Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBEBN GOMBE. Cyfbes Newydd.] IONAWE, 1883. [Ehip 13. Cyf. IV. THOMAS LLEWELYN O'E EHIGOS.* Mae y rhan bwysig a gyrnmerodd y gwr dysgedig a galluog uchod yn nghychwyniad Annghydffurfiaeth yn Nghymru, a'r gorchwyl clodfawr a briodolir iddo gan Malkin yu ei " Scenery, A>iliqiäties and Biography of South Wales" yn nghyd ag ymgais barhaus ysgrifenwyr o Ogledd Cymru, yn enwedig, i ddwyn y gogoniaut hwnw oddiarno, wedi peri i mi synu a gofidio lawer gwaith na buasai rhyw ysgrifenydd gonest a di- duedd yn ceisio chwilio allan yr oll o'r ffeithiau cyssylltiedig â hanes bywyd yr hen fardd enwog, can belled ag y mae yu bossibl mewn oes mor bell oddiwrth yr hon yr oedd efe yn byw ynddi, a'u cyhoeddi, fel y gallo y cyhoedd gael mantais i farnu pa un oedd, ai " Pellenigyn nad oedd yn ymhoni mewn un dawn rhagorach nâ'i fod yn medru cyfieithu i'r Gymraeg Destament Saesneg William Tyndale," fel y galwai Gwallter Mechain ef; neu ynte, " y gwr dysgedig, y bardd rhagorol, y pregeth- wr poblogaidd, a'r Ymneillduwr diofn," fel y darluuiai Iolo Morganwg ef. Amcenir, beth bynag, yn yr ysgrif ganlynol, i wneyd i fyny y diffyg. Tybir, ar seiliau rhesymol, mai yn Glyneithinog, Ehigos, y cafodd Thomas Llewelyn ei eni. Amaethdy yw Glyneithinog (" Glynthynog " y geilw trigolion presenol y gymydogaeth ef) yn nghẁr mwyaf gog- leddol Maenor Blaengwrach, plwyf Glyncorrwg, ac y mae yn ffìnio â Ehanbarth y Ehigos, plwyf Ystrad Dyfodwg; acuid yn mhlwyf Ystrad Dyfodwg, fel y noda Maílrin ar awdurdod Iolo Morganwg. Mae yr Amaethdy presenol wedi ei adeiladu o fewn y 55 mlynedd diweddaf, ac yn wynebu i'r Gorllewin. Yr oedd yr hen dŷ, yr hwn a dynwyd i lawr er adeiladu yr un presenol, yn wynebu i'r Gogledd. Y mae rhan o'i seiliau i'w gweled yn bresenol.f Mae tyddyn Glyneithinog yn awr yn meddiant Cwmpeini Gwaith Glo Fforchygarran, a March- wyr y Cwmpeini a'u teuluoedd sydd yn byw yn yr Amaethdy, yn nghyd â thŷ newydd prydferth arall sydd wedi ei adeiladu yn ddiweddar gerllaw. * Mae yr ysgrifenydd yn ddyledus arn ranau o gynnwysiad yrysgrif hon i Draeth- awd annghyhoeddedig o eiddo Mr. W. T. Morgan (Gwilym Alaw), ar " Hanes Rhanbarth y Rhigos," ac i Lyfrgell y Parch. R. J. Jones, M.A., Aberdar. t " Mewn tŷ bychan, yr hwnoedd wrth dalcen yr hen Amaethdy, y ganwyd y cerddor enwog Rosser Beynon (Asaph Glan Tâf), aẅdwr ' Telyn Seion,' " &c—D. Morganwg.