Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMEtt: Ŵ|oebì>mì> Cftẁmrtewl. Tra Mor, tra Brython."-" Heb Dduw, heb Ddiin," IOAN FEDYDDIWR. Dywedib mai gwobr rhagorolion y byd hwn yw eu coffadwriaeth. Ni raid i ni ddarparu ysgrif i fod yn goffadwriaeth i Ioan, canys y mae iddo goffadwriaeth mewn lle mwy diogel a chyssegredig. Dichon, er hyny, y bydd ei ddangos a'i ddeall yn ngoleuni ysbrydoliaeth yn fodd- ion i'n tywys at Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd. Ỳ mae Ioan wedi dyoddef camwri yn unig am mai Bedyddiwr hŷf oedd efe. Megys ag y dywedir am ryw ddynion, eu bod yn euog o ail-groes- hoelio iddynt eu hunain Eab Duw, gan ei osod yn watwor ; felly hefyd y byddis yn ail dòri pen Ioan, am ei fodyn ddigon hŷf i ddywedyd, "Éìd cyfreithlawn i ti." Tmddengys fod y gelyn yn fwy anfoddlon i fedydd nag yw efe i'r swper, am mai marwolaeth sydd yn y swper, a bod adgyf- odiad a bywyd yn y bedydd. Efe a all oddef ffurf o grefydd yn y byd, a rhith o fedydd hefyd, yn unig os caniateir iddo gael tynu yr adgyfod- iad a'r bywyd allan; ac am fod Ioan yn beiddio dywedyd wrtho, " Nid cyfreithlawn i ti," y mae ei ddigofaint yn ennyn, a Ioan yn gorfod dyoddef. T mae loan, fodd bynag, heb ei ben yn dalach nâ'u ddirmyg- wyr à'u penau arnynt; ac y mae ei "lef" yn y diffaethwch, a'i fedydd yn yr Iorddonen, er yn cythryblu ei wrthwynebwyr, yn boblogaidd yn nghyfrif y werin; canys y mae efe, er ei fod wedi marw, " yn llefaru etto." Mab oedd efe i offeiriad ; enw ei dad oedd Zecharias ; enw ei fam oedd Elizabeth; fe'i ganwyd oddeutu chwe mis cyn dechreuad y cyfnod Crist- ionogol. Tr oedd yn ddyn crefyddol a chydwybodol anarferol; yn genad ffyddlon, gwrol, ac yn bregethwr goleu a didderbyn wyneb. Ee'i bwr- iwyd i garchar yn nghanol ei ddefhyddioldeb ; fe'i dienyddiwyd pan nad oedd efe onid dyn ieuanc ; aeth Herod frenin ymaith â'i ben ef, ac a'i cyflwynodd ar ddysgl yn wobrwy i ferch ei frawd am ddawnsio ; eithr ei ddysgyblion ei hun a gymmerasant ei gorff ef, ac a'i claddasant; " ac a aethant ac afynegasant Vr Iesu." Cymmered y darllenydd amynedd, oblegid nid ydym wedi gorphen, ac nid ydym yn addaw gwneuthur hyny yn ebrwydd. Cyp. L—1