Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBEEN GOMEB. Cyfres Newydd.] GORPHENAF, 1884. [Rhif. 19. Cyf. V. " DADGYSSYLLTIAD YR EGLWYS YN NGHYMRU." Mae y gadynigyrch dadgyssylltiol yn Nghyraru yn myned rhagddo gyda brwdfrydedd a sel neillduol, nid yn unig o du yr Ymneillduwyr, ond hefyd o du yr Eglwyswyr; un tu dros ddadgyssylltiad, a'r tu arall yn erbyn. Nis gall ond un o'r ddau hyn fod yn gywir, tra rhaid i'r Uall fod yn annghywir; os mai y Dadgyssylltwyr sydd yn iawn, yna, nis gall y Cyssylltwyr fod felly hefyd. Barnwn y dylai cyfreithlondeb yr undeb a fodola rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth gael ei benderfynu trwy gyfeiriad at Air Duw. Ofer- edd ymofyn yn nghylch traddodiadau yr hynafiaid—Pa beth sydd fuddiol—pa beth yw yr arferiad cyffredin,—a pha beth a ddywed cyf- raith y tir ? Yr hyn a ddylem ofyn ydyw—Pa beth a ddywed Crist ? Ei lais Ef sydd i reoli barn pob un oi ganlynwyr. Addefir hyn gan bob ysgrifenydd ar undeb yr Eglwys a'r Llywodraeth, megys M' Neile, Hooker, Gladstone, &c. Y mae pob peth a ddywed Cristyn fuddiol, a cholled ydyw ymadael â geiriau ei enau Ef. Yr hyn a olygwn wrth y cyssylltiad sydd rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth ydyw, nid perthynas pob aelod o'r Eglwys fel dinesydd à'r llywodraeth o dan ba un y mae yn byw—nid ei ymostyngiad i gyfreithiau y llywydd—ond cyssylltiad neillduol yr Eglwys a'r Llyw- odraeth, o'r hwn y cwyd y tâl gwladol a dderbynia y gwein- idog, ac arolygiaeth y llywodraeth drosto ef a'r Eglwys mewn canlyn- iad,—y fath gyssylltiad ag sydd yn rhoddi hawl i'r llywodraeth mewn materion crefyddol. Y Llywodraeth ar yr adeg bresenol, megys y mae wedi gwneyd er ys canrifoedd, sydd yn llywyddu yr Eglwys yn mhob ystyr o'r gair. Nid yw y Liyfr Gweddiau sydd ganddi ond atlen {schedule) o Ddeddf Seneddol a basiwyd Mai y 19eg, 1662.* Ac hyd y nod yn y flwyddyn 1871, pasiwyd deddf yn gosod allan restr o wersi ag oeddynt i gael eu darllen yn ngwasanaeth yr Eglwys. Dengys hyn * In 1661, the year after the Restoration of Charles II., various other alterations were proposed and adopted ; the book with the improvements then made, passed both Houses of Convocation ; was subscribed by the bishops and clergy ; ratified by Act of Parliament, and received the Royal Assent May 19th, 1662.—Weston't EdiHon of Common Prayer.'y