Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMEB. Cyfres Newydd.] MEDI, i8§2. [Rhif. 60, 6i. Cyf. XIII. Y DIWEDDAR BARCH. JOHN.THOMAS, CAERFYRDDIN. Gan y Parch. E. Parry, Aberîáwe. Ganwyd John Thomas Tachwedd y i4eg, 1838, yn nghymmydog- aeth dawel Abergwesin, ger Llanwrtyd. Mae llaweroedd o brif bregethwyr Cymru wedi eu geni a'u magu mewn lleoedd g'wledig ac annghyspell. Pan oeddjohn yn ieuanc iawn, sýmmudodd y teulu oll i Eglwyswrw, Sir Benfro, ac oddiyno yn fuan i Benybrýn, ger. Aberteifi. Tra yn blentyn ymwelodd John lawer tro â glanau hyfryd y Teifi, gan sylwi *gyda dyddordeb a digrifwch plentynaidd ar y pysgod yn chwareu yn ei dyfroedd gloewon. A thymhor dedwydd yn hanes dyn yw y cÿfnod boreuol hwn. Yn lled fuan, cawn y teulu etto yn gadael Penybryn am Hirwaun, Sif Forganwg; ac yn y lle hwn y daeth y bachgen John i ddechreu meddwl am grefydd, a'i cheisio yn wifioneddol. Arosodd y bachgenyn diniwed yn y gyfeillach grefyddol ; a phan yn dair-ar-ddeg oed, bedyddiwyd ef tua mis Tachwedd, yn y flwyddyn 1851, gan y gweinidog, y Parch. B. Evans (Dr. Evans, Castellnedd, wedi hyny)< Ac yn niwedd y flwyddyn 1858^ ni a'i cawn yn dechreu pregethu. . Ac ar ei ol ef, codwyd tri brawd iddo yn bregethwyr," y rhai. sydd yn frodyr da, ac yn aros hyd yr awr hon. Felly, gwelwn ma,i ei fam- eglwys yw Hirwaun, ac mai ei dad yn y ffydd oedd y crafíus Ddf. Evans. Yn lled fuan ar ol dechreu pregethu, derbyniwyd Jorîn Thomas i Athrofa Pontypwlj a threuliodd ei amser gwerthlawr yno i bwrpas rhagorol: profodd ei hün yn fyfyriwr. diwyd a chaled. Gosododd i lawr sylfaen ei fywyd gweinidogaethol yn ei dymfjor •athrofaol, a bu yn ymdrechol arbenig ar ol gadael y Coleg i adeiladu ar y sylfaen hono/ Mae y tymhor' colegawl, fel .rheol, yn brofFwydoliaeth led gywir am ddyfodol byẁyd : os treulir y cyfnod hwn yn ddifeddwl a dilafúr, ond onid fawr nad gweinidogaeth o'r nodwedd hono fydd yn ei ddylyn. Cafwyd y myfyriwr diwyd yn John Thomas, a daeth y myfyriwr hwnw yn weinidog gwir feddyl- gar a llafurus. • jfohn Thomas yn ei feusydd gweinidogaeihol.—E,i faes cyntaf oedd Amlwch. Dechreuodd yn Amlwch Rhagfyr 28ain, 1862* a bu yh llafurio yno gyda chymmeradwyaeth wresog hyd- Mawrth 28ain,