylch, fel nas dichon i ddyn nac anifel fyned yn agos ato, ac nas gall aderyn ehedeg dros y üe, na dim arall dyfu o'i gyich, ÿdynt oll yn anwireddau noethion. Er mwyn profi gwrthuni y cyfryw chwedlau, darfu i gyfaill i mi ddringo i fyny i bren Upas, a threuliodd ddwy aar yn eistedd yn ei gangenau, lle y bwytaodd bryd o fwyd, ac 'y mygodd bibellaid o ffwgws. Mae y pren, er hyny yn cynnwys gwenwyn cryf, a'r brodor- ion aollyngant allan ei nôdd, yn yr hwn y trochant flaenion eusaethau, eugwaewífyn, a'u cleddyfau ; a'r clwyfau a wneir â'r arfau trochedig yn y nôdd hwn ydynt mor farwol, fel nad oes un math o feddyginiaeth iddynt." Dyna yw yr oll o'r gwirionedd mewn perthynas i'r pren Upas : a dyna sylfaen yr holl chwedlau ag ydynt wedi disgyn o genedlaeth i genedl- fceth, ac hefyd yn cael eu credu yn gyffredin, ynghylch y pren hynod hwn." Peirianwaith y Galon.—Wrth sylwi yn fanwl ar beirian- waith y galon, rhaid i bob meddwl myfyrgar ganfod yn ddioed gymhwysdra ac addasrwydd rhyfeddol ei amrywiol ranau, ac hefyd gydweithrediad hynod ei symudiadau. Mor bwysfawr yw y ran leiaf o'r peiríanwaith amrywiawg hwn ! Pe bai ond yr edefin Ileiaf sydd yn gyssylltiedig a'i hagoríadau yn torL neu y bilen deneuaf yn hollti,—pe bai ond clawr un o'r agoP iadau yn gwrthod cau crn ad-ddychweliad cerhypt y gwaed, ueu drói yn ol go chwith, ni fyddai i swyddwaith bywydawl y galon gael ei gario yn mlaen foment yn mhellach; holl beirianwaith y corff anifeilaidd a ddyrysid yn ddiattreg, a marwolaeth fýddai y canlyniad union-gyrchol. Pwy a ellai «Idychymmygu y gall peiriant mor amrywiawg, mot hawdd îî'w ddyrysu, a'r hwn sydd yn cael ei daflu i weithrediad dros gan mil o weithiau mewn un diwrnod, ettobarhau i weithredu heb anmharu dros hanner cant. pedwarugain, neu gan mlyn- edd I Mor ddisylw ac anmherffaith yr ymddangosa y peiriant mwyaf cywrain o waith dyn, wrth ei gymharu â hwn I Pa ddernyn o bëiríanwaith, yn defhyddio cymmaint o allu cyff- roadawl, a ellai ddal yn gyfan yn wyneí) y fath gyflymdra, droa gymmaint ag un flwyddyn ? Etto, y mae y peiriant hwn mor berffaith, a'i holl ranau yn cydweddu mor dda, fel uad yw ei gyflym symudiadau fyth, mewn iechyd, beri dim aflon- yddwch hyd y nod i'r baban mwyaf tyner, yn mynwes yr hwn y mae yn curo, fe allai, gant a hanner o filoedd o weithiau y dydd. Priodol iawn y dywedai y Psalmydd, " Mor rhyfedd ac ofhadwy y'm gwnaed!" Parchwn y Gwneuthurwr. Digon o Ffydd yn Nghrist.—Gofynwyd i hen wraig dduw- iol, pan oedd yn ymyl marw, pa fodd yr oedd ei phrofiad yn wyneb yr amgylchiad sobr. Dywedodd hithau nadoedd ddim ^yn dywyll iawn arai, nac yn oleu iawn ychwaith ; ond go- oeithiai y byddai yn goleuo arni yn yr hwyr. " Vr wyf (ebe hi) wedi rhoddi gofaî fy enaid i Iesu Grist er ys hanner can mlynedd; ac yr wyf yn meddwl, pe buasai yn bósibl fod genyf fil o eneidiau yn yr hen babell hon, na roddwn eu gofal 1 neb -ond efe yn unig." Digon o ffydd, onite ?— D. D., Blaenmaes. Cymmeriad y Cristion.—Nac ofhed un Cristion y gall neb iselu ei gymmeriad, ond efe ei hun ; oblegid nis gall ei elyn *cenfigenllvd byth wnenthur hyny, pe bai yn ceisio. Dywed- iad cyfn-edin y werin, wrth weledun yn ymdrechu niweidio y llall yn barhaus, yw, " Mawr yw yr elynìaeth sydd yn ei galon tuag ato !" Y gosp waethaf a aìlwn wneuthur i'n gelynion, :yw gwneyd cymmamt o ddaioni ag a allom iddynt; canys -wrth wneuthur hyny, ni a bentyrwn farwor tanllyd ar eu peh- ^an.—-Yr un. Llestr Gwenyn anferthol.—Mewn ogof ar lan ddëauol yr afon Colorado, yn Texas, Ameríca, ac oddeutu saith milltir o -.dref Austin, y mae bodrydaf anferthol o wenyn gwylltion. cAi ddiwraod gwresog, canfyddiry gwenyn yn hedeg allan yn îbarhaus, fel colofn neu linyn hirfaith o fwg tew; ac y mae y *-firwd fywiol hon yn fynych yn ddwy droedfedd o dryfesur yn tnhwll ŷr ogof; ac yn Ûedanu yn raddol, ac yn myned yn fwy íteneu, byd onid yẃ yn diflanu yn hollol wedi myned i gryn ^Udcr oddiwrth yr ogof Rhaid fod nifer y gwenyn yn yr ogof \hon yn hollol anghyfrifadwy; a digon tebyg eu bod yn Uawer .-amlach nâ'r hyn a gynnwysir mewn deng mil o'r cychau fUawnaf. Vr ymsefydlwyr henaf yn y parthau hyny a ddywed- ^ant eu bod yno yr un fath pan ddaethanthwy gyntaf i'r wlad ; -achredir yn gyÍTredin fod Hawer o dunelli o íêl a chwyr yn ' jt ogof hon; a phe bai yn bosibl cael ei chynnwysiad allan yn hawdd, byddai yn Uawermwy gwerthfawr nà cbynnwysiad y mẃn-gloddiau aur ac arian ag y mae anturiaethwyr wedi treulio cymmaint o'u golud a'u hamser i chwilio am danynt ■jn y parth hwnw o'r Byd Newydd. Cyd darawiad hynod.—Cafodd dyn o'r enw Dubarry ei gocdemnio i farwolaeth, am ladd ei dad, yn Tarbes, yn Ffrainc, ac yr oedd i ddyoddef y gosp ar y 12fed o Chwefror diweddaf. Cofnodau y Llys a ddangosant i ddyn o'r un enw gael ei ddedfrydu i farwolaetb yn y Jle hwnw, am yr un tros- - edd, ac iddo gael ei ddienyddio yno ar y 12fed o Chwefror, 1746,—can mlynedd yn ol! Rhesymeg Morwr.—" A gymmerasoch chwi y Uythyr, ac a welsoch chwi Mr. T., Jack ?" " Do, syr." "A pha fodd • yr oedd ?" " O, yr oedd yn edrych yn'dda iawn; ond y mae ynlledfyr eì olwg." " Byr ei olwg ! beth feddyliwch?" " Wel, pan oeddwn yn y parlwr, gofynodd pa le yr oedd fy het, a hitbau ar fy mhen yr hoU amter." Dumwa'm angeuol.—Vc\ yr oedd glöwr, o'r enw William Humphreys, 33 oed, gwr y gwestdy Britania, Cefnmawr, yn myned at ei waith ar yr 2lain o Chwefror diweddaf, ryw fodd cwympodd i'r pwU gld, yr hwn sydd yn agos i ddau cant o latheni o ddyfnder ! Drylliwyd ei gorff yn enbyd. Gadaw- odd wraig a thri o blant, a chyfeülion lawer i alaru ar ei ol. MANION. Fel nad oedd y duwiau gynt yn cael dim ond y mwg yn yr aberthau, a'r offeiriaid yn myned ft'r cig; felly, nid yw y rhan fwyaf o awdwyr yr oes bresennol yn caei dim ond clod a chanmoliaeth, tra y mae y Uyfrwerthwyr a'r cyboeddwyr yn myned a'r holl elw a ddeillia oddiwrth eu cyfansoddiadau. St. Ambros a ddyweda mai "diogi yw clustog y diafol;" ond Uawer o Gristionogion a dybiant nad yw y diafol yn haeddu y fath glustog, gan byny y maent wedi ei gymmeryd oddiwrtho, a'i osod dan eu penau eu hunain. " Wffti ti," ebai un cyfaill wrth y llall, "yr ydwyt yn feddw yn wastad!" "Meddw! ydwyf, yn sicr," atebai y Uall; ac ýr wyf wedi bod felly er ys tair blynedd yn ol. Y mae fy mrawd a minnau ar genadiaeth ddirwestol. M ae efe yn areithio, a minnau yw y siampl arswydus o effeithiau meddwdod sydd ganddo i'w d'angos. Dywedir fod celfyddydwr yn Birmingham wedi dyfeisio peiríant, a'r hwn y gaU ddiffodd holl dan Hosgfaloedd Etna a Vesuvius mewn ychydig oríau. Yr oedd yn ddywediad tlws o eiddo plentyn, yr hwn, wrth weled dau aderyn yn eu nyth yn pigo eu gUydd, a ofynodd i'w frawd pa beth oeddynt yn wneuthur. " Y maent yn ym- ladd," ateoai ei frawd. " Na," meddai y plentyn, " nis gaU hynyfod; brodyr ydynt." Mae plentyn o Portugal yn cael ei ddangos yn Llundain, yr hwn sydd yn feddiannol ar dair clun. Mae dwy o honynt yn gymhwys Ue y dylent fod ; a'r drydedd a ddisgyna o barth ol ei gefh, ac y mae deg o fysedd arni. Tebyg y bydd hon yu ddefnyddioi iawn iddo wedi y tyfa yn ddyn ; canys pan flina, gall eistedd arni, yn He defnyddio cadair. Mae benyw o Mecklenburg yn awr yn ngharchar, dan y cyhuddiad o lofruddio saith o biant orddercb. Cynnorthwy- id hi gan eu tad, yr hwn wedi byny a flinwyd gymmaint gan ei gydwybod, fel y darfu iddo gyffesu y cwbi. Pftr ieuanc o Lundain, ag oeddynt wedi bod allan gyda'u gilydd yn prynu pethau anghenrbeidiol erbyn eu prìodas, yr hon oedd i gymmeryd lle dranoeth, a amrysonasant ft'u gil- ydd wrth groesi pont Westminster, a thaflasant y cwbl ag oeddynt wedi hrynu, hyd y nod y fodrwy, dros y bont i'r afon Tain ; yna ymadawsant a'u güydd, gan gymmeryd gwahanol ffyrdd. Cyfrifir fod Prif-ddinas Prydain Fawr yn cynnwys 2,000,000 o drigolion, heblaw dyeithríaid. Mae poblogaeth Paris yn 900,000, Vienna yn 330,000, Berlin yn 367,000, a St. Petersburg yn 467,000; felly, y mae yn agos cymmaint o bobl yn Llundain ei hunan, ag sydd yn M hrif-ddinasoedd Ffrainc, Awstría, Prwssia, a Rwssia ; ac y mae Llundain yn cynnwys trigolion holl Gymru bedair gwaith drostynt. Mae brenin Prwssia wedi gwneyd deddf yn ddiweddar, i beri i'r Iuddewon wasanaethu yn ei fyddinoedd, yr un modd a'i ddeiliaid ereill. Llythyr o Berlin a'n hysbysa, fod yr Iuddewon yn y ddinas hono wedi apelio at eu brodyr trwy Ewrop yn gyffredinol, i'w cynnorthwyo i sefydlu trefedigaeth Iuddewig yn America. Tymhestl ddychrynUyd a gymmerodd le yn y Mor Dû yn ddiweddar, a thros ugain o longau, y rhai oeddynt yn Uawn o wenith, a aethant yn ddrylliau ar oror Circassia. Ychydig o ddvddiau yn ol, darfu i deüiwr o Gaerodor, gynnyg cyngwys'tl y byddai iddo yfed pum peinto gwrw mewn pum mynyd. EnniUodd y cyngwystl, ond bu farw yn mhen pummynyd ar ol hyny! Rhyfedd yw haerüugrwydd rhai dynion. Pe buasai y creadur hwn ond ystyried nad oedd ond y nawfed rhan o ddyn, ni chynnygiasai ar y fath orchestwaith, ac acbubasai ei fywyd. Mae poblogaeth Rwssia yn 63,000,000, poblogaeth Awstria yn 73,000,000, a phoblogaeth Prwssia yn 16,000,000, heblaw y taleithiau sydd ganddynt yn hen Boland. Er ein bod yn achwyn yn wastadol ar fyrdra y bywyd dyn- ol, ÿr ydym yn taer ddymuno i bob rhan o hono ddyfod i ben yn îwy buan. Yr ieuanc a hiraetba am gyrhaedd ei gyflawn oed, yna i ddyfod yn ddyn o bwys yn y byd, i ennill digon o feddiannau, a chaeí ei dderchafu i sefyllfaoedd o anrhydedd, ac yna i ymneillduo, a mwynhau ei hun; ond erbyn y cyr- haedda ei amean, efe a syrthia i'r bedd dystaw, Ue nad oes na gwaith na dychymmyg 1 .... Dyn ieuanc o Nottingham, yr hwn oedd yn y brwydrau di- weddaf ar lan y Sutlej, a anfonodd lythyr adref at ei dad, yn cynnwys dyrnaid o waUt, yr hwn a dynasai ymaith oddiar ben Sikh marw, ar ol brwydr Aliwal. Y mae hyn yn ein hadgofio am y Gwyddyl, yr hwn, pan ddycbwelodd o'rrhyfel, ahol- wyd gan ei dad pa wrhydn oedd wedi gyflawni ar faes y gwaed. " O, (ebai y bachgen,; myfi a dorais ymaith goes Ffrancwr." " Buasai yn Uawer mwy o glod i ti, (ebai yr hen wr.) pe bu- aset wedi iori ymaith ei ben." " O, (atebai y gwron ieuanc,) rhaid i chwi wybod fod ei ben wedi ei dori ymaith eisoes." Mae Sýr John Sinclair wedi dywedyd nad oes ond dwy ffordd i gysgu,—naill ai heb gap nos, nen efo un! ARGBAFFWTD 6AN ALICS WU.LUM8, CA2RPYRUU1N.