Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER: IOAN FEDTDDIWR. Gweinidogaeth Ioan yn ei pherthynas â Christ ac â Christionogaeth. Dywed Andrew Fuller, yn deilwng o dduwinydd llygadgraff, mai croes Crist ydy w canolbwynt crefydd y Beibl—fod pob dwyfol sefydliad a meddylrith naill ai yn gwasanaethu i'r groes, neu yn cyfodi o honi. " Tr ydoedd gwr wedi ei anfon oddiwrth Dduw, a'i enw Ioan ;" prif nodwedd gweinidog- aeth yr Ioan hwn ydoedd gwasanaethu i'r Arglwydd Iesu ; parotoi y ffordd o'i flaen, a darparu iddo bobl barod. Felly y dywedai Isaias y prophwyd wrth gyfeirio ato o bell; felly y dywedai angel yr Arglwydd wrth ragfynegu ei enedigaeth ; felly y dywedai Ioan wrth roddi cyfrif am dano ei hunan; felly hefyd y dywed yr ysgrifenwyr ysbrydoledig wrth gofnodi ei hanes. Ys dywedasom eisoes, nis gwyddom am was mwy ffyddlon, am oracl mwy goleuedig, nac am swyddog mwy hunan-ymwadol. Ei Arglwydd oedd ei gwbl; parotoi y ffordd o'i flaen, a chyhoeddi ei ddyfodiad, ydoedd ei swydd a'i hyfrydwch : dywedai yn barchus am dano ; cyfeiriai feddyliau a chalon- au ei holl wrandawyr ato ; a chyflwynai ei ddysgyblion gyda pharodrwydd i fyny iddo. Tr ydym wrth ddywedyd hyn yn golygu fod gan Ioau ei swyddogaeth ; fod Ioan yn deall ei swyddogaeth, ac yn ei gweinyddu gyda phob ffyddlondeb ; a bod y swyddogaeth ag oedd ganddo yn gynnwysedig mewn gwasanaethu i ddyfodiad ac i deyrnas yr Arglwydd Iesu; neu, yn ol iaith yr Ysgrythyrau, mewn " Parotoi y ffordd o fiaen yr Arglwydd," a " darparu iddo bobl barod." Ond wrth sefyll can agosed ag y goddefaein cnawd i ni ei wneuthur, yn ymyl y canolbwynt, y groes, a thremio yn ol ar oruchwyliaethau Jehofah, yr ydym yn gweled fod pob cyfran a chymmal o bob goruchwyliaeth yn cydwasanaethu i'r un amcan goruchel; sef i ddy- fodiad a theyrnas Iachawdwr y byd. Y mae cyfundrefn iechydwriaeth yn gadwyn fodrwyog, a phob modrwy yn cydio yn ardderchog y naill yn y lla.ll. Y mae Abel a'i aberth; Enos a'i addoliad cyhoeddus ; Abraham a'i ffydd yn gweithio ei hunan allan mewn ufydd-dod ; Moses a'i gyfraith; Aaron a'i allor ; y prophwydi a'u gweledigaethau ; yn gystal a'r Bedydd- iwr yn y diffaethwch, yn cyd-dderchafu eu llef, gan ddywedyd, " Paro- towch ffordd yr Arglwydd." Gellir dywedyd am y cwbl yn nghyd, neu am bob un ar ei ben ei hunan, megys ag y dywedir am Ioan, "Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef; nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni,—y gwir Oleuni, yr hwn sydd vn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r byd." Cyf. I.—12.