Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEREN GOMER. Rhif. 442. GORPHENAF, 1852 Cyf. XXXV. Y WEITHRED O EEDYDDIO. GAN IORWERTH CLAN ALED. Beth yw Bedtdd ? Taenellu dwfr ar— tywallt dwfr ar—neu drochi y person yn y dwfr ? Y mae hwn yn bwnc mewn dadl. Dymunir sylwi yma, mai nid yn nghylch "y dull o fedyddio" y mae y ddadl; os y dull yw pwnc y dd:>dl, yna caniatcir mai un dull sydd gan daenellwyr—a dull arall gan y trochwyr; felly y mae mwy nag un bedydd : ond caethiwir y ddadl i'r u-eithred o fed- yddio. Nid oes gan y Beibl yn fedydd, ddim ond trochi yr holl gorff mewn dwfr; y weithred benodol a neillduol yna a orchy- mynwyd gan Grist: nid oes dim bedydd inewn dim arall ond hyny. Son am ein dull ni a'ch dull chtoit/iau, nid ydynt ond geiriau disynwyr. Ystyr y gair baptizo yw trochi ; o ganlyniad, yr un peth yw son am wahanol däulliau—a gwahanol ddulliau o drochi. Taenellu dwfr ar berson sydd mor bell oddi- wrth fod yn fedydd, ag yw y dwyraiu oddi- wrth y gorllewin. I. Ystyr BENDERFYNOL AC UNIGOL y gair Groeg am fedydd yw trochi : nid oes iddo un ystyr arall, yn yr arferiad o hono yn ysgrifeniadau y Groegiaid, yr Athronwyr, Haneswyr, na Beirdd. Dyna ei ystyr wreiddiol a phriodol. 1. Dyma farn y Geirîyfrau. Gallwn nodi degau o'r cyfryw a sicrhant i ni mai ystyr gyntefig a phriodol baptizo yw trochi; a r degau hyny yn eiddo awduron ag ydynt yn proffesu tamelliad fel bedydd. Nid yw y rhai hyn wedi cyfieithu y gair gymaÌDt ag unwaith, yn dywallt na thaeneün. 2. Dymafarn Duwinyddion, o barth ystyr wreiddiol a phriodol y gair: ac wrth nodi rhestr o'r rhai hyn, ni nodwn neb onä taen- ellwyr proffesedig. (1.) Barn Simon y Jesuit, ieithwr dysgedig perthynoli Eglwys Rhufain; dechreuwn yn Eglwys Rhufain, o herwydd mai hi yw Mam taenelliad. " Baptizo a arwydda yn llythyrenol, trochi ; ac nyd y dydd hwn, trwy y dwyrain, ni chyf- lawnir bedydd mewn un dull arall; gwneir fel «yn yn ol yr arferiad foreuol yn mhìith y cyn- grutionogion." 37 (2.) Awn at Eglwys Loegr, a gwrandawn ar Doctor Whitby, yn ei feirniadaeth ar " Claddwyd ni gydag ef drwy fedydd," &c, dywed, fod hyny yn cymeryd Ue trwy droch- iad. Trochi oedd unig ddull Eglwys Loegr yn ei sefydliad cyntaf. Canfyddir liyny yn y Llyfr Gweddi Cyffredin, yr hwn a argraff- wyd trwy awdurdod y Brenin a'r Senedd yn 1549. Geilw y bedydd, yn drochi yn ddi- esgeulus. (3.) Dyma farn Doctor Doddridge, un o'r Annibynwyr: cyfieitha fel hyn j^—''A ydych chwi yn aÜuog i gymeryd eich bedyddio â'r bedydd, gan gael eich suddo i'r olygfa hono o ddyoddefaint, â'r hon ar fỳr y'm bedyddir, gan fod wedi fy ngorchuddio am amser." (4.) Dywed Martin Luther, fod baptism yn tarddu o'r Groeg, ac yo. arwyddo soddi. (5.) Dywed John Calvin—" y gair baptize a arwyddatrochi." Gallwn nodi ugeiniauo o dystiolaethau cyffelyb o eiddo taenellwyr babanod, heb gymaint a defnyddio un feirn- iadaeth o eiddo y Bedyddwyr. Ond gwader y rhai hyn, a gwrthbrofer hwynt yn gyntaf, cyn galw am ragor. II. Fe nodir tri gair gan daenellwyr,- a haersnt fod y tri hyny mor briodol a'u gilydd i ddynodi bedydd; sef, tywallt, taenellu, a throchi: haerant fod y tri cys- tal a'u gilydd: caniatânt drochi yn fedydd, a haerant fod y lleill hefyd—barnwn ninau mai trochi yn unig sydd yn fedydd, ac nid un peth arall. Dyma lle mae grym y ddadl. 1. Golygwn nad yr un ystyr sydd yn per- thyn i'r tri gair: nid taenellu yw ystyr y gair tywallt; ac nid yr un o'r ddau yw ystyr y gair troohi: y mae tri o ystyron gwahan- iaethol i'r tri gair—fel y mae yn eglur i bawb. 2. Os yw y tri gair yn dynodi bedydd, yna rhaid fod tri math o fedydd yn bod : bedydd y taenellwyr, bedydd y tywalltwyr, a bedydd y trochwyr. Dywed yr Ysgrythyr nad oes dim ond un. 3. Os dywedir mai gwahanol ddulliau ar yr un bedydd ydynt, y mae hyny yn non- sense. Yn ol barn y taenellwyr, ystyr y