Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEBEN GOMER. Cyfres Newydd.] HYDREF, 1882. [Rhif. 12. Oyf. III. HANES BOREUOL BEDYDD. K0D1ADAU RHAGARWELNIOL. Nid oes, fe ddichon, un pwnc crefyddol ag y mae cynnifer o syniadau gwahanol yn cael eu coleddu o berthynas iddo â'r ordinhad o fedydd. Mae y gweithredoedd a elwir yn fedydd gan wahanol bleidiau yn hollol wahanol oddiwrth eu gilydd. Ni cheir cytundeb o gwbl rhyng- ddynt ond mewn perthyuas i'r elfen a ddefnyddir. Geilw rhai dywallt yn fedydd; ceir llawer iawn yn gaiw taenelliad felly; ac nid yw y rhai a alwant suddiad llwyr yr hwn a fedyddir mewn dwfr yn fedydd mor anaml, fe ddichon, ag y myn llawer gredu. Yr olaf yn unig yw bedydd yn ol barn ac arferion Èglwys Groeg a'i gwahanol gangenau. Felly nid yw Bedyddwyr y wlad hon, a gwledydd ereill, a'r Unol Dal- eithau wrthynt eu hunain wrth goleddu y gred hou ac wrth ei chario allan yn weithredol. Gwahaniaethir gymmaint ag sydd modd hefyd yn y deiliaid neu y personau y cyflawnir yr hyn a elwir yn fedydd arnynt. Gweinyddir ef ar fabanod gan hçj.1 hen Eglwysi gwledydd cred. Dyma arferiad Eglwys Groeg, Eglwys Rhufain, Eglwys Lloegr, yr Eglwys Luther- aidd, yr Eglwys Ddiwygiedig (Reformed) ar y Cyfandir Ewropiaidd, a chan y nifer luosocaf o enwadau Ymueillduol Ynys Prydain a'r Unol Daleithau. Credinwyr yn unig yw priodol ddeiliaid bedydd yn ol barn un o enwadau y tir, ac ni weinyddir yr ordinhad ganddynt ar neb ond rhai o leiaf a broffesant eu crediniaeth yn y Gwaredwr. Dyma brif nodwedd wahaniaethol yr enwad a elwir y Bedyddwyr, a cherir hyn allan gan rai pleidiau crefyddol ereill. Nid ywy rhai hyn mor anaml ag y myn rhai eu bod. Nid ydynt rnewn rhif ryw lawer ar ol enwadau Ymneillduol ein gwlad ; cyfrifir hwy wrth y miliynau yn ngwlad rhyddid crefyddol, sef Unoí Daleithau America; a theim- lir eu bodolaeth yn awr mewn llawer tref a gwlad yn holl deyrnasoedd Ewrop. Heblaw hyuy, gwneir fel y maent hwy yn gwneuthur gan y rhan fwyaf, os nid yr oll o enwadau Efengylaidd gwledydd cred, gyda phersonau fyddont heb dderbyn yr hyn a gyfrifant yn fedydd yu eu babandod. Ni dderbyniant y cyfryw yn aelodau heb eu bedyddio, ac nis gwyddom am un euwad a fedyddiant neb o dan yr amgylchiad hwn os na fyddant yn coelio am dano ei fod yn credu yn y Ceidwad. Heblaw hyny, gwna enwadau Efengylaidd babanfedyddol yr un fath ag y gwna y Bedyddwyr pan yn tori tir newydd mewn gwledydd Pagan-