Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEli. Y BEDYDD CRISTIONOGOL A'R "BEIRNIAD." PARHAD O'E RHIPYN DIWEDDAF. 2. Awn yn mlaen at ei ail reswm dros y gosodiad:—"Nad oes yn yr hanes Ysgrythyrol am fedydd, ddim ag sydd yn groes i fedyddio drwy daenelliad." Yn ein cyfrif ni, mae y ffaith mai baptizo a arferir am fedyddio, yn cauad allan daenelliad yn dragywyddol, a'r holl hanes Ys- grythyrol am fedydd, yn gwneyd yr un peth. Nac yw, medd y traethod- wr ; nid yw fod loan yn bedyddio yn yr lorddonen, ac " yn A.inon, yu agos i Salim, canys dyfroedd lawer oedd yno," na'r ffaith fyned o Philip a'r Eunuch, i waered i'r dwfr, i fedyddio, yn groes i fedyddio trwy daenelliad. Gan hyny, nid oes synwyr mewn geiriau ; neu, mae geiriau y Beibl yn wahanol o ran eu hystyr i eiriau pob llyfr arall. Ond pa beth yw ei brof- ion dros ddywedyd fel hyn ? " Nid y w y geiriau, ' yn yr Iorddonen/ &c, o angenrheidrwydd yn arwyddo, fod Ioan yn sefyll yn yr Iorddonen, ond yn sefyll y'nghwr yr Iorddonen, a'i fod yn bedyddio â'i dyfroedd." Wel, pa wphaniaeth sydd rhwng, sefyll yn yr lorddonen, a sefyll ýnghwr yr Iorddonen ? Nis gallai Ioan sefyll ynddi oìl; gan hyny, os safai ynddi o gwbl, rhaid mai mewn cwr o boni y safai ; ac os oedd yn sefyll ynghwr yr Iorddonen, rhaid ei fod yn scfyll yn yr lorddonen. Na raid, medd y traethodwr, oblegid meddwl y gair cwr yw brinh (glàn mae'n debyg a feddylia efe wrth y gair hwn). Ond paham y dygir cwr yr Iorddonen o gwbl i'r ddadl? Yn yr Iorddonen, ac nid yn ei chwr, a ddywedir yn hanes bed- ydd Ioan. Wel, dygir ef am fod brawddeg debyg yn Joshua 3. 8:— " Pan ddelych hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen." Ond pa beth a feddylir yma wrth gwr dyfroedd yr lorddonen ? Os myn y traethodwr wybod, edryched i adn. 15 o'r un bennod, a cbaiff weled mai nid y làn, ond y dwfr gerllaw y làn, a feddylir: " A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu traed yr offeiriaid pedd yn dwyn yr arch y'nghwr y dyfroedd." Fel hyn y deallodd yroffeir- iaid orchymyn Duw, pan ddywedodd:—" Pan ddelych hyd gwr dyfroedd yr Iorddouen, sefwch yn yr Iorddonen." Aethant hyd yr Iorddonen, ac mor bell i'w chwr nes gwlychu eu traed ynddi; ac felly yr ydym niunau yn deall geiriau y Testament Newydd, ac yn oi y rhai hyn y gwnawn, heb dynu dim oddiwrthynt, na chyfnewid dim arnynt. Myn y traethodwr fod yr ymadrodd, " tu hwnt i'r Iorddonen," a " thros yr lorddonen, i'r man He y buasai Ioan ar y cyntaf yu bedyddio" (Ioan 1.28; 10.40), "yn Cyf. II.—1.