Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Gyfres Newydd]. GORPHENAF, 1882. [Rhif 11. Cyf. III. SYR ROBERT LUSH. Ar ddydd neillduol yn y flwyddyn 1819, yroeddMr. Chitty, cyfreithiwr yn Shaftesbury, yn gadaelei swyddfa am y dydd, pan y cyfarfu wrth y drws â gwraig fucheddol a bachgen bochlawn a chanddo lygad dysglaer. Yr oedd yn adnabod y wraig o ran, yr hon oedd weddw, yn maelori ychydig mewn papyr yn y dref. Dechreuodd ar ei neges ar unwaith. " 0 ! Mr. Chitty, yr wyf wedi dwyn fy Robert atoch ; ni cheir hedd- wch ganddo ; y mae wedi rhoddi ei galon ar fod mewn swyddfa cyfreith- iwr. Ond dyna, nid wyf yn meddu yr arian i'w wneyd yn egwyddorwas. Yn unig yr oeddym yn meddwl fe ddichon y gallech gael rhyw fath o le iddo, pa mor isel bynag." Yna dystawodd, gan edrych yn apelgar i'w wyneb, tra yr oedd bochau a llygaid y bachgen yn tanio mewn dysgwyliad. Cynnwysai y rhan fwyaf o drefì gwladol y pryd hwnw ddau gyfreith- iwr, y rhai a ellid eu galw yn siamplau / types); y dyn hir-sefydlog, swyddfa yr hwn oedd am fiynyddoedd werìi bod yn gwneuthur y gwaith heddychol ac ennillfawr, megys ewyllysiau, cytunebau, cyfranogaetb.au, tirwystliadau (purtnerships, mortgages), &c.; a'r cyfreithiwr gweithgar, yr hwn oedd y galluocaf mewn cyfreithio, ac a orfodid i ysgwyd y pren eirin yn lle eistedd tano ac agor ei enau i'w derbyn yn disgyn gan y gwynt. Rhif yr ail oedd Mr. Chitty. Ond y mae y dosparth hwn yn fynych yn meddu tymher dda ; ac felly, gan edrych ar y weddw daer a'r bachgen heulog, teimlai duedd i dosturio wrthynt, ac yn hytrach yn ofidus nas gallai wneuthur hyny. Dywedai mai swyddfa fechan oedd ei eiddo ef, ac uad oedd arno eisieu ysgrifenydd ; " ac yn wir," meddai, " pe buasai arnaf eisieu un, y mae hwn yn rhy ieuanc; nid yw ond plentyn." " Yr wyf yn ddeuddeg y pryd a'r pryd," meddai y bachgen, gan nodi y mis a'r dydd. " Nid ydych yn ymddangos cymmaint," ebe Mr. Chitty yn annghrediniol. " Ond yn wir y mae," ebe y weddw, " nid ymddangosodd erioed mor hen ag yw efe, ac mae yn ysgrifenu llaw ardderchog." " Ond yr wyf yn dywedyd nad oes eisieu ysgrifen- ydd arnaf," ebe Mr. Chitty, gan droi yn anhynaws. " Wel, diolch i chwi, syr, yr un modd," ebe y weddw, gyda'r amynedd perthynol i'w rhyw. " Deuwch, Robert, rhaid i ni beidio cadw y boneddwr yn hwy." Felly, troisant i ffwrdd â siomedigaeth yn nodweddu eu gwynebpryd, yn enwedig eiddo y bachgen,