Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER Cyfres Newydd] . HYDREF, 1881. [Rhif 8. Cyf. II. Y DEUDDEG DYSGYBL YN EPHESUS.—Actau, xix. 1—7. Mae y golygiadau a goleddir o bartbed y dysgyblion byn, eu bedydd, &c, yn lluosog ac amrywiol. Diau fod y gwirionedd i'w gael yn rhywle ; ac anican yr ysgrif hon fydd cbwilio am dano. Addefir yn gyffredinol mai yr apostol Paul a ddygodd neu a bregeth- odd yr Efengyl gyntaf yn Epbesus. Cymmeroddbyny le yn ngbylch dwy fiynedd cyn ei gyfarfyddiad â'r deuddeg dysgybl byn, pan ydoedd ar ei daith o Corintb i Jerusalem. Nid arosodd yn Epbesus y pryd hwnw ond am amser byr, gan ei fod mewn brys i fyned i Jerusalem, prif- ddinas y byd mewn ystyr Gristionogol—lle marwolaetb ac adgyfodiad Iachawdwr y byd, a'r lle o'r bwn yr aeth deddfau y deyrnas newydd allan—" Y gyfraith o Seion." Yn ystod yr ymweliad byr hwn (tua'r fl. 54), pregetbodd yr Efengyl yn y synagogau, ymddengys, i'r Iuddewon yn unig. Er eu bod yn dymuno arno aros gyda bwy yn hŵy, efe a ymadawodd, gan fyned tua Jerusalem. Nid oes genym hanes i ddim llwyddiant gymmeryd lle y pryd bwnw—i ddim cymmaint ag un i dderbyn y genadwri, credu yr Efengyl, a dyfod yn ddysgybl i Iesu Grist. Bu am tua dwy fiynedd cyn dycbwelyd yno drachefn. Yn ystod y ddwy flynedd hyny, pregetbwyd yno gan Apolos yn ddon- iol, ond yn lled anmherffaith, hyd oni addysgwyd ef yn ffordd Duw yn fanylach, gan wr a gwraig o'r enw Acwila a Phriscila, y rbai oedd Paul wedi eu gadael ar ei ol yno. Ond cyn ei ddychweliad, yr oedd Apolos wedi ymadael a myned i Achaiah, ac yn cyflawni gwaith mawr yno trwy bregetbu yr Efeogyl. Wedi i Paul fyned o Jerusalem i Antiochia, a theithio trwy ranau uchelaf Asia Leiaf, daeth, yn naturiol yn ol y cyfeiriad, i Ephesus, yn mben dwy flynedd, íel y dywedwyd, ar ol ei ymweliad a r lle y tro cyntaf. A'r peth cyntaf a ddywedir am dano ar ol dyfod yno y waith hon, oedd ei gyfarfyddiad á'r deuddeg dysgybl crybwylledig. Cyfyd yn y meddwl amryw ofyniadau cyssylltiedig â'r dysgyblion hyn ag y carem gael atebion iddynt, ond nis ceir hwy. Pa un ai Iuddewon neu Genedloedd oeddynt, neu bob un o'r ddau, ni ddywedir. 0 ba le yr oeddynt, a oeddynt yn enedigol oddiyno, a ddaethant yno o ryw le arall, pa bryd y daethant, neu pa hyd oeddynt wedi bod yno, &c. Nid oes yr un ateb i'w gael. Yr oll a ddywedir yma gan Luc am danynt ydyw, eu bod yn ddysgyblion. Yr oeddynt felly wedi clywed am yr