Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 443. AWST, 1852. Cyf. XXXV. RHYDDID. LLYTHYR IX. C A N Y P A R C H. O. MlOHAEL, Elsbeth, y Forwyn Frenines, a ddaeth i deyrnasu ar ol Mari. Merch ydoedd hi i Ann Boleyn. Ganwyd hi yn y fl. 1533. Protestant ydoedd o ran ei hegwyddorion crefyddol; eithr cydffurfiodd â Phahydd- iaeth, yn nheyrnasiad ei chwaer, rhag ofn am ei bywyd. Er hyny, yr oedd ei heg- Wyddorion yn ddigon adnabyddus; fel yr oedd llygaid y Protestaniaid arni fel eu nodd- fam pan y deuai i'r orsedd, a'r Pabyddion a wyddent mai tymor machlyd haul iddynt hwy fyddai yr adeg hono. Yr oedd y Parliament yn eistedd pan fu farw Mari; ond, wrth gwrs, yr oedd ei marwolaeth yn ddiddymiad ar Dŷ y Cyff- redin ; eithr yr Arglwyddi a ddymunasant arnynt ymwyddfodoli yn eu Xŷ hwy, a'r Canghellydd a hysbysodd iddynt, os bodd- lon oeddynt, fod eu harglwyddiaeth yn gofyn iddynt fyned gyda hwy i'r palas er cyhoeddi y dywysoges Elsbeth yn frenines. Ar y gair, dyna megis un fonllef, " Byw fyddo y frenines Elsbeth." Ac ar y 17eg o Dach- wedd, 1558, hi a gyhoeddwyd yn mhob man gan ringyllwyr, yn frenines Prydaîn Fawr, yn nghanol y llawenydd penaf. Coronwyd hi, wedi petrusdod gan yr esgobion Pabaidd, gan Oglethorp, esgob Carlisle, ar y 15fed o Ionawr, 1559, yn Westminster. Yr oedd ei thad wedi crogi y felldith o fasdarddiad uwch ei phen hithau; a rhaìd, mewn canlyniad, oedd galw y Seneddr yn nghyd i'w symud ymaith : yr hyn a wnawd ar y 25ain o'r un mis. Yna troesy Seneddr ei meddwl at newid y grefydd, a throi y siwmp unwaith yn rhagor. Adsefydlwyd y ddeddf a waharddai bob ymyraeth gan frawdwriaeth dramor â Lloegr ; a gwnawd i holl aelodau y Seneddr, a phob swyddog, dyngu Hŵ o oruchafiaeth, sef, mai y frenines oedd unig lywodraethydd pob mater tymorol ac ysbrydol yn Mhrydain Fawr. Adsefyd- iwyd amryw o gyfreithiau crefyddol Ior- werth; a'r Llyfr Gweddi Cyffredin, diwyg- iedig. Ond, bu adsefydliad y llyfr hẃn yn achos o ddadleu brwd yn y Seneddr, yr hyn 43 a gyffroes gasineb creulon rhwng ýr aelodau a'u gilydd. Y ddadl oedd, nid pa un a oedd hawl, neu beidio, gan y Seneddr i ỳm- yryd â chrefydd mewn un modd ; eithr, pa un a oedd ganddi hawl, neu nad oedd i núwid y grefydd waddoledig ? Cafwyd mwyrif an^ ferthol o'r ochr gadarnhaol. Mater arall a gyflawnwyd gan y Seneddr hon oedd, anfon anercheb at y frenìnes i ddymuno arni briodi. Un o bleserau Elsbeth drwy ei hoes oedd, hoedena (flirtì gyda gwrywod; er nad oedd fyno hi â phriodi. Nid oedd hi byth heb garmon ; a'r gŵr a lanwai y swydd hono ar y pryd hyn oedd Robert Dudley, mab ì Northumberland ; gŵr priod, a gwalch oedd i fyny â phob direidi. Gorlwytbid hwn gan Elsbeth â swyddi goruchel, a chreodd ef yn Iarll Leicester. Cafoddy gair, yn, mhen tua blwyddyn ar ol hyn, o ladd eî wraig, gan fwriadu prù)di y frenines. Eithr siom- wyd ef, canys Elsbeth a ddywedodd ẃrtho, " Ni fyn<jf fi yma onid unfeistres, a dim cy- maint ay un meietr." Yr oedd gwaith y frenines yn chwareu gyda'r dyn hwn, yn peri iddi gael rhyw air lled ysgafh, yr hyn fu yr achos o'r anercheb uchod. Yr oedd ateb Elsbeth yn dangos ei bod yn rhyfeddu at haerllugrwydd y Seneddr, — " Drwy Rad Duw, ei bod yn meddwl priodi rhyw bryd, eithr nas gaüai benderfynu yr amser." Gwrthododd Fnilip o Yspaen hefyd, yr hwn a gynygiodd ei phriodi tua'r amser hyn. Torwyd y Seneddr i fyny ar yr 8fed o Fai; ac ar y 15fed o'r un mis, galwyd y gwŷr llên yn mlaen i dyngu cydymffurfiad â'r gref- ydd newydd. Yr holl esgobion a nacasant, ^ oddieithr Kitchen, esgob Llandaf. Eithr , am yr ofieiriaid yn gyffredin, ni nacâodd :f onid tua chant, o naw mil a phedwar cant, a * throi y siwmp yn eithaf taclus. Ymddyg- wyd yn lled dyner tuag at yr anufuddion, canys.yr oedd hi yn lled foreu, eto, i ddech- reu yr erlid a fu gan Bes ar yr Anghyd- ffurfwyr. 4 , Ein hanes, yn awr, a'n äfg, i^Ysgotland, fleyr oeddy Dìwygiad ya caẃef iìdwyn yn