Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Y BEDYDD CBISTIONOGOL A'E " BEIHNIAD." (PAEHAD O'R EHIFYN DIWEDDAF.) 4. Medd y traethodwr, " Mae hanesiaeth eglwysig yn dangos fod babanod yn cael eu bedyddio o'r oes apostolaidd' hyd yn bresenol." Bhifa y traethodwr y pen hwn yn bummed, ond pa beth a ddaeth o'r pedwerydd î Nid yw yn y Beirniad, beth bynag. A ydyw wedi myned gyda'r gwynt yn ystod ei drosglwyddiad i'r swyddfa ? Y rhyfeddod yw, os cafodd yr awel leiaf ymosod arnynt, na buasent oll wedi myned gydag ef, oblegid, fel y gwel y darllenydd, y maent mor ysgafn a'r manlwch o'r lloriau dyrnu hâf. Wedi gosod y penau yn eu lle fel y dylent fod, ni wrandawwn beth sydd gan y traethodwr i'w ddywedyd i brofi yr haeriad uchod. " Addefir," meddai, " hyd y nod gan drochwyr, fod Polycarp yn fedyddiwr babanod." Gan bwy o honynt yr addefir hyn ? Enwed y traethodwr un os gall. Er ei fod wedi rhoddi tudalen gyfan agos i hanes Polycarp, nid yw wedi nodi un frawddeg yn ei waith, sydd yn dangos, nac wedi enwi un trochwr sydd yn addef, ei fod yn fedyddiwr babanod; a gallwn ei sicrhau nad oes un mabandaenellwr o fri, a ŵyr rywbeth am Polycarp, yn addef y fath beth. Gwr gwellt sydd yma, ie, gwaelach nâ gwr gwellt hefyd. Dychymmyg wedi ymíFurfio yn ymen- ydd y traethodwr ; ei ewyllys ef wedi cymmeryd flurf; creadigaeth ei grebwyll gyfoethog ef, er mwyn cael rhyw beth yn yr oes foreuol hon i gadw bywyd yn ei anwyl eilun sydd ar drengu ; haeriad heb ddim sail iddi, ond gair da y fíugiwr nwydwyllt hwn, a dim arall, yw y dywediad, " addefir fod Polycarp yn fedyddiwr babanod." Buasai profi hyn o ddirfawr wasanaeth iddo. Buasai profi hyn yn peru i ledyddwyr betruso am gywirdeb eu syniadau. Onid'yw ei waith yn peidio dyíod â'i brofìon yn mlaen yn dangos ei ymwybodoldeb nad oedd ganddo ddim i'wcael? Ei dyst nesaf yw Justin Martyr, yr hwn, meddai, " a gyhoeddodd amdditiÿniad i'r grefydd Gristionogol tua'r flwyddyn 160, yn yr hwn y dywed, yr adwaenai lawer yn 60 ac yn 70 oed, yn ei oes, ag oedd wedi eu proselytio i Grist er yn fabanod, a'u bod wedi cadw eu ffordd hyd y pryd hyny. Mae Justin Martyr yn arfer yr un gair Groeg ag a arferir yn y commissiwn." Gwir fod Justin yn arfer yr un gair Groeg ag a arferir yn y commissiwn, hyny yw, padnryiu ; ond paham, gan hyny, y mae y traethodwr yn ei gyfieithu yn broselytio ? Yr ydym yn ei gyhuddo o anwiredd yn y dyfyniad uchod. Nid " wedi eu proselytio er yn fabanod" yw meddwl ot ix wauìm fiA.*$vrev9tto-x*. Nid yw y geiriau hyn yn golygu dim ond eu bod yn ddysgyblion er yn blant neu yn ieuainc. Dywedir am Timotheus, ''' iddo er yn fachgen {airo fytfmi) wybod yr Ysgrythyrau" 2 Epis. 3. 15. Sylwer mai fye<pos a arferir yma, ac mai Cyí-. III.—12.