Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Cyfres Newydd.] IONAWR, 1886. [Ehif. 25, Cyf. VII. VAVASOR POWELL A'I AMSERAU. Mab oedd Vavasor Powell i Risiart Ap Hywel, oedd yn byw yn y Cnwcglas, Sir Faesyfed. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1617. Bu ei hyoafiaid yn byw yn y lle hwnw am genedlaethau lawer, a dywedir ei fod o ochr ei dad yn hanu o rai o'r teuluoedd ruwyaf urddasol yn Ngogledd Cyniru.* Yr oedd ei fam o waedoliaeth Seisonig; daethai ei theulu i Gymru o Sir Gaerefrog er ys rhai cenedlaethau. Ei henw morwynawl oedd Vavasor; a galwyd y plentyn ar enw morwynawl ei fam, 8 hyny, gvda chyfenw ei dad, oedd yn gwneyd i fyny yr enw Vavasor Powell. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau da—ei dad yn wr tiriawg, yn byw ar ei etifeddiaeth ei hun—ac felly, mewn gallu i roi i'r bachgen fanteision addysg yn moreu ei oes. Ond, yr amser hwuw, yr oedd addysg, fel pob peth arall, wedi ei nawsio ag ofergoeledd. Yr oedd ofergoeledd yn derbyn dyn i'r byd, yn ei ddylyn ar hyd ei oes, ac yn ei hebrwng i'w fedd. Yr oedd y Genedl Gymreig y pryd hwnw lawn mor ddwfn-suddedig mewn ofer- goeledd ag un genedl. Pan anwyd Vavasor Powell, nid oedd pedwar ugain mlynedd wedi myned heibio er pan symtnudwyd y ddelw o Dderfel Gaiarn o Landderfel i Lundain. At y ddelw hono yr elai y Cymry ar bererindod i'w haddoli, ac i offrymu eidionau, defaid, aur, ac arian ; o herwydd yr oeddynt wedi eu twyllo gan yr offeiriaid i * Wrth ddarllen bywgraffiad Syr Ehys Ap Thoraas yn y Gambrian Uegister, yr hwn fywgraffiad a ysgrifenwyd yn nechreu teyrnasiad James I., ceir adran nas gall lai nâ bod o ddyddordeb i ddarllenwyr yr ysgrif ar Vavasor Powell. Yn yr adran, coffheir amgylchiadau gymmerasant le yn gynnar yn y bymthegfed ganrif, ac y mae yn dra thebygol fod y " Philipp ap Howell, of Knokelas," a grybwyllir yn un o hyn- afiaid Vavasor Powell. üyma yr adran, fel y mae yn y llyfr :—,; On a time Roger Corbet, Walter Honton, Ealph Lee, and others of prime mark and note in the countie of Salop, made great complaint against one Philipp ap Howell, of Knokelas, within the lordship of Molenith, in the marches of Wales, for divers damages and losses that countrie sustayned by the sayd Philipp, and noe justice could be had against him, for that Griffith ap Nicholas did receave, maintaine, and comfort and cherish him from time to time, to the greate derogation and losse of the king's liege people dwelling within the sayd countie, whereupon they were both found guiltie of felonie, as appears by an indictment taken at Salop before William Borlay, Thomas Corbet, and others, justices assigned by the King for the keeping of the peace in the said countie." —Cambrìan Eegister, 1795, pp. 61.