Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEEN GOMBE. C*fres Newydd] . EBRILL, 1882. [Rhif 10. Cyf. III. Y PARCH. T. THOMAS, D.D., DIWEDDAR LYWYDD ATHEOFA PONTYPWL. In Memoriam. Amcanwn roddi braslinelliad o hanes y gwas ffyddlon liwn i Iesu Grist. Ganwyd ef yn y Bontfaen, Morganwg, Ionawr 12, 1805. Enwau ei rieni oeddynt Thomas a Mary Thomas. Symmndasant o'r Bontfaen i ffermdy Pontleckwith gerllaw Caerdydd, pan nadoedd efe ond ieuanc. Nid oedd un o'i rieui yn proffesu crefydd pan anwyd ef, er eu bod yn mynychu eglwys y plwyf; ond yu mhen blyuyddau ar ol hyny daeth ei fam yn aelod o Eglwysy Tabernacl, Caerdydd ; a phrofodd eihunan yn fenyw wir greíyddol a duwiol. Parhaodd ei dad yn ddyu annghre- fyddol, a bu farw yn ddibroffes ; ond yr oedd cyfnewidiad mawr wedi cymmeryd lle ynddo cyn terfyn ei oes, a thystiolaeth ei fab ar ol ei farwolaeth oedd ei fod yn obeithiol am dano. Y cyntaf o'r teulu, fel yr ymddengys, i yrnuno â chrefydd yr addfwyn Oen oedd y mab Thoinas Thomas. Bedyddiwyd ef yn afon Taf, yn mis Tachwedd, 1818, gan y Parch. Griffith Davies, gweinidog cyntaf yr Eglwys yn Ngliaerdydd, cyn i'r Tabernacl gael ei adeiladu. Pan ddechreuodd fynychu yr addoliad a gerid yn mlaen gan y Bedyddwyr yn y Star and Garter, sef y man yr arfereut addoli cyu cael capel, dangosodd ei dad wrthwynebiad mawr; ond creulonodd pan ddeallodd fod ei fab wedi myned i'r gyfeillach, ac yu enwedig pan ddeallodd ei fod yn myned i gael ei fedyddio. Bwriadwyd i hyn gael ei wneyd ycbydig yn gynt nag y cymmerodd le. Yr oedd amryw i gael eu bedyddioyn afon Taf, ychydig uwchlaw i lien bont Caerdydd ; a bwriadwyd i fab fferm y Leckwith gael ei fedyddio yr un pryd ; ond bu gwrthwynebiad pen- derfynol y tad yn foddion i ohirio ei fedyddiad ef hyd yr amser a nodwyd genym ; ac erbyn hynyyr oedd y tad a'r fam yn gwbl foddlon. Mae yn amlwg fod Mr. Tìiomas wedi cael manteision addysg lled dda, yn ol y manteision oedd i'w cael ar y pryd ; oblegyd cawn ei fod yn mhen yehydig amser ar ol ei fedyddio yn cael ei ddewis yn athraw cynnorthwyol yn un o brif ysgolion tref Caerdydd, yr hon a gerid yn mlaen dan lywyddiaeth y Parch. W. Jones, gweinidog rhagorol yr Eglwys fedydditdig Saesonaeg a gwrddai yn Bethany, Caerdydd. Dechreuodd bregttliu cyn hir ar brawf yn y cyfeillacbau, ond nid oes cofnodion o'r amser ar gael. Nid oedd pawb o'r hen frodyr yn meddwl