Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER: CîjloeìrbtHb Cljtetol Y BEDYDD CRISTIONOGOL A'R "BEIRNIAD."* Yn y cyhoeddiad sydd yn dwyn yr enw uchod, am Gorphenaf, 1860, ym- ddangosodd Traethawd ar y Bedydd Gristionogol. Yn ol y penawd (head- ìng) hwn, rhaid fod y pwnc yn un. gwir bwysig—yn un ag y mae yn anheb- gorol angenrheidiol am gael syniadau cywir am dano, oblegid y mae pob peth Cristionogol felly. Dywed y traethodwr yn y frawddeg gyntaf wír- ionedd sydd yn gwneuthur ymchwiliad yn oll-bwysig yn ein cyfrif ni:— " Y mae yn amlwg fod bedydd yn ordinhad o ddwyfol osodiad." Mae y dywediad hwn yn cin boddloni i'r eithaf, a da fuasai genym pe buasai pob brawddeg yn y traethawd yn cynnwys cymmaint o wirionedd. Ar ordin- had o "ddwyfol osodiad," ni ddylai dim ond gwirionedd gael ei ddywedyd yn anad un man, oblegid yma yr ydym yn cerddcd ar dir santaidd, a phob gwyrad yn tueddu i ddymchwelyd gosodiad Duw. Poenir ni wrth orfod dywedyd nad ydyrn yn canfod ond ychydig o frawddegau mor wir a'r un uchod hyd y nod ar y tudalen gyntaf o'r traethawd. Mae y bedwaredd frawddeg yn cynnwys camsyniad noeth, a ddylasai fod yn hysbysi'r traeth- odwr pan yn ysgrifenu. Dodwn hi gerbron :—" Ond y mae yr holl enwad- au ereill (ond y Bedyddw} r) yn barnu mai y dull Ysgrythyrol o fedyddio yw taenellu neu dywallt dwfr ar y person." A glywodd y traethodwr erioed sôn am eglwys Groeg, yr eglwys luosocaf ei deiliaid yn y byd, yr hon sydd yn trochi y bedyddiedigion deirgwaith ? Oni ŵyr efe mai ti-ochiadyvr yr unig ddull awdurdodedig yn eglwys Loegr, ac maipeth^cẅ/<?/ò/ynunig * öan fod cymmaint o amser wedi myned lieibio er pan ymddangosodd Traetliawd ar y Bedydd Cristionogol yn y Seirniad, y mae yn naturiol i'r darllcnydd ymofyngar i ddysgwyl am ryw eglurhad ar yr oediad hwn i wneuthur sylw o hono. Yr achos o'r oediad sydd fel y canlyn :—Gan mai yn y Beirniad yr ymddangosodd y tractliawd, barnwyd mai yn y Beirniad y dylasai yr adolygiad gael ymddangos, a gobeithid y barnasai ei berchenogion fod tegwch yn gofyn am iddynt agor ei dudalenau i hyny ; gan hyny, anfonodd un o weinidogion y Bedyddwyr at weinidog parchus perthynol i'r Annibynwyr i ofyn caniatad i adolygiad byr oddiwrth Fedyddiwr i ymddangos yn y Beirniad, gan fod tegwch yn gofyn i ni gael amddifíyn ein hunain ar yr un maes ag y gwneir ymosodiad arnom, ac addawodd yntau osod y cais gerbron perchenogion y Beirniad. Ond wedi aros am fisoedd lawer bellach, ni wclodd y perchenogion yn dda roddi caniatâd hyd etto. Ein hyder yw y bydd i bcrchenogion Seren Gomer ddang- os mwy o degwch at enwadau ereill. Feàllaí, wcdi y cwbl, mai fel hyn y mae pethau oreu, gan y cawn fwy o ofod i wneuthur ymchwiliad manwl i gynmvysiad y traethawd »ag a allem ddysgwyl ar faoa y Beirniad. Cyf. 1.—23. '