Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. bhif. xii. GORPHENAF, 1864. crr. iv. CYFADDASRWYDD Y BEIBL I GYFARFOD ANGEN DYNOLIAETH. RHAGLITH. Y mae holl foddion moesol (mm-al means) creaduriaid rhesymol yn gynnwysedig mewn natur a dadguddiad ; sef y bydysawd yn cynnwys holl anian, a'r llyfr ysbrydoledig. Y mae cyfrifoldeb pob creadur rhesymol yn ymddibynu ar natur a swm y moddion moesol a fwynheir ganddo. 0 ran dim a hysbyswyd i ni yn ngwyneb y bydysawd—Anian a'iDuw, y mae'r angelion (syrthiedig ac ansyrthiedig) yn fodau cyfrifol. Y mae'r creadur o ddyn yn gyfrifol yn ngwyneb natur a dadguddiad— anian a'i Duw, yn nghyd â'r llyfr Dwyfoì ; mae'rnaül a'r llallyn cyfan- soddi y moddion moesol a fwynbeir ganddo. Mae Awdwr natur yn foddion moesol iddo ei hun, ac amlygiad ohono ei hun yw'r eyfrywfodd- ion moesol ag y mae ei holl greaduriaid rhesymol yn mhob parth o'i Iywodraeth yn gael. Nid oes y gwrthdarawiad lleiaf rhwng gwahanol gyfryngau moddion moesol a'u gilydd. Yr wyf yn meddwl trwy y rhaglith hon, symmud ymaith rai pethau ag y gellid dysgwyl i mi ymdrafod â hwynt yn nghorff y traethawd, neu o leiaf lefaru fy marn arnynt yn fyr yma, gan nadydwyfyn ystyried y rhai hyny yn anhebgorol i'r pwnc presennol. Yn ol tafleni Archesgob üsher, ceir y cread tua 4004 o flynyddau cyn Crist, yr hyn a nerthol wrthbrofir gan Ddaearegwyr, gan daflu r amryfusedd ar geíh y Beibl gyda dirmyg ! eithr ar ol chwiho, a myfyrio yr hen lyfr, gwelir ar unwaith nad yw yr Hanesydd Ysbrydoledig yn cymmeryd amo i brofi y pa bêtd y dygwyd y greadigaeth i fodolaeth ; ond yn unig efe a broffesa adrodd y ffaith ýn syml :-" Yny decheeuad y creodd Duw y Nefoedd a'r ddaear," heb awgrymu un gair at mfer y cyfnodau a allasent fod wedi pasio oddiar y " DŵBŴÿD hwIJw„ ... Felly, ar ol sylwi, canfyddir fod natur a dadguddiad yn berffaith gydsafol am y pwnc pwysig hwn, yn o gystal â phob pwnc arall; o gan- lpaiad, cauer pob genau Annuwiaidd (Atimsttcal)- Y mae cad- arn sail Duw yn sefyU," mewn Natur a Dadguddiad, heb yr an- Oyf. IV.—2,