Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEBEN GOMBE. Cyfres Newydd.] HYDREF, 1884. [Rhif. 20. Cyf. V. NEILLDUOLION IEITHYDDOL YR YSGRYTHYRAU. cyfnewidiad neu DjtAWSOSODiAD (Hyperbaton). Darlnnir y ffigyr hwn fel trawsosodiad geiriau mewn brawddeg, neu fel cystrawen yn yr hon y cyfnewidir trefniad arferol geiriau. Cymmer le pan osodir geiriau mewn sefyllfaoedd gwahanol i'r hyn afabwysiedir yn gyffredin yn ffurfiad brawddegau. "Parhaus ymledu fel gordanbaid len, Gan ddystaw yru'r t'w'llwch oll o'r nen." " Ac fel hyn, e.r cyfiawnu Godde nef, mae'n gweddu i ni." " Yr Iesu yr wyf yn ei adwaen, a Phaul a adwaen." Mewn barddoniaeth yr arferir y ífigyr hwn fynychaf, a chyfyd yr angen am dano weithiau er mwyn sicrhau mydr esmwyth, odl, a chy- nghanedd. Darllenir y ddwy linell gynghaneddol uchod fel hyn, yn ol tremiad arferol geiriau :—" Ac fel hyn mae'n gweddu i ni, er cyflawnu godde nef." Ond y mae y trefniad hwn yn difodi corfaniad, odl, a chynghanedd y llinellau. Dyben cyffredin y ffigyr mewn rhyddiaeth yw rhoddi pwyslais neillduol ar eiriau trwy newid eu safle. Trefn naturiol y geiriau diweddaf a ddyfynwyd fyddai " Yr wyf yn adwaen yr Iesu, ac yn adwaen Paul." Ond dewisir y trefniad uchod o'r geiriau er mwyn rhoddi pwyslaisar yr enwau lesu a Paul, gan eu bod yn wrth- osodol ( anti-thetical) i'r rhagenw chwi yn y gofyniad dilynol—" Ond pwy ydych chwi?" Mae y ffigyr yn dygwydd yn fyuych yn y Testament Newydd, ond nid mor fynych ag y myn rhai awdwyr. Gan hyny, y mae angen am fod yn ocíielgar cyn dyfod i benderfyniad ar lawer adnod, fel y dangosir yn mhellach yn mlaen. Mewn trefn i dflarganfod dygwyddiad y flîgyr, y mae yn ofynol gwybod i ryw fesur pa beth yw y drefn arferol y saif geiriau mewn brawddegau. Yn ei rammadeg gwerthfawr i'r iaith Roeg, dywed Eühner fel hyn :—" Safle arferol neu rammadegol geiriau yn yr iaith Roeg sydd fel y canlyn :—Saif y deiliad (subject) yn mlaenaf mewn brawddeg, a'r haereb (predicate) yn olaf; saif y rhwymyn (copula) eimi