Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBEBN GOMER Cyfres Newydd] . IONAWR, 1882. [Rhif 9. Cyf. III. HANES EIN CYFIEITHAD CYMRAEG O'R YSGEYTHYRAU SANTAIDD.* I. Dechreuwn ein hanes gyda chyhoeddiad yr oìl o'r Testament Newydd yn Gymraeg, gan William Salesbury, yn y flwyddyn 1567. 1. Y Gyfrol. Llyfr pedwar plyg, yn cynnwys 399 o ddalenau (nid oedd ond un tu i'r ddalen yn cael ei rifnodi yr amser hwnw), wedi ei argraffu mewn llythyrenau duon neu fiewog, yw y Testament hwn. Y mae wedi ei rauu i lyfrau a phennodau, oddieithr ychydigo'r Actau, ac o ddechreu yr Ail Epistol at Timotheus hyd ddiwedd y Datguddiad. Cawn yuddo gynnwysiad o flaen pob llyfr a phennod, ac egluriadau o rai geiriau ar ymyl y dail. Cynnwysa hefyd lythyr Saesonaeg o gyf- lwyniad i'r Frenines Elizabeth ganẄilliam Salesbury, a llythyr maith at ei gydwladwyr gan Dr. Davies, Esgob Tyddewi. Bernir fod nifer y cop'iau a argraffwyd oddeutu G00. Y mae copi o'r Teátamenthwn, yn ogystal â chopìau o Feiblau Dr. Morgan a Dr. Parry, yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundaiu, ac yn llyfrgell y Brif Ysgol yn Aberystwyth. 2. Y Cyfieitìwyr. (a). William Salesbury oedd prif gyfìeithydd y Testament Cymraeg cyntaf. Hanes dyddorol yw hanes William Salesbury. Myntumia rhai mai yn y Plas Isaf, yn ymyl Llanrwst, sir Ddinbych, y ganwyd ef; tra y dadleua ereill mai yn y Cae Da, ger Llausannan, sir Ddin- bych, y cymmerodd hyny le. Yr oedd yn deilliaw o hen deulu cyfrifol o darddiad Normanaidd, fel y mae ei enw—Salesbury—yn arwyddo. Bu yn fyfyriwr yn Bhydychain, ac oddiyno aeth i Thavies' Inn, Llun- dain, i astudio y gyfraith. Ond rhoddodd i fyny y bwriad o fyned yn gyfreithiwr, a dychwelodd i fyw i'r Cae Du. Yn ffermdy y Cae Du y cyfieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg. Dywedir fod yr ystafell lle yr arferai efrydu yn adnabyddus hyd yn ddiweddar, ac mai un hynod o ddirgel, cyffredin, a diaddurn oedd. Mae traddodiad yn dweyd iddo wneyd yr ystafell mor ddirgel, fel nad oedd yr un fynedfa * Y mae awdwr yr erthygl am gydnabod ei ddyled i'r llyfrau canlynol:—" Hanes y Beibl Cymraeg ;" " Llyfryddiaeth y Cymry ;" " Gwaith öwallter Meehain ;" ♦«E»wogion y Ffydd;" a üeiriaduron Charles a Mathetes.