Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBEBN GOMEE. Cyfbes Newydd.] EBEILL, 1883. [Ehif. 14. Cyf. IV. Y DIWEDDAR BAECH. W. MOETIMEE LEWIS, M.A., LLYWYDD ATHEOFA PONTYPWL. (Pnrhad o Tiulalen 77 yn Rhifyn Ionawr, 1883.) Yn Mhontypwl ymroddodd Mr. Lewis i'w ddyledswyddau gyda'r fath egni a gwroldeb â phe bai wedi bwriadu bod yn athraw. Cynnyddodd ei serch at addysgu gyda'i brofiad o hono ; cynnyddodd hyd y diwedd. Dywedodd mewn llythyr at gyfaill, rai wythnosau cyn ei farwolaeth, " 0 fel yr wyf yn dymuno dyfod yn ol at y gwaith sydd mor anwyl genyf." Yn mis Gorphenaf, 1873, priododd â Jeanie, unig ferch David Davies, Ysw., Cymro llwyddiannus iawn yn Sheffield. Ni fu undeb erioed yn fwy dedwydd a chymhwys. Drwy'r chwë mlynedd y buont gyda'u gilydd, bodolodd y cydymdeimlad mwyaf rhyngddynt. Daeth hyn yn neillduol amlwg yn ei ddyddiau olaf, pan ddangosodd Mrs. Lewis yr hunanymwadiad mwyaf er mwyn ei chydymaith anwyl. Fel y canlyn y mae un a'u hadwaenent yn dda yn ysgrifenu: " Ni welais erioed ddau fywyd yn fwy prydferth nag eiddo Mr. a Mrs. Lewis." Y mae'r olaf wedi gosod llechen i gofìàdwriaeth ei phriod, yn nghapel Crane Street, Pontypwl, ar yr hwn y mae y geiriau canlynol:_ " Cod- wyd y llechen hon gan ei weddw, i fod yn dystiolaeth anwyl i fywyd pur a godidog, ac mewn diolchgarwch tyner am fìynyddoedd o dded- wyddwch mawr." Ni chafodd un rhwystr yn ei waith trwy afiechyd cyn haf 1875, nac un achos arall. Nis gwn am un dygwyddiad neillduol yn y blynyddau hyn. Y mae un o'n haneswyr goreu yn dywedyd fod pob gwlad yn rhoddi mwy o waith i'r haneswr yn amser aflwyddiant. Pan yn nghanol llwyddiant, nid oes llawer i ysgrifenu. Nid oes llawer i'w gofnodi yn mywyd eiu harwr yn awr, oblegyd yr oedd yn llwyddiannus nid yn unig yn yr Athrofa ac yn y dref, ond hefyd yn yr lioll eglwysi oddiamgylch. Dim ond un pet'h sydd etto yn deilwng, yn yr hyn alwaf y bennod gyntaf o'i fywyd yn Mhontypwl, h.y., ei barotoadau i eistedd am y gradd o B.l>. yn Glasgow. Yr oedd wedi gorphen ei waith, ac yn gobeithio cyn diwedd y flwyddyu i ennill yr anrhydedd hon ; ond nid ein ffyrdd ni yw ffyrdd yr Arglwydd. Yn ddisymwth cymmerwyd ef yn glaf gan y Low Fever. Mewn amser byr yr oedd y