Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBEEN GOMEE: Cyfres Newydd.] HYDREF, 1883. [Rhif. 16. Cyf. IV. NA.TUR EGLWYS GRISTIONOGOL.* GAN Y DIWEDDAR BARCHEDIG HUGH JONES, D.D., LLANGOLLEN. Mae yn arferiad genym ar aclilysur fel hwn i ryw frawd ddweyd ychydig ar Natur Eglwys Iesu Grist. Mae y rhan hon o'r gwaitli, yn unol â dewisiad y brodyr, yn disgyn arnaf fì yn y cyfarfod hwn. Yr wyf yn credu ei bod yn bwysig i ni ddeall y mater, a deall ein gilydd, a chytuno ar ba beth y byddwn yn dadleu os na fyddwn yn deall ein gilydd. Mae cael o hyd i'r gwirionedd yn beth pwysig iawn. Mae dyfod o hyd i'r gwirionedd am Eglwys Crist yn bwysig. Gwyddoch fod ein golygiadau ni fel enwad yn ein dwyn i wrthdarawiad â golyg- iadau rhai enwadau, mewn rhyw agweddau neu gilydd, ar y mater hwn. Mae y gwrthdarawiad hwn yn gymmaint fel y mae yn rhaid fod yna ryw gamgymmeriad, a chamgymmeriad mawr, yn bod yn rhywle. Y pwnc mawr ydyw cael allan, ydyw deall ewyllys yr Arglwydd ar y mater hwn fel pob un arall. Mae un blaid—Bedyddwyr—yn dysgu mai credinwyr, a chredinwyr yn unig, sydd yn cyfansoddi Eglwys Iesu Grist. Mae ereill,—enwadau efengylaidd annghydffurfiol, mae yn debyg,—fel rheol yn credu mai credinwyr a'u plant sydd yn gwneyd i fyny yr Eglwys. Creda rhai ereill, drachefn, mai undeb o gynnulleidfaoedd yn credu yr un egwydd- orion, yn ymarfer â'r un defodau, ac yn cael eu llywodraethu gan yr un cyfansoddiad, sydd yu cyfansoddi Eglwys. Mewn ystyr felly siaredir am Èglwys Groeg, Eglwys Rhufain, Eglwys Lloegr, a'r cyffelyb. Mae yn amlwg, onid ydyw, fod yna wahaniaeth rhwng y tri dosparth, a hwnw yn wahaniaeth pwysig. Ein safle ni ar y cwestiwn ydyw hyn : Mae drwy Grist y mae dyfod i'r eglwys. Mae yr holl wahaniaeth yn cael ei gynnwys yn hyn. Tybia un blaid fod yn bosibl dyfod drwy yr Eglwys at Grist. Yr wyf yn ofni mai camgymmeriad difrifol ydyw * Traddodwyd yr Anerchiad hwn gan Dr. Jones ar yr achlysur o ordeiniad y Parch. David Èvans yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn Nolgellau, Ionawr lleg, 1882. Cymmerwyd y sylwadau i lawr mewn llaw-fer wrth eu gwrandaw gan Mr. E. W. Evans, reporter, Dolgellau, ac ar gais y Golygydd anfouir hwy i'w cyhoeddi yn Seren Gomeh.—E.W.E. Canfyddir mai mewn llaw-fer y cymmerwyd yr uchod yn ol fel yr oedd yr awdwr parchus yn eu traddodi. Cyfrif hyu am yr arddull ymddyddanol sydd yn rhedeg trwy yr Anerchiad.—Gol.