Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOME'R. Y BEIBL. EI DTNGED. Fel yr oedd hynodrwydd amgylchiadau genedigaeth Ioan Eedyddiwr yn cynhyrfu pawb a glywent am danynt, i'w gosod yn eu calon, gan ofyn gyda syndod, " 'BeÛiJydd y bachgenyn hwn?" felly ninnau, wedi cael profion sydd yn ein bryd ni yn anwrthwynebol fod y Beibl yn icir- ionedd—yn icirionedd dwyfol—yn icirionedd dicyfol icedi ei roddi i ddyn— ac yn wirionedd dwyfol wedi ei roddi i ddyn i'w gyfarwyddo am y pethau mwyaf pwysig iddo yn y byd hwn ac yn yr hwn a ddaw, nis gall dim fod yn fwy naturiol a phriodol i ni nâ gofyn, " Beth fydd y llyfr hwn ?" Beth fydd ei effeithiau ar yr hil ddynol ? Beth fydd helaeth- rwydd ei ddylanwad ar y ddaear mewn amser i ddyfod ? Nid oedd Mair, mam yr Iesu, yn gallu gweled i'r amser dyfodol, ond anfonodd Duw yr angel Gabriel i lawr o'r nef i ragfynegu iddi enedig- aeth y Messiah—i ddywedyd ar ba enw y buasai yn cael ei alw—ac i hysbysu iddi natur a helaethrwydd ei fawredd a'i ogoniant yn y byd, gan ddywedyd, " Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd. Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd, ac ar ei freniniaeth ni bydd di- wedd." Nid ydyni ninnau mwy nâ Mair yn gallu gweled y dyfodiant, nac yn gwybod beth a ddygwydd mewn diwrnod ; ond er hyny, y mae genym gymmaint o sierwydd o berthynas i dynged dyfodol y Beibl a phe buasai yr Anfeidrol wedi anfon Grabriel i lawr o'r nef, i roddi gwy- bod i m beth a fydd yr Tsgrythyrau ar ol hyn—fod y Beibl yn yr amser dyfodol i gael ei godi, ei dderchafu, ac i fod yn uchel iawn yn mhlith meibion dynion. I. Y mae fod y Beibl yn bodoli yn awr yn y byd yn sicrhau nad ydyw ì gael ei golli o'r byd yn fuan. Y mae rhyw fanau neillduol ar wyneb y ddaear, ag y mae yn ym- ddangos megys pe byddai dynoliaeth, drwy gydsyniad cyífredinol, wedi eu dewis yn lleoedd cyflawniad y gweithredoedd mwyaf a phwysicaf. Er enghraifFt, Ddyífryn Esdraelon, rhyfel faes amherodraethau, lle y mae pob cenedl o'r hen fyd wedi gweled eu banerau yn wlyb gan wlith Hermon. A dyna fôr y Canoldir, Ue y mae amherodraethau yn aml wedi eu colli ac wedi eu hennill; ond y mae y Beibl wedi gweled ym- laddfeydd mwy lluosog a chreulawn nag un gwrthddrych arall ar wyneb y ddaear. Pe buasai yn bosibl i allu dynol ac uífernol ddiífoddi unrhyw beth ag sydd wedi ei wneyd gan Dduw, buasai y Beibl wedi ei ddifodi. ■Nid ydyw y Beibl ond cyfrol fechan, ac etto y mae y byd mawr yn gyfan wedi bod yn ymladd yn ei erbyn. Y mae y Beibl yn hen iawn, ac amcan mawr'y byd trwy yr holll oesau oedd ei ddifetha, Nid ydyw Cyf. II.-—23.