Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBEBN GOMBE. Cyfres Newydd.] IONAWR, 1884. [Rhif. 17. Oyp. V. PEDWAR CAN-MLWYDDIAETH LUTHER. Mae gan ragluniaeth ddynion neillduol ar gyfer gwaith, a gwaith neill- duol ar gyfer dynion cymhwys. Gwaith arbenig oedd y diwygiad Protestanaidd, agymmerodd le mewn cyfnod arbenig yn hanes y byd, a phriodol iawn yw gwaith gwledydd cred yn galw sylw at bedwar can-mlwyddiaetb y dyn fu yn brif offeryn yn nygiad oddiamgylch y gwaith pwysig hwnw, nid er mwyn canoneiddio, na gogoneddu y dyn, ond er mwyn galw sylw at yr egwyddorion gogoneddus sydd yn an- wahanol gyssylltiedig ag enw a hanes y dyn mawr hwnw. Mae Cristionogaeth ei hunan yn gynnwysedig mewn person byw, ac y mae hanes yr atbrawiaeth, a hanes yr eglwys drwy yr oesau, yn troi lawer iawn o gylch hanes rhai personau enwog. " Mae cymmeriad," medd y diweddar Arglwydd Garfield, " yn effaith ac yn achos—yn effaith i ddylanwadau—ac yn achos effeithiau pwysig."—Yn yr ysgrif hon sylwn ar y gwahanol elfenau aethant yn ngbyd i ffurfio cymmeriad Luther, ac hefyd beth oedd yn ei gymmeriad yn ei wneyd y fath allu a dylanwad ar ereill. Helh oedd y (juahanol elfenau a ffurfient gymmeriad Lttther ? Nos Wyl Martin, sef Tachwedd lOfed, yn y flwyddyn 1483, yn mhentref syml Eisleben yn Saxony, mangre neillduedig dan gysgod mynyddoedd Thuringian, yr oedd mwnwr tlawd o'r enw Hans Luther a'i wraig wedi dod i dalu ymweliad â'r ffair yno. Cymmerwyd y wraig yn glaf fel y bu raid cymmeryd lletty mewn tý bycban dinod, ac yno dan y fath amgylchiadau y gwelodd Martin Luther oleu dydd gyntaf erioed. Uwchben drws tŷ yn Eisleben gellir darllen a ganlyn—" Yn y tỳ hwn y ganwyd Dr. Martin Luther, Tach. 10, 1483. Ni bydd i Air Duw ac athrawiaeth Luther fyned heibio ddim." Cywir y dywed Cariyle nad oedd yn yr holl fyd y diwrnod hwnw " ddau mwy distadl yr olwg arnynt nâ Hans Lutber a'i wraig, etto beth oedd Ymherawdwyr, Pab- au, a Thywysogion mewn cyferbyniad iddyut hwy ? Ganwyd yma ddyn nerthol, un yr oedd ei oleuni i lewyrchu dros ganrifoedd meithion a chyfnodau lawer, yr oedd yr holl fyd a'i hanes yn dysgwyl am y dyn hwn." Digon oer ac ystormus oedd mordaith bywyd i riaint Martio, a digon tebyg fod a fyno hyny rywbeth ag ansawdd eu tym- herau, oblegyd dysgyblwr caled a llym iawn oedd y tad, ac nid llawer gwell y ceid y fam. Mae caledfyd einioes ynlladd y wën oddiar lawer gwyneb ! Etto yr oedd Hans Luther am i'w fab gael addysg, beth