Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 445. HYDREF, 1852. Cyf. XXXV. RHYDDID. LLYTHYR XI. CAN Y PARCH. O. MICHAEL " Y creadur, * yn ocheneidio, * am ryddid gogoneddus plant Duw." Ar y seithfed o Orphenaf, 1607, gohiriwyd y Seneddr, ac ni chyfarfyddodd mwy hyd Chwefror, 1610. Yn y cyfamser, yr oedd Iago a'i wraig, canys nid oedd damaid o wa- haniaeth rhyngddynt, yn gloddesta a champ- io. Yr oedd y brenin, erbyn h'yn, wedi dysgu gwisgo am dano ei hun, a'i wisg gyff- redin oedd o bali (velvet) gwyrdd, yr un lliw a mantell y ddaear,—y cefryn wedi ei oreuro, ac un plufyn hir yn chwyfio ynddo,—ffrilen fawr am ei wddf, a chorn ŷch mawr, goreur- edig o dan ei gesail. Yn y wisg ddigrif hon y byddai yn hela a champio yn y dydd, wedi liyny gloddesta ei chalon hi yn y nos, a chysgu hyd berfedd dranoeth. Yr oeddgan Ann ac yutau eu maldodion (favourites) yn gwasanaethu i'w pleserau,—John Ramsey, Yiscount Haddington; James Hay, Iarll Carlisle ; Robert Car, Iarll Rochester (nid y ffraethwr), yr hwn a ddringodd i binacl mawrhydri—y tri yna oeddynt Ysgotiaid tlodion a gyfoethogwyd gan Iago. Philip Herbert, Iarll Penfro, Sais oedd ef. Byddai Iago, heblaw campio gyda'r rhai'n, arbryd- iau yn fawr ei ffwdan yn dysgu Lladin a duw- inyddiaeth iddynt. Yr oedd y fath fywyd yn dreulfawr iawn, ac nid oedd eiddo y goron yn haner digon, a sutyceid cymhorth heb fyned i'r Seneddr ? ac yr oedd mor an- hawdd cael y brenin yno, a chael march i ysgraff ? Dorset y trysorydd, ac wedi ei farw ef, Cecil, yr hwn a gymerodd y swydd, a ddyfeisient bob ffordd : gwerthwyd yrhawli bysgota ar ochrau Lloegr ac Ysgotland i'r Dutch. Rhyfygu gwerthu edwicion newydd. Cyfodi drwy deyrngri gyllid ar nwyfau tra- mor. Cyfodi hen dréth wriogaethol a elwid, Gobr y Marçhog (Jcnight fee) ar y marchog- ion newyddion. Ac arferai Iago anrhydeddu â'i bresenoldeb wleddoedd y gwahanol gorff- oriaethau (ÿuüds) crefftyddol yn y ddinas, a derbyn» anrhegion ganddynt ar y pryd. Eithr yr oedd y cyfan yn rhy fach. Yn y 55 flwyddyn 1608—9, bui'r Iseldiroedd amodi heddwch â'r Yspaen am ddeuddeng mlyn- edd (ffordd esmwyth i roddi rhýfel heibio) ; ac, wrth gwrs, crogwyd arfau Awstria a Ffrainc; a Iago a gafodd gydnabod am £818,000., dyled Holland i Loegr; ac add- ewid o'r taliad mewn symiau o £60,000 yn flynyddol. Eithr darfod yr oêdd y cyfan. Ceisid gan y brenin gynilo ei bleserau, a rhoddi mwy o'i amser at faterion y lîywodr- raeth, ond efe a ddigiai mewn eiliad wrth son am y fath beth; a dywedai, gwell genyf, myn clwyfau Duw (rhegwr dychrynllyd oedd), fyned yn ol i Ysgotland na bod fel ci wrth gadwyn byth yn rhwym wrth Fwrdd yr Argynghor (cabinet). Wel, ynteu, rhaid galw y Seneddr, ac felly y bu, ar y 14eg o Chwefror, 1610. Cecü y trysorydd a osododd fater cymhorth arianol y brenin o flaen Tŷ yr Arglwyddi. Aeth y Cyffredin o'u cofau am eu braint; dadleuai Bacon fod y fraint freninol yn gallu gwneud hyny, neu gyfodi arian drwy deyrngri yn ngwyneb angeu. Yr oedd Marsiandwr Twrc- aidd, o'r enw Bates, wedi nacâu talu cyllid y teyrngri ar ryfon (currants), a phethau cy- ffelyb, yn y flwyddyn o'r blaen, a'r mater wedi ei gyfodi i brawf yn Nghwrt y Syllty (Exchequer Court), pan y cawd y ddjedfryd o du y goron. Ond mynai y Cyffredin chwilio i seiliau y ddedfryd. Galwodd y brenin y ddau Dŷ o'i flaen i Whitehall, a rhoddodd ddarlith ragorol iddỳnt ar bwnc y " Fraint ddwyfol;" neu, etholediga.eth bersonol adi- amodolbreninoedd. Ei brif ddadl oedd, mai delw Duw ar y ddaear oedd brenin; ac fel Duw^ galíai greu a dadgreu, lladd a bywhau, gosod deddfau a'u difodi, &c, fel y mynai, heb fod yn gyfrifol i undyn. Eithr y Cyff- redin, wedi dychwelyd i'r Tŷ, a ddangosasant effaith y ddarlith arnynt drŵy wrthod treth y rhyfon, ac un arall ar frethyn llydan ; anfon archeb at ei fawrhydi yn dymuno arno ddi-