Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEEBN GOMER. Cyfres Newydd.] IONAWR, 1881. [Rhif. 5. Cyf. II. HADES. Coleddir syniadau lawer, a'r rhai hyny yn wahanol i'w gilydd, ac weitliìau yn wrthddywediadau, ar feddwl y gair Hades. Myn rliai mai uffern yw ei feddwl; dadleua ereill ei fod yn golygu y nefoedd ; muntumia ereill ei fod yn golygu uffern a nefoedd ; tra y daìia ereill yr un mor hyderus nad yw yn golygu y naill na'r llall, ond fod ei lioll ystyr yn cael ei gynnwys yn y gair bedd ; a haera ereill fod pob un o'r golygiadau hyn yn annghywir, ac fod gwir ystyr y gair i'w wahaniaethu oddiwrth bob un o'r ystyron uchod, ac oddiwrth bob unoliaith o honynt. Ymdden- gysfod Cyfìeithwyr yr Ysgrythyrau i'r iaith Gymraeg yn coleddu y syniad fod Hades yn gyfystyr ag uffern, oblegyd y gair olaf a ddodant yn ddieithriad yn gyfieithiad am y blaenaf. Er hyny ymddengys eu bod weithiau yn amheu ai hyn oedd gwir feddwl y gair, oblegyd cawn hwy yn dodi y bedd ddwy waith yn gyfieithiad o honoarymyly ddalen, gwel 1 Cor. xv. 55, a Dat. xx. 13. Yn nghanol y fath amrywiaeth barnau a golygiadau gwrthwynebol, y mae gofal a manylrwydd mawr yn ofynol wrth chwilio i wTir ystyr y gair, ac wrth fesur a phwyso y rhesymau a ddygir dros ac yn erbyn y gwahanol ystyron aroddir iddo. Priodol yw sylwi ar y dechreu fod y gair nffern yn cael ei arfer yn y cyfieithiad cyffredin am dri gair gwahanol a geir yn y gwreiddiol, sef Oehenna, Tartaros, a Hades. Mae y ffaith hon, a dweyd y lleiaf, yn ddigon i beri amheuaeth a ydyw y gair ufl'ern yn golygu yr un peth yn mhob lle y ceir ef yn y Cyfieithiad Cyffredin ; oblegyd os yr un peth yw ei ystyr, paham yr arferir geiriau gwahanol i'w gynnrychioli yn y gwreiddiol ? A ydyw Oehenna, Tartaros, a Hades yn y gwreiddiol yn cyfieu yr un a'r unrhyw ystyr ? Os ydynt yr un o ran ystyr, paham yr arferir un o honynt mewn rhaì cyssylltiadau ac arall mewn cyssyllt- iadau ereill? Öni dclichon fod rhyw wahaniaethyst.yr rhyngddynt, ac oni ddichon mai hyny yw yr achos fod y naill yn cael ei arfer mewn rhai cyssylltiadau yn hytrach nâ'r llall ? Heblaw hyny, mae y ffaith fod y cyfieithwyr wedi gosod y bedd mewn dau le ar ymyl y ddalen _yn gyfieithiad o'r gair hades yn profi eu bod hwy mewn rhyw gymmaint o betrusdod o barthed ei wir ystyr. Oni allwn ofyn, a yw y bedd neu uffem yn gyfystyr ag ef, neu a yw y gair ddim yn wahanol o ran ysytr i bob un o honynt ? Os yw un o'r geiriau uchod yn gyfystyr a hades, gall y gah- hwnw sefyll am dano yn mhob man yn y cyfieithiad, ac ni