Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBEBN GOMEE: Cyfres Newydd.] GOEPHENAF, 1883. [Ehif. 15. Cyf. IV. NEILLDUOLION IEITHYDDOL YE YSGEYTHYEAU. Diau fod llawer o'n darllenwyr ieuaine wedi sylwi fod llawer.o eiriau yn cael eu harfer yn yr Ysgrythyrau mewn ystyron gwahanol i'w hystyr lytbyrenol ae arferol. Os oes rhai o honynt heb ddarganfod hyny wrth ddarllen yr Ysgrythyrau, y maent wedi clywed am iaith drofegol neu ffigyrol yr Ysgrythyrau, ac fe ddichon wedi teimlo yn awyddus i ddeall beth y mae hyny yn ei olygu. Cynnwysa y llyfr rhagoroi " Y Beibl a'i Ddeongliad " adranau gwerthfawr ar y pwnc hwn, a chynghorwn ein darllenwyr ieuainc i fynu y llyfr hwn, a'iddarllen, ei fyfyrio, amynu ei ddeall. Sicrhawn hwynt, os gwnant hyny, y byddant ar ol hynyyn alluog i ddeall llawer o ranau o Air Duw sydd yn awr yn ymddangos yn dywyll iddynt. Ond rhag ofn nâ wnant hyny, amcanwn ddywedyd ychydig ar y mater, gyda'r amcan i daflu ychydig oleuni arno a chodi awydd ynddynt am wybod ychwaneg. Yn mlaenaf dim, ni geisiwn ddangos rbai o achosion dechreuad trofegau a ffigyrau ieithyddol; ac wedi hyny gwnawn gais i egluro rhai o'r ymadroddion ffigyrol a arferir, gan ddwyn enghreifftiau o bob un o honynt er galluogi y darllenydd i'w ddeall. Y mae o bwys i gofio fod i eiriau eu hystyr priodol neu ìythyrenol; ond arferir hwy weithiau allan o'u hystyr priodol; a phan y gwneir hynv, hyddant yn cael eu harfer mewn ystyr drofegolneu-ffigyrol. Nis gallìod amheuaeth mai un ystyr oedd i eiriau yn wreiddiol; ffurfiwyd hwy i osod allan synia,dau unigol ac arbenig. Ar y cyntaf yr oedd ychydig eiriau yn ddigon i wasanaethu dynoliaeth gan fod eu gwybodaeth am bethau yn ychydig a chyfyngedig ; ond yn nghwrs amser, cynnyddodd gwybodaeth dynolryw am bethau: daeth pethau oeddynt anhyspys iddynt o'r blaen yn wrthddrychau eu sylw, a chododd yr angen amryw ffordd i siarad am danynt a hyspysu ereill yn eu cy ch. Gan nad oedd eu hiaith hyd ynhyn yn cynnwys geiriau 1 osod allan y petüau new- yddion a ddaethant yn destynau eu sylw, yr oedd yn rhaid caelgeinau i'wgosod allan. 0 dan yr amgylchiad hwn gallai fod laith cenedl ddysgedig a choethedig yn ddigon ystwyth a chyfoethog i gynnwys elfenau i ffurfio geiriau newyddion i sefyll am danynt; a diamheu fod hyny yn cael ei wneuthur, fel y gwneir yn awr yn yr laith Gymraeg. Ond o braidd y mae un iaith yn ddigon cyfoethog yn yr ystyr^^hwn o dan bob amgylchiad, ac mae llawer o leithoedd yn bur amddifad o ei-