Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. ANERCHIAD SEREN GOMER AT IEIJENCTYD YMOFYN- GAE CYMEU. Aìtwyl Gydwladwyr—Tra nad yw yn iawn i'r ieuanc geryddu henaf- gwr, y mae ar yr un pryd yn weddus i'r hen gyfarwyddo a chynghori'r ieuanc ; ac mor weddus a hyny, wrth reswm, i'r ieuanc wrando a pharchu llais a llafar yr hen, os traetha bethau uniawn a da. Mae gwefus yr hen yn cael ei hystyried yn gyssegredig ; mae profìad yn rhoddi hawl a thrwydded i gadair yr athraw. Mae pen gwyn yn goron, ac mae y llaw sydd wedi gwneyd llawer o waith yn meddu ar gymhwysder i arwain. Mae ieuenctyd yn naturiol yn dilyn ; bod yn ail yw lle priodol yr ieuanc; gwrando, sylwi, ac ymestyn yn y blaen yw ei swydd. Naturiol ar bob golwg y w i"r hen ddefnyddio ei dafod ; ac mae mor naturiol a hyny i'r ieuanc ddefnyddio ei giust; mae y peth sydd o safiad hir yn berl yn nghanol Uwch, ac un hen gyfaill sydd wedi ei brofi yn gyfaill gwirion- eddol, yn well nâ deg o rai newyddion yn gwisgo yr enw, ond heb gael amser 1 brofi eu bod yn meddu ar briodoleddau cyfaill. Ond meddwch chwi, " Beth sydd a fyno hyn â'r pwnc mewn llaw ?" Iy ateb yw, fod a fyno hyn â'r pwnc ; canys er fymod yn siarad yn fy fíbrdd fy hun, ac yn ymddangos i chwi, fe ddiehon, yn crwydro o am- gylch, etto yr wyf yn hyderu y gallaf ddangos i chwi fod priodoldeb yn y sylwadau blaenorol. Yr ydwyf íi yn myned i'ch cyfarch chwi; ac onid yw yn briodol i chwi a minnau gofio hyny, fel y byddo i mi deimlo tra vn llefaru, na ddylwn, a mi yn hòni henaint, lefaru ond doethineb ; ac 1 chwithau deimlo, gan eich bod yn ieuanc, y dylech o leiaf wrando gyda pharch a phwyll. Os nad oes genyf hawl a chymhwysder i siarad, mae hyny yn warth mawr i mi, ac yn gywilydd i mi honi henaint, os nad wyf ar hyd íy oes wedi casglu doethineb ;. ond o'r tu arall, os oes genyf hawl a chymhwysder i siarad, bydd yn bechod ynoch chwithau i beidio gwrando. deugain o'm hoedran. Onid ydwyf yn hen ? Cy: ^nion gyda'u gilydd yn 30 mlynedd ; yr wyf fi wedi byw yr oes hono, hanner un arall o'r un hŷd; onid 'ydwyf yn hen ? Nid oes i mi gyfoedion yn mhlith dynion; canys mae hoîl dclynion y byd, a'u cyfrif ar gyfartaledd, ag oeddynt fyw pan anwyd fi M'edi marw yn awr; ond yr wyf fi etto yn fyw i weled hanner oes arall wedi marw ar ol hòno. Wid oes i mi gyibedion yn mhlith cyhoeddiadau Cymreig, canys nid oes vr un o honynt yn fyw heddyw" ag oedd ar y maes gyda mi yn moreu'm hoes. Mae rhyw lu o gyhoeddiadau wedi dyfod i fewn a myned allan, ymddangos a diflanu, cyfodi a syrthio, marw a chodi drachefn, er pan wnaethym I fy ymddangosiad cyntaf; ond wele fi, er y myned allan, yn Cyf. III.—1.