Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SBEEN GOMEE. Cyfres Newydd]. GORPHENAF, 1881. [Ehif 7. Cyf. II. DE. WENGER. Ei Fywyd a'i Lafur yn India. (Parhad dr Rhifyn diweddaf.) Ar ol mordaitli arw a thymhestlog am dri mis a saith niwrnod, cyr- haeddasant Calcutta ar y 27ain o Fedi, 1839 ; a dechreuodd ein brawd ar unwaith ar ei waith, fel y gallem ddywedyd, heb dreulio dim aniser mewn rhag-ddarpariaeth, fel yr ysgrifena : " Gyda golwg ar y Bengali, o'r amser y glaniais cefais ormod o waith wedi ei dori allan i mi i adael nemawr o amser i efrydu yr iaith. Dysgais hi yn benaf trwy ymarferiad." Gyda y cymhorth a dderbyniodd gan Mr. George Pearce yn Llundain, a'r cynnorthwy pellach ar fwrdd y llong gan Mr. W. H. Pearce, ymddengys ei fod yn lled bell yn mlaen yn y Bengali cyn iddo gyrhaedd India ; fel hyn yn wir y rhaid fod yr achos, oblegyd cawn ef yn gwasanaethu ar y cymmundeb mewn eglwys frodorol yn mhen tua mis ar ol iddo ddyfod i'r wlad ; a chyn i chwech mis fyued heibio, yr oedd yn brysur gyda'r gwaith o gyfieithu, yr hon sydd feallai yn ffaith heb ei bath yn hanes neb arall o genadon ieuainc India. Gan fy mod wedi traethu mor helaeth ar fywyd boreuol ein brawd yn Switzerland, a chan fod ei lafur yn India yn fwy adnabyddus i'w gyfeillion oll nâ hanes ei fywyd boreuol, ni bydd i mi ond yn unig roddi braslun o'i yrfa hir a defnyddiol yn y wlad hon. Mewn trefn i roddi syniad gweddol gywir o'r hyn a wnaeth dros waith yr Arglwydd yn y wlad hon, ac o'r hyn oedd ei gymmeriad personol, mewn lle mor fyr ag o ellir, bydd i mi ranu y bras-linelliad fel y caníyn :—Ei Lafnr Llenyddol; Ei Waith Efengylaidd a Gweinidogaethol; a'i Fywyd Teuhiol aH Gymmeriad. I. Ei Lafur Llenyddol. Galwyd arno i argymmeryd â'r rhai hyn o fewn tri mis ar ol iddo gyrhaedd y wlad. Diau i'r ymroddgar W. H. Pearce a'r dysgedig Dr. Yates yn fuan ganfod eu bod wedi cael yn Dr. Wenger gynnorthwy- wr o'r mwyaf galluog ac addawol yn y gwaith mawr o gyfieithu y Beibl a diwygio cyfieithadau o'r Ysgrythyrau. Y gwaith cyntaf a roddwyd i Mr. Wenger i'w gyflawnu oedd darparu yn ofalus "gyfres gyflawn o enwau priodol Ysgrythyrol wedi eu cyfieithu i'r Bengali." Yr oedd y gwaith hwn yn dra angenrheidiol, ond yn bur sych a blinderus; a rhoddodd ein brawd rai misoedd i'r tasg-waith, yr hwn a orphenwyd ganddo yn foddhaol.