Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. NEETH GWYBODAETH. Wrtíi wybodaeth yr ydym yn deall adnabyddiaeth gywir o natur ae ansawdd gwahanol fôdau a phetliau, o fewn cylch dirnadiaeth ac amgyffrediad y mcddwl; ac ymwybyddiaeth o'r ffeithiau, y deddfau, a'r gwirioneddau sydd yn guddiedig yn ei ddyfnderoedd ei hun. Ffrwyth y meddwl, a chynnyrch y deail ydyw. Eelly, po fwyaf o driniaeth a gaffo y meddwl, rhagoraf oll fydd y ffrwythau; a pho fwyaf diwyd ac ymdrechol y byddo y deall, cyflawnaf oll fydd y cynnyrch. Yna y mae yn canlyn y dichon dyn fod yn meddu meddwl mawr Newton, etto heb feddu ond- gwybodaeth brin. Beth bynag fyddo y gallu, os na roddir ef mewn gweithrediad, nid ydyw o un lìeshad; a beth bynag ydyw cynnwysíad cynneddfau gwreiddiol y meddwl, nid ydyw ei wybodaeiìi ond ffrwyth a gesglir drwy ymddad- blygiad y cynneddfau hyny. Peth i'w feddu ydyw gwybodaeth—peth i gymmeryd gafael ynddo—coron i'w henniìl drwy redeg gyrfa ydyw. Nid ydyw dyn—un dyn, yn feddiannol arni wrth natur. Nid oes un Kepler, Locke, na Bacon wedi ei eni yn athronydd—un Galileo, Newton, na Herchel, wedi ei eni yn serydd—un Homer na Milton yn fardd—un Handel na Mozart yn gerddor—un Humboldt yn ddaear- egwr, na Gill yn dduwinydd ; ond hollol amddifaid o wybodaeth oedd- ynt oll yn eu dyfodiad i'r byd. Ond yr oeddynt yn feddiannol ar feddwl mawr, ac athrylith neillduol, i gyfeirio y meddwl hwnw at ryw brif nôd. Ac y mae y gallu cyntaf, sef meddwl, yn meddiant pob dyn, ond yn amddifad o'r gallu neillduol arall, sef athrylith naturiol, a hyny, i raddau helaeth iawn, ydyw yr achos na byddai mwy o ddynion yn ynienwogi yn y byd. Y mae yn anmhosibl ym- enwogi heb ddysgyblu y meddwl, a chyrhaedd gwybodaeth dda o'r hyn y meddylir ei feistroli; ac y mae yn anmhosibl gwneuthur hyny, heb gyfyngu y nieddwl mewn modd neillduol at ryw un peth. Y mae llawer efrydydd enwog wedi dystrywio ei hun, o ddiffyg cyfeiriad priodol a phenderfyniad diysgog i ymestyn yn ddidor at brif nôd ei athrylith. JN"eu, os byddai yr athrylith naturiol yn cyfeirio at wrth- ddrychau anmhriodol a diles, ac annheilwng o ymdrech oes dyn, dylid gorchfygu y duedd naturiol hono, a chyfeirio y meddwl yn holloí at bethau gwell—rhyw beth teilwng o urddas dyn fel bôd anfarwol. Os gwelir efrydydd ■ ieuanc yn wamal ei feddwl—yn myíÿrio y ganghen hon heddyw, un arall y fory—treiddio drwy'r ieithoedd un flwyddyn, meistrioli ryw wyddor neu gelf y flwyddyn arall, athroniaeth wedi hyny, gellir gosod }^n ysgrifenedig uwch ei ben, mewn llythyrenau b'reision—" M ragori di." Nid ydym yn tybied na all dyn yrarodd- gar gyrhaedd llawer o berffeithrwydd drwy efrydu gwybodaeth gyffred- Cyf.III.-23.