Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. T BEDYDD CRISTIONOGOL A'R " BEIRNIAD." "Wedi dangos annghywirdeb sylwadau y traethodwr ar y commissiwn, ac nad oes yma sail i fedyddio neb ond rhai wedi eu dysgu, neu wedi eu gwneuthur yn ddysgyblion drwy eu dysgu am Grist a'i efengyl; awn yn mlaen i edrych a oes rhywbeth yn y pedwar rheswm arall a ddyg efe yn mlaen dros fedydd babanod. Arweinir y rhai hyn i mewn ganddo fel y canlyn:—" Gellir nodi y pethaa canlynol er dangos yn mhellach fod babanod ' yr holl genedloedd' yn cael eu cynnwys yn y commissiwn." Mae efe yn lled hyderus, onid yw ? "Wel, pa beth ydynt ? 1. " Yr oedd babanod yr Iuddewon yn perthyn i'r oruchwyliaeth Iuddewig." Oeddynt, siwr ; ond beth am hyny ? " Un o ordinhadau yr oruchwyliaeth Iuddewig oedd yr enwaediad." Ië, siwr ; beth wedi hyny ? " Mae yn amlwg mai goruchwyliaeth gras oedd yr hen oruch- wyliaeth.........Fe gredodd llawer, ac fe achubwyd Uawer, o dan yr hen oruchwyliaeth.........A chan fod dynion wedi credu, ac wedi eu hachub, o dan yr hen oruchwyliaeth, mae yn sicr mai goruchwyliaeth gras ydoedd." Nage, yn siwr i chwi, Syr, oblegid y mae y Beibl yn dywedyd yn bendant fel arall. " Y gyfraith a roddwyd drwy Moses, ond ý gras a'r gwirionedd a ddaeth drwy Iesu Grist," loan 1. 17. Yr oedd yr oruchwyliaeth o fynydd Sina, " yn cenedlu i gaethiwed, ac y mae yn gaeth hi a'i phlant," Gal. 4. 24, 25. " Llythyren yn lladd, gweinidogaeth angeu, a gweinidogaeth damnedigaeth," oedd yr oruch- wyliaeth Iuddewig, ac nid goruchwyliaeth gras. Dyma ddywed Ioan a Phaul am dani; a chofied y traethodwr fod yn well genym ni o lawer wrando ar y ddau ddyn hyn nag ar ddwy fil o'i fath ef. Gwir i lawer gredu a chael eu hachub dan yr hen oruchwyliaeth, ond y mae yr un mor wir a hyny, na achubwyd neb drwy y gyfraith. " Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, namyu dwyn gobaith gwell i mewn," Heb. 7. 19. " Canys yr hyn ni allai y ddeddf, o herwydd ei bod yn wan drwy y cnawd, Duw a ddanfonodd ei Eab ei.hun, yn nghyfielybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemniodd bechod yn y cnawd," Rhuf. S. 3. Gwel hefyd Act, 13. 39 ; Heb. 9. 9 ; 10. 1—4, &e. Yr oedd yr hen oruchwyliaeth yn " gysgod o ddaionus bethau a fyddent" (Col. 2. 17), ac yn arwain y meddwl at Grist, y Ceidwad addawedig. " Y ddeddf, gan byny, oedd ein Hathraw ni at Grist, fel y'n cyfiawn- hëid trwy ffydd," Gal. 3. 24. Gwybyddwch, gan hyny, mai drwy íFydd yn addewidion Duw yr oedd dynion yn cael eu hachub gynt, ac nid drwy yr oruchwyliaeth Iuddewíg, Rhuf. 4 ; Gal. 3. " Yr ydych yn cyfeil- iorni," Syr, " am na wyddoch yr ysgrythyrau." Cynghorwn chwi yn ddifrifol i ddarllen rhagor arnynt, a llai ar Jyfrau Thorn o Winchester, Ctt. II.—34.